Brenin Charles yn ymweld â Wrecsam i nodi statws dinesig
- Cyhoeddwyd
Mae'r Brenin Charles a'r Frenhines Gydweddog, Camilla, wedi ymweld â Wrecsam i nodi ei statws newydd fel dinas.
Roedd y ddau yn bresennol yn Eglwys San Silyn ar gyfer gwasanaeth i nodi'r achlysur, wedi iddi gael statws dinesig yn yr haf fel rhan o ddathliadau Jiwbili'r Frenhines.
Yn gynharach ddydd Gwener fe wnaeth y cwpl brenhinol ymweld â Chlwb Pêl-droed Wrecsam, ble wnaethon nhw gyfarfod perchnogion y clwb, Ryan Reynolds a Rob McElhenney a swyddogion eraill.
Cafodd chwaraewyr o dimau dynion a merched y clwb hefyd eu cyflwyno i'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog ar y Cae Ras.
Wrth gyfarfod â'r chwaraewyr cafodd y Brenin ei glywed yn dymuno pob lwc iddynt ar gyfer eu gêm ddydd Sadwrn, tra bod Camilla wedi dweud wrth chwaraewr arall fod stori'r clwb yn un "eithriadol".
Fe brynodd Reynolds a McElhenney y clwb ddwy flynedd yn ôl, ac ers hynny mae'r clwb wedi bod yn rhan o raglen ddogfen boblogaidd ar Disney+ yn dilyn eu hynt a helynt.
"Fe ddywedodd Rob a fi yn gynnar, a bydd hyn yn wir am weddill ein bywydau, y byddwn ni'n gwneud unrhyw beth i godi a chlodfori'r gymuned yma a'r clwb yma," meddai Reynolds cyn yr ymweliad.
"Mae cael y Brenin i ymweld yn sicr yn un ffordd o wneud hynny."
Mae'r Teulu Brenhinol eu hunain wedi bod dan y chwyddwydr eto'n ddiweddar yn dilyn rhyddhau rhaglen ddogfen Netflix yn dilyn bywydau Harry a Meghan, Dug a Duges Sussex.
Ond ddywedodd McElhenney, yn ddigon chwareus, nad oedd "erioed wedi clywed" am y gyfres ddadleuol.
Wedi hynny fe aeth Charles a Camilla i'r eglwys yng nghanol y ddinas, ble roedd cannoedd o bobl wedi ymgasglu y tu allan i'w gweld.
Ar ôl cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fe aeth y ddau ymlaen i'r gwasanaeth, ble cafwyd anerchiad gan y Brenin.
Dywedodd Charles III ei fod yn teimlo cymysgedd o "dristwch a balchder" wrth nodi'r statws dinesig oedd wedi ei roi i Wrecsam gan ei ddiweddar fam Elizabeth II.
Ychwanegodd bod Eglwys San Silyn "wir yn haeddu" ei statws fel un Saith Rhyfeddod Cymru.
'Ysbryd o gymuned a chydweithio'
"Yn gynharach heddiw cefais gyfle i weld un arall o ryfeddodau Wrecsam, y clwb pêl-droed, sy'n prysur roi Wrecsam ar y map fel erioed o'r blaen," meddai.
"Daw hyn wrth gwrs wedi i dîm cenedlaethol Cymru ddod â chydnabyddiaeth ddigynsail i Gymru drwy gyrraedd Cwpan y Byd.
"Mae arwyddair pêl-droed Cymru - Gorau Chwarae Cyd Chwarae - yn crisialu'r ysbryd o gymuned a chydweithio, sydd mor bwysig i Gymru, ac yn un rydw i wedi dod i'w adnabod a'i werthfawrogi dros y blynyddoedd yn fwy nag y gallaf fynegi."
Yn rhan olaf yr ymweliad fe aeth y Brenin Charles o amgylch gerddi stâd Erddig, 45 mlynedd ers iddo agor y lle i'r cyhoedd pan oedd yn Dywysog Cymru.
Fe helpodd i blannu dwy goeden yno - un yn ffawydden goprog sy'n rhan o'r Canopi Gwyrdd i ddathlu teyrnasiad Elizabeth II, a'r ail yn lasbren sy'n deillio o dderwen Pontfadog, coeden 1,200 o flynyddoedd oed a gwympodd mewn storm yn 2013.
Ychwanegodd Mr Drakeford, oedd hefyd yno i helpu i blannu'r dderwen ifanc, ei fod yn "gobeithio y bydd y goeden yn tyfu ac yn datblygu i fod yn dderwen gadarn a fydd yn sefyll am ganrifoedd i ddod yn Erddig".
Seithfed ddinas
Wrecsam yw'r seithfed ddinas yng Nghymru bellach ar ôl Abertawe, Bangor, Caerdydd, Casnewydd, Llanelwy a Thyddewi.
Bydd y cwpl brenhinol yn cael eu tywys o gwmpas rhai o greiriau Eglwys San Silyn ar eu hymweliad, gan gynnwys argraffiad cyntaf o Feibl y Brenin Iago, a chwpan cymun o'r 14eg Ganrif sydd yn dal i gael ei defnyddio.
Hon yw ail ymweliad Charles III â Chymru ers iddo ddod yn Frenin, a hynny wedi iddo ymweld â Chaerdydd ym mis Medi.
Bryd hynny fe wnaeth ef a Camilla fynychu gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf, derbyn cydymdeimladau yn y Senedd yn dilyn marwolaeth y Frenhines, a chwrdd â Mr Drakeford yng Nghastell Caerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022