Logan Mwangi: 'Pryderon difrifol' o hyd am wasanaethau plant cyngor

  • Cyhoeddwyd
LoganFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Logan Mwangi ei dynnu oddi ar y gofrestr diogelu plant fis cyn ei farwolaeth

Mae "pryderon difrifol" o hyd am wasanaethau plant cyngor sirol Pen-y-bont ar Ogwr, meddai arolygwyr.

Er gwaethaf marwolaeth Logan Mwangi, 5 oed, ym mis Gorffennaf 2021, dywedodd Arolygiaeth Gofal Cymru fod angen cymryd "camau brys".

Mae rhywfaint o welliant wedi'i wneud ers yr arolygiad diwethaf ym mis Ebrill 2021, yn ôl yr arolygiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Gebbie, aelod cabinet cyngor Pen-y-bont ar Ogwr dros wasanaethau cymdeithasol a chymorth cynnar, eu bod "wedi rhoi sicrwydd i'r arolygwyr y bydd y cynnydd yr ydym eisoes wedi'i wneud yn parhau."

Ymatebodd y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, Eluned Morgan, gan ddweud ei bod yn "siomedig i weld bod angen y gwelliant".

Ond, meddai, mae Llywodraeth Cymru wedi trafod gydag arweinydd y cyngor "i wneud yn siŵr eu bod nhw yn cymryd yr adroddiad yma o ddifri a'u bod nhw wedyn yn dilyn yr argymhellion sy'n gael eu gwneud".

Cynhaliwyd yr arolygiad rhwng 23 Mai a 27 Mai 2022, bron i flwyddyn ar ôl marwolaeth Logan Mwangi.

Cafodd ei lofruddio gan ei fam, ei lystad a bachgen yn ei arddegau. Cafwyd hyd i'w gorff yn Afon Ogwr, ger ei gartref yn Sarn, sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd y tri ddedfrydau oes.

Problemau recriwtio a chadw staff

Dywedodd yr adroddiad arolygu fod pryderon ynghylch gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth Pen-y-bont ar Ogwr a'i allu i amddiffyn a hyrwyddo llesiant plant a theuluoedd sy'n agored i niwed.

Dywedodd yr arolygwyr fod problemau recriwtio a chadw staff yn ogystal ag absenoldeb staff, a bod hyn wedi arwain at golli staff profiadol a "gorddibyniaeth" ar weithwyr cymdeithasol asiantaeth oedd yn ddibrofiad.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Logan Mwangi, 5, ym mis Gorffennaf 2021

Cafodd y pwysau hwn ynghyd â "diffygion mewn rhai systemau a phrosesau" gan gynnwys arolygiaeth gan reolwyr, "effaith andwyol sylweddol ar gyflenwi rhai gwasanaethau plant", meddai'r arolygwyr.

Dywedodd prif arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru ei bod yn falch o weld bod rhai gwelliannau wedi'u gwneud ers mis Ebrill 2021.

"Fodd bynnag, mae'n rhaid cymryd camau brys pellach i sicrhau a chynnal gwelliant yn y gofal a chymorth i blant a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr," meddai Gillian Baranski.

"Mae'n rhaid blaenoriaethu'r gwaith hwn er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant.

"Byddwn yn parhau i gysylltu ag uwch-arweinwyr yr awdurdod lleol ac rydym yn monitro perfformiad yr awdurdod lleol yn agos."

Bydd adolygiad sy'n edrych ar amgylchiadau marwolaeth Logan Mwangi, a rôl yr awdurdodau yn ei fywyd ef a'i deulu, yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Pynciau cysylltiedig