5 peth i'w gwylio yn ystod ail gyfnod Warren Gatland

  • Cyhoeddwyd
Warren NewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ail dro i Warren Gatland gael ei benodi yn brif hyfforddwr

Yn dilyn canlyniadau gwael yng ngemau'r hydref, collodd Wayne Pivac ei swydd fel prif hyfforddwr tîm rygbi dynion Cymru. Yn ei le, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru bod wyneb cyfarwydd ar ei ffordd yn ôl i arwain y garfan, a ninnau ar drothwy blwyddyn Cwpan y Byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Wayne Pivac ei ddiswyddo ar ôl tair blynedd yn y swydd

Am 12 mlynedd rhwng 2007 a 2019, cafodd Warren Gatland gryn lwyddiant yn y rôl, gan ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bedair gwaith, a tair o'r rheiny wedi eu hennill gyda champ lawn. Fe wnaeth hefyd gyrraedd rownd gyn derfynol Cwpan y Byd ar ddau achlysur, yn 2011 a 2019.

Ar ôl tair blynedd o hoe, mae bellach yn dod nôl i oruchwylio'r paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda'r newyddiadurwr rygbi Steffan Thomas, sy'n nodi pum peth allwn ni ei ddisgwyl yn ail oes Gatland wrth y llyw.

1. Arddull y Chwarae

Yn dilyn cyfnod dryslyd yn dactegol gyda Wayne Pivac, mae Steffan yn disgwyl y bydd Warren Gatland yn sefydlogi pethau.

Meddai: "Pan enillodd Cymru y Gamp Lawn yn 2008, yn dilyn eu perfformiad siomedig yng Nghwpan y Byd 2007, mi wellodd Warren Gatland bethau drwy fynd yn ôl i'r pethau syml.

"Dydi'r garfan yma erioed wedi deall yn iawn beth oedd Wayne Pivac yn ddisgwyl ohonyn nhw. Disgwyliwch i Gatland dynnu'r holl gymhlethdod yn ei ôl, a dychwelyd at gynllun sylfaenol sy'n seiliedig ar ddarnau gosod cryf, ennill brwydrau a chicio cywir."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyfnod cyntaf Gatland yn un llewyrchus i'r crysau cochion

2. Cario'r bêl

"Yng ngharfan Pivac, roedd diffyg unigolion sydd yn gallu cario'r bêl yn effeithiol. Dyma un ardal fydd yn sicr yn cael sylw gan Gatland. Disgwyliwch iddo alw enwau fel Ross Moriarty a Rhys Carré yn eu holau mewn ymgais i gael dros y llinell fantais"

3. Is-reolwyr

Nid unigolion y cae yn unig fydd yn cael ei sylw, yn ôl Steffan,

"Mae staff presennol Cymru i gyd wedi eu cytundebu, ond fyddai hi ddim yn sioc gweld Gatland yn gwneud newidiadau yno. Dydi'r ymosod ddim wedi tanio dan Stephen Jones, a gallai edrych ar ddod a chyn hyfforddwr dadleuol y cefnwyr, Rob Howley, yn ei ôl. Mae'n debygol y bydd hyfforddwr y blaenwyr, Jonathan Humphreys, dan bwysau hefyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gatland gyda Rob Howley; a fydd yn ei alw yn ôl?

4. Perthynas gyda'r rhanbarthau

"Mae'r berthynas bresennol rhwng yr Undeb a'i thimau proffesiynol o dan straen, i ddweud y lleiaf. Yn ystod ei gyfnod cyntaf fel prif hyfforddwr, doedd y rhanbarthau ddim yn hapus gyda'r rheolaeth oedd gan y gŵr o Seland Newydd dros eu chwaraewyr.

"Gyda dyfodol y gêm ranbarthol yn y fantol, mi fydd hi'n berthynas anodd unwaith eto rhwng Gatland a'r rhanbarthau hynny"

5. Webb yn dychwelyd?

Ac yn olaf, creda Steffan y bydd yn rhaid i Gatland sefydlogi pethau gydag un safle penodol ar y cae, sef y mewnwr:

"Does 'na ddim un mewnwr wedi gwneud digon i gael rheolaeth parhaol o grys rhif naw. Yn ystod blwyddyn olaf ei gyfnod cyntaf, bu i Gatland fynegi ei rwystredigaeth gyda'r ffaith nad oedd yn gallu dewis Rhys Webb - hynny oherwydd iddo fynd dros y rheol 60 cap tra'n chwarae i Toulon yn Ffrainc.

"Mae Webb yn perfformio'n dda iawn i'r Gweilch ar hyn o bryd, ac er ei fod yn 34 oed, gall ei allu i reoli gêm ddenu sylw Gatland"

Disgrifiad o’r llun,

Ydy perfformiadau diweddar Rhys Webb yn golygu y bydd yn gwisgo crys rhif 9 unwaith eto i Gymru?

Hefyd o ddiddordeb: