Cap cyntaf i Joe Hawkins yn erbyn Awstralia
- Cyhoeddwyd
Bydd canolwr y Gweilch Joe Hawkins yn enilll ei gap rhyngwladol cyntaf wrth i Gymru herio Awstralia yn eu gêm olaf yng Nghyfres yr Hydref.
Mae Hawkins, 20, yn llenwi'r bwlch yn sgil anaf i Owen Watkin, ac mae'r clo Alun Wyn Jones yn dychwelyd yn lle Ben Carter.
Ag yntau dan bwysau yn sgil canlyniadau diweddar Cymru, mae'r hyfforddwr Wayne Pivac wedi gwneud chwech newid i'r tîm a gollodd o 13-12 i Georgia.
Mae Leigh Halfpenny, Rio Dyer, Gareth Anscombe a Taulupe Faletau yn disodli Louis Rees-Zammit, Josh Adams, Rhys Priestland a Josh Macleod.
Dyw Rees-Zammit, Nick Tompkins, Christ Tshiunza, Dafydd Jenkins a Tommy Reffell, sy'n chwarae yn Lloegr, ddim ar gael gan fod y gêm yn cael ei chawrae tu hwnt i'r ffenestr ryngwladol.
Mae Hawkins wedi chwarae 21 o gemau i'r Gweilch, gyda chwech o'r rheiny o'r gic gyntaf.
Y canolwr yw'r pumed chwaraewr i gael cap cyntaf yr hydref hwn, gan ddilyn Dyer, Sam Costelow, Macleod a Jenkins.
Mae'n fab i gyn-ganolwr Aberafan Dai Hawkins, ac mae ymhlith naw o chwaraewyr y Gweilch sy'n dechrau'r gêm yn erbyn Awstralia.
"Mae'n gyffrous iawn," meddai Pivac. "Mae wedi bod yn hyfforddi yn y camp am y mis diwethaf ac mae'n dysgu lot ac yn edrych yn dda wrth hyfforddi felly mae'n cael cyfle."
Bydd Alun Wyn Jones yn chwarae ei 167fed gêm ryngwladol. Dyma fydd y tro cyntaf iddo ddechrau gêm i Gymru ers colli i'r Eidal ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Mawrth.
Daeth ymlaen i'r maes fel eilydd yn nhair gêm brawf yr haf yn erbyn De Affrica, ac yng ngêm gyntaf Cyfres yr Hydref eleni yn erbyn Seland Newydd, ond cafodd ei adael o'r garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Ariannin a Georgia.
Mae'r asgellwr Dyer a'r maswr Anscombe wedi eu dewis yn lle Adams a Priestland, sydd ar y fainc.
Mae Pivac hefyd wedi ffafrio profiad wrth ddewis Jones, Faletau, Halfpenny, George North, Ken Owens a'r capten Justin Tipuric.
Mae prop y Gweilch Tomas Francis yn dychwelyd i'r fainc ar ôl colli'r fuddugoliaeth yn erbyn Ariannin a'r golled i Georgia.
Tîm Cymru i wynebu Awstralia:
Halfpenny; Cuthbert, North, Hawkins, Dyer; Anscombe, T Williams; G Thomas, Owens, D Lewis, Beard, Alun Wyn Jones, Morgan, Tipuric (capten), Faletau.
Eilyddion: Elias, R Jones, Francis, Carter, Macleod, Hardy, Priestland, Adams.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2022