Y dwymyn goch: 33 o blant wedi'u heintio ym Mrynaman

  • Cyhoeddwyd
Mae dau ddwsin o blant wedi cael eu heintio yn Ysgol Gynradd Brynaman
Disgrifiad o’r llun,

Mae 33 o blant wedi'u heintio gan y dwymyn goch yn Ysgol Gynradd Brynaman dros chwe wythnos

Mae tri achos o Strep A ymledol wedi'u nodi mewn ysgol gynradd yn Sir Gâr, sydd wedi'i tharo gan y dwymyn goch.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ddydd Iau fod tri achos pellach o'r dwymyn goch wedi eu cofnodi yn Ysgol Gynradd Brynaman, gan ddod â'r cyfanswm i 33.

Cafodd dau o'r rheiny eu cymryd i'r ysbyty - un ohonyn nhw i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd - ond nid yw'n glir a oedd ganddyn nhw Strep A ymledol.

Dywedodd ICC fod y 33 achos wedi digwydd dros gyfnod o chwe wythnos a bod hynny yn ffigwr uwch na'r arfer.

Mewn llythyr at rieni'r ysgol dywed yr ICC nad yw'r cyngor meddygol wedi newid, a bod Strep A ymledol yn "hynod o brin, ond bod y risg o'i ddatblygu fymryn yn uwch pan fo ffliw o gwmpas, felly cynghorir rhieni i dderbyn y cynnig o frechiad ffliw".

"Hoffem eich cysuro bod iGAS (Strep A ymledol) yn parhau'n anghyffredin, er yn ddifrifol," meddai'r llythyr.

"Rydym yn argymell bod rhieni yn Ysgol Gynradd Brynaman yn parhau i ddilyn y cyngor meddygol ynglŷn â'r dwymyn goch.

"Mae'r dwymyn goch fel arfer yn salwch cymedrol y bydd y rhan fwyaf o blant yn gwella heb gymhlethdodau pan gaiff y cyflwr ei drin yn fuan gyda chyffuriau gwrthfiotig."

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru rybuddio fod y galw am gyffuriau gwrthfiotig sy'n cael eu defnyddio mewn achosion posib o Strep A yng Nghymru wedi arwain at brinder mewn rhai fferyllfeydd.

Pedair ysgol arall yn Sir Gâr

Yn ôl y cynghorydd Glynog Davies, yr aelod o gabinet Cyngor Sir Gâr sydd â chyfrifoldeb am addysg, mae'r dwymyn goch hefyd wedi effeithio ar bedair ysgol arall yn y sir.

Ar raglen Dros Frecwast ddydd Iau, fe gyfeiriodd at achos plentyn ffrind teuluol sy'n gwella, "diolch i'r drefn" ar ôl treulio 15 diwrnod yn yr ysbyty.

"Neithiwr ges i gadarnhad i blentyn aeth yn sâl ar ddiwedd mis Hydref, i fynd i'r ysbyty ac yn sicr y ni'n gwybod mai'r dwymyn goch oedd arno fe," dywedodd.

"Fuodd e yn ddifrifol wael yn Ysbyty Treforys, a rheini'n gorfod ymgynghori ag Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Cynghorydd Glynog Davies

"Yn yr achos yma cafodd yr haint mo'r diagnosis yn y feddygfa leol, roedd hi'n bum diwrnod wedyn pan aeth e'n sâl iawn, a gorfod ei ruthro fe i'r ysbyty.

"Mae e'n mynd nôl i'r ysgol gam wrth gam, ddim yn llawn amser, ond maen nhw'n gwybod nawr y bydd rhaid iddo fe gael gofal ysbyty am o leia' dair blynedd, mae e mor ddifrifol â hynny.

"Fe effeithiodd ar ei esgyrn e, ac roedd rhaid cymryd hylif o'r penelin. Roedd e mewn cyflwr gwael."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff ysgolion dan orchymyn i gadw golwg barcud ar blant ac i chwilio am symptomau posis Strep A

Mae'r cyngor yn cydweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), ac mae llythyrau wedi eu hanfon at rieni plant y sir yn dweud wrthynt am gysylltu â'u meddyg teulu os oedd pryderon am eu plant.

Dywedodd y Cynghorydd Davies nos Fercher: "Pe bai dau neu fwy o achosion mewn un ysgol mewn cyfnod o 10 diwrnod, yna bydd yn rhaid i'r ysgol roi gwybod i'r tîm diogelwch iechyd er mwyn derbyn cyngor pellach.

Ar y rhaglen fore Iau dywedodd bod ICC yn siarad â staff Ysgol Gynradd Brynaman "bob yn eilddydd" a bod y cyngor "wedi sefydlu grŵp o swyddogion i gadw llygaid barcud ar y sefyllfa".

Ychwanegodd: "Ry'n ni'n pwyso yn drwm ar yr angen i benaethiaid a staff gadw llygaid craff ar y plant, i chwilio am y symptomau yma.

"Oes 'na wres uchel? Oes 'na frech? Ydi'r tafod wedi chwyddo? Yn enwedig y rhieni - maen nhw'n nabod eu plant. Mae eisiau iddyn nhw fod yn wyliadwrus iawn."

Pynciau cysylltiedig