Gareth Bale: 'Mwy yn gwybod am hanes Cymru nawr'
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewyr Cymru'n gwybod y bydd Cwpan y Byd yn gyfle "arbennig" i roi llwyfan byd-eang i'r wlad, meddai Gareth Bale.
Bydd Cymru'n cystadlu yn y twrnament eleni am y tro cyntaf ers 1958.
Mae carfan Rob Page bellach wedi cyrraedd Qatar cyn eu gornest agoriadol yn erbyn UDA ddydd Llun.
Cyn iddyn nhw adael fe ryddhaodd Cymdeithas Bêl-droed fideo o'u cân swyddogol ar gyfer Cwpan y Byd - fersiwn newydd o 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan sydd yn cynnwys lleisiau'r cefnogwyr.
Yn ôl Bale, mae poblogrwydd y gân yn adlewyrchu'r brwdfrydedd diweddar mewn dysgu mwy am hanes y genedl, gan gynnwys ymhlith y chwaraewyr.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn y fideo mae delweddau o'r chwaraewyr yn gymysg â chlipiau sy'n dangos digwyddiadau nodedig yn hanes diweddar Cymru, o brotestiadau iaith a boddi Tryweryn, i streic y glowyr a dyfodiad datganoli.
'Yma o Hyd' yn ysbrydoli
Mae'r gân ei hun wedi bod yn boblogaidd ymhlith y chwaraewyr ers tro, gyda'r amddiffynnwr Connor Roberts wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn gwrando arni cyn pob gêm er mwyn rhoi rhywfaint o "dân yn ei fol".
Roedd chwaraewr mwyaf profiadol y garfan, Chris Gunter, ymhlith y rheiny wnaeth annog y Gymdeithas i wahodd Dafydd Iwan i'w chanu cyn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Awstria.
Yn dilyn poblogrwydd y penderfyniad yna fe wnaed yr un peth cyn y ffeinal yn erbyn Wcráin.
Ar ôl y fuddugoliaeth daeth allan ar y cae i ganu unwaith eto, gyda'r chwaraewyr y tro hwn - a Bale yn eu plith.
"Mae pobl yn gwybod mwy am ein hanes ni nawr, hyd yn oed pobl yn ein gwlad ein hunain yn dysgu mwy am ein hanes, ac o le 'dyn ni wedi dod," meddai'r capten wrth BBC Cymru Fyw.
"Hyd yn oed fel chwaraewyr 'dyn ni dal yn dysgu, achos nawr bod ni'n fwy llwyddiannus mae Cymru'n cael ei siarad amdano lot mwy."
Roedd Bale yn dyst i effaith Euro 2016 ar Gymru yn nhermau pêl-droed, gan ysbrydoli eu rhediad i'r rownd gyn-derfynol cyn helpu'r tîm i gyrraedd Euro 2020 hefyd.
Ond mae'n gwerthfawrogi hefyd beth yw effaith ehangach cyrraedd twrnament rhyngwladol i wlad gymharol fechan fel Cymru, gan gynnwys y cyfle eleni i gynrychioli'r wlad ar y llwyfan mwyaf un.
"Dyw e ddim jyst am y pêl-droed, dwi'n meddwl bod ni'n sôn am dwf y wlad fan hyn hefyd," meddai.
"Gobeithio yn y dyfodol, pan 'dych chi'n siarad â phobl o wledydd eraill fyddan nhw ddim yn gofyn lle mae Cymru, achos byddan nhw'n gwybod.
"Ac mae hwnna'n rhan arbennig o'n stori ni hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2022