Cwpan y Byd: Cymru ac Iran angen y fuddugoliaeth
- Cyhoeddwyd
Gyda'r naill dîm na'r llall wedi ennill eu gemau cyntaf yng Nghwpan y Byd, mae cefnogwyr Cymru ac Iran yn gwybod mai dim ond buddugoliaeth wnaiff y tro ddydd Gwener.
Llwyddodd y crysau cochion i gipio pwynt pwysig yn eu gêm agoriadol erbyn yr UDA, ond colli'n drwm o 6-2 i Loegr oedd hanes Iran ddydd Llun.
I Gymru, mae angen triphwynt felly, ac mae'r cefnogwyr yn gobeithio am fwy o chwarae ymosodol wedi effaith bositif Kieffer Moore fel eilydd yn erbyn UDA.
Ond i Iran, mae'n llawer mwy na gêm bêl-droed, gydag un ddynes yn dweud wrth BBC Cymru Fyw bod y tîm yn symbol pwysig wrth i brotestwyr wrthwynebu'r llywodraeth yno.
Wrth sgwrsio dros baned, mae Morgan Tebbs yn credu bod angen i Gymru fynd am dactegau mwy ymosodol yn erbyn Iran, er mwyn gwella eu gwahaniaeth goliau.
"Dwi'n meddwl bod angen gwneud beth 'naeth Lloegr a mynd pedwar yn y cefn, Mepham allan," meddai.
"A bydden i'n 'neud yn siŵr bod Brennan Johnson a Kieffer Moore ar y cae - hyd yn oed os mae'n golygu gadael Bale allan."
Gadael Bale allan - yr arwr wnaeth sgorio'r gic o'r smotyn i unioni'r sgôr yn erbyn yr UDA?
"Dydy o ddim am ddigwydd... ond y ffordd 'naethon nhw chwarae noson o'r blaen dyla' fo adael Ramsey a Bale allan," meddai Ben, tad Morgan.
"Dwi wrth fy modd 'efo Ramsey, ond roedd o'n teimlo fel bod o wedi rhewi y noson o'r blaen," ychwanegodd.
"Mae Rob Page yn gallu bod yn rhy geidwadol ar adegau - ond mae'n anodd ei feirniadu achos o lle 'dyn ni wedi cyrraedd."
Mae Dave Morgan yn poeni y gwelwn ni Iran gwahanol i'r un gollodd mor drwm yn erbyn Lloegr.
"Ond be' dy'n ni ddim isie' ydy bod Iran angen profi pwynt ar ôl y gêm ddiwetha', tynhau pethau, a bod ni'n ei chael hi'n anodd sgorio goliau," meddai.
Dywedodd Huw Edwards ei fod wedi siarad â chefnogwyr Iran yn Doha sydd hefyd yn disgwyl perfformiad gwell yn eu hail gêm.
"Roedden nhw'n meddwl bod nhw 'di chwarae'n wael iawn, tipyn salach na dylen nhw, ac ro'n nhw'n disgwyl codi eu gêm yn erbyn Cymru," meddai.
"Maen nhw'n disgwyl lot o newidiadau i'w tîm."
Protestiadau Iran yn gefnlen i'r cyfan
Un o'r rheiny oedd Mohammad, dyn ifanc o Iran sydd yn Qatar gyda'i dad yn gwylio Cwpan y Byd.
"Dwi'n meddwl 'nawn ni ennill, dwi'n siŵr. Mae Iran yn dda," meddai.
Ond dydy o ddim yn hapus fod y chwaraewyr wedi gwrthod canu'r anthem cyn iddyn nhw herio Lloegr, a hynny yn dilyn y protestiadau 'nôl adref.
"Dydyn nhw ddim yn cynrychioli Iran," meddai, "mae pob person o Iran yn caru eu gwlad, dwi'n siŵr.
"Does dim problem gyda'r llywodraeth, mae popeth yn iawn."
Ond mae'r protestiadau yn Iran yn gefnlen i'r cyfan cyn belled ag y mae pobl y wlad yn y cwestiwn.
Ers wythnosau mae protestiadau wedi bod yn erbyn y llywodraeth, wedi i ddynes farw ar ôl cael ei harestio gan heddlu moesoldeb y wlad.
Mae grwpiau hawliau dynol yn dweud bod dros 400 o bobl bellach wedi eu lladd yn y protestiadau, a 16,800 wedi eu harestio gan yr awdurdodau.
Mae Mina o Iran yn wreiddiol, ac wedi teithio i Qatar i wylio'i thîm yng Nghwpan y Byd er mwyn ceisio dangos bod gwrthwynebiad clir i lywodraeth y wlad.
"Dwi wrth fy modd 'efo pêl-droed, a gyda Tîm Melli," meddai.
"Doedd e ddim yn benderfyniad hawdd i ddod - nes i bron â phwyso'r botwm 'canslo' sawl gwaith.
"Ond roedden ni eisiau dod er mwyn gwneud y datganiad yna, bod ni wedi cael digon ar y llywodraeth yma sy'n lladd ei phobl, a pheidio gadael iddyn nhw wthio eu naratif eu hunain."
Yn ystod gêm Iran a Lloegr, mae'n dweud fod swyddogion diogelwch Qatar - sy'n gyfeillgar â llywodraeth Iran - wedi archwilio popeth oedd ganddyn nhw i sicrhau nad oedd unrhyw ddeunydd protestio yn dod i mewn i'r maes.
Dyna pam roedd hi mor falch o weld y chwaraewyr yn dangos teyrngarwch â'r ymgyrchwyr drwy beidio canu, er i'r llywodraeth eu gorchymyn i wneud, dywedodd.
"Roedden ni eisiau gweld rhywbeth, ac rydyn ni yn cefnogi'r tîm os ydyn nhw'n cefnogi'r bobl," meddai.
"Rydyn ni yma'n bennaf i godi llais dros bobl Iran, yn enwedig y menywod, ac nid pêl-droed yw'r prif ffocws."
Beth sydd ei angen ar Gymru yn erbyn Iran?
Os yw Cymru'n curo Iran fe fyddan nhw ar bedwar pwynt yn y grŵp, gyda gêm yr UDA v Lloegr i ddilyn yn hwyrach yn y dydd.
Petai Lloegr yn rhoi cweir i'r UDA byddai hynny'n ei gwneud hi'n fwy tebygol fod Cymru'n gallu cyrraedd y rownd nesaf hyd yn oed o golli'n agos i Loegr yn y gêm olaf.
Ond yn dilyn y gêm gyfartal agoriadol gyda'r UDA, mae'n bosib hefyd y gallai gwahaniaeth goliau benderfynu ai'r Cymry neu'r Americaniaid sy'n gorffen yn ail.
Ers 1998 mae timau sy'n gorffen ar bedwar pwynt yn eu grŵp Cwpan y Byd wedi llwyddo i gyrraedd y rownd nesaf 17 gwaith, ac wedi methu 16 o weithiau.
Petai Cymru'n cael gêm gyfartal yn erbyn Iran, mae'n debygol y byddai wedyn angen trechu Lloegr i ddianc o'r grŵp, oni bai bod yr UDA ac Iran yn hafal yn eu gornest olaf nhw.
Colli yn erbyn Iran, a byddai'r goblygiadau'n glir - byddai'n rhaid i garfan Rob Page wedyn guro Lloegr, o bosib o sawl gôl, i gael unrhyw obaith o gyrraedd rownd yr 16 olaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2022