Cyhoeddi adolygiad wedi llofruddiaeth Logan Mwangi
- Cyhoeddwyd
Yn ddiweddarach ddydd Iau bydd casgliadau adolygiad ymarfer plant yn cael ei gyhoeddi yn dilyn llofruddiaeth Logan Mwangi ym Mhen-y-bont.
Yn Llys y Goron Caerdydd fis Mehefin cafwyd ei fam, ei lys-dad a llanc 14 oed yn euog o lofruddio'r bachgen pump oed.
Cafodd corff Logan ei adael "fel sbwriel" ger Afon Ogwr yn ardal Sarn ddiwedd Gorffennaf y llynedd.
Mae gan fyrddau rhanbarthol diogelu plant gyfrifoldeb i gynnal adolygiadau mewn achosion difrifol lle daeth camdriniaeth i'r amlwg.
Mae adolygiad Bwrdd Cwm Taf Morgannwg i lofruddiaeth Logan Mwangi yn un pellgyrhaeddol, ar draws asiantaethau.
Dan y chwyddwydr mae ymateb gwasanaethau cymdeithasol sir Pen-y-bont, y cyngor, yr awdurdod iechyd ac addysg yn y misoedd cyn y farwolaeth.
Asesu, dysgu gwersi a gwella'r ddarpariaeth yw'r pwrpas - canfod a yw'r dulliau presennol o ddiogelu a gwarchod plant yn y sir yn effeithiol.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Logan fel carcharor yn nyddiau ola' ei fywyd byr.
Roedd ganddo Covid, fe gafodd ei gadw'n gaeth yn ei stafell wely, ei orfodi i wisgo mwgwd, ac aeth heb fwyd a chael ei guro'n barhaus.
Pan fu farw roedd gan Logan 56 o anafiadau allanol, ond y rhai mewnol a'i laddodd.
Roedd ei afu wedi rhwygo, tyllau yn ei goluddyn a'i ymennydd wedi dioddef trawma.
Beio'i gilydd am gamdriniaeth a dioddefaint Logan y gwnaeth ei fam Angharad Williamson, ei lys-dad John Cole a llys fab arall Cole, Craig Mulligan.
Carcharwyd Williamson am 28 mlynedd, Cole am 29 mlynedd, a bydd Mulligan - oedd ond yn 13 oed ar adeg y drosedd - dan glo am o leiaf 15 mlynedd.
Logan Mwangi: Amserlen
16 Awst 2020 - Fe ddaeth Logan i sylw'r gwasanaeth iechyd wedi i'w fam fynd ag ef i'r ysbyty yn amau ei fod wedi datgymalu ei ysgwydd. Roedd wedi torri ei fraich, a cafodd yr achos ei gyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol yn sgil yr oedi cyn cael triniaeth.
21 Ionawr, 2021 - Mewn galwad 101 dywedodd Williamson mai Mulligan oedd wedi gwthio Logan i lawr y grisiau gan dorri ei fraich.
16 Mawrth, 2021 - Logan yn cael ei roi ar y gofrestr amddiffyn plant. Gweithwyr cymdeithasol nawr yn gorfod ymweld â'r teulu bob 10 diwrnod.
Mehefin 2021 - Gweithwyr cymdeithasol Pen-y-bont yn tynnu Logan o'r gofrestr amddiffyn. Doedden nhw ddim yn ystyried fod y risg bellach yn sylweddol, a cafodd ei israddio i blentyn mewn angen.
Gorffennaf 2021 - Cais rhieni maeth Mulligan am iddo adael eu gofal nhw. Y tro cyntaf iddyn nhw wneud cais o'r fath i'r gwasanaethau cymdeithasol mewn 40 mlynedd o faethu. Rhybuddion nhw nad oedden nhw'n gallu ymdopi gydag ef, a'i fod yn codi ofn arnynt.
21 Gorffennaf 2021 - Fe brofodd Logan yn bositif am Covid-19 a bu'n rhaid iddo hunan-ynysu.
26 Gorffennaf 2021 - Y llysoedd teulu yn caniatáu cais Cole a Williamson i gael gofalu am Mulligan, ac fe symudodd at y teulu.
29/30 Gorffennaf 2021 - Logan yn dioddef ymosodiadau erchyll. Y tri llofrudd yn beio'i gilydd. Afu a pherfedd Logan yn cael eu rhwygo, a niwed difrifol i'w ymennydd. Ond o gael gofal meddygol byddai fwy na thebyg wedi gallu goroesi.
30 Gorffennaf 2021 - Y gweithiwr cymdeithasol Deborah Williams, oedd yn gyfrifol am Mulligan, yn ymweld â'r fflat ac yn treulio 20 munud yn siarad gyda'r teulu. Ond doedd hi ddim yn cael mynd mewn am fod gan Logan Covid. Roedd Logan yn ei ystafell wely ar y pryd yn dioddef o'i anafiadau.
02:43, 31 Gorffennaf 2021 - Lluniau camerâu cylch cyfyng yn dangos Cole a Mulligan yn taflu corff Logan fel sbwriel ger Afon Ogwr.
Adolygiad estynedig yw'r un yma am fod Logan wedi marw o fewn chwe mis o fod ar gofrestr amddiffyn plant.
Mae disgwyl i adolygiad Bwrdd Cwm Taf Morgannwg wneud cyfres o argymhellion - rhai'n debyg o fod ag arwyddocâd cenedlaethol.
Bydd y cynllun gweithredu'n cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2022