'Rhaid gwario i wella creisis gwirioneddol yn y Gwasanaeth Iechyd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gwasanaeth Iechyd "mewn creisis gwirioneddol" ac "mae'n rhaid i lywodraethau gynyddu gwariant i gwrdd â gofynion hanfodol pobl", yn ôl Llywydd y Senedd.
Mae amseroedd aros am ambiwlansys yn "bryder dyddiol" gydag "achosion o un dydd i'r llall lle mae pobl yn aros rhy hir am ambiwlans", meddai AS Ceredigion, Elin Jones wrth Newyddion S4C.
Dywedodd teulu un dyn arhosodd oriau am gymorth ar ôl cael strôc, bod "rhywbeth sylfaenol yn wrong" gyda'r system.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cynyddu nifer staff y Gwasanaeth Ambiwlans, gan gynnwys gwario £3m ar recriwtio 100 o glinigwyr ambiwlans y gaeaf hwn.
Yn Nhregaron ddiwedd Tachwedd, cafodd Ifan Jenkins strôc yn ei gartref, ac fe wnaed galwad am ambiwlans am 10:30.
Gyda'r dyn 69 oed yn dioddef poenau yn ei ysgwydd, cafodd y teulu gyngor i beidio'i symud, ond er iddynt ffonio sawl gwaith yn ystod y prynhawn, cafon nhw wybod am 16:00 na fyddai criw yn eu cyrraedd tan o leiaf 19:00.
Er gwaetha'r cyngor i beidio'i symud, cludwyd Mr Jenkins i Ysbyty Bronglais mewn car.
Sefyllfa 'frawychus'
Dywedodd ei gefnder Cyril Evans wrth Newyddion S4C ei fod yn gofidio am ganlyniad yr aros ar iechyd Mr Jenkins ac ar bobl y gorllewin yn gyffredinol.
"Ymateb y doctor oedd 'ble chi 'di bod cyhyd?'"
"Petai e wedi cael ei weld yn gynt, efallai byddai'r cyflwr mae e ynddo wedi gwella'n gynt. Mae e yn yr ysbyty nawr am o leiaf deufis."
"Mae'r sefyllfa yn frawychus... Mae rhywbeth sylfaenol yn wrong yn y system ac mae pobl yn mynd i ddioddef a marw oherwydd hynny."
Mae'r straen ar y gwasanaeth yn amlwg o ffigyrau swyddogol Llywodraeth Cymru.
Eu targed yw ateb 65% o alwadau 'coch' - yr achosion mwyaf difrifol - o fewn wyth munud.
Rhwng Ionawr a Hydref eleni, cafodd y targed hwnnw ei fethu yn genedlaethol ac ym mhob un ardal bwrdd iechyd drwy'r wlad.
Mewn 51.4% o achosion yn unig mae ambiwlans wedi cyrraedd claf yng Nghymru o fewn y targed galwad 'coch' eleni.
Yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda yn y gorllewin, mae'r ffigyrau ar eu hisaf, gydag ambiwlans wedi cyrraedd galwad 'coch' o fewn wyth munud mewn 42.8% o achosion.
'Creisis gwirioneddol'
Yn ôl AS Ceredigion, Elin Jones, mae angen i lywodraethau wario mwy ar y gwasanaeth i sicrhau gwelliant.
"Ry'n ni'n sicr mewn pwynt o greisis. Yng nghanol gaeaf ond hefyd gyda chyfres hir o wariant ar iechyd heb fedru cadw lan.
"Ni wedi cyrraedd y pwynt yma ar ôl Covid o greisis gwirioneddol yn y Gwasanaeth Iechyd."
"Dwi'n meddwl am y bobl sydd yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd... sydd angen clywed bod llywodraethau yn cydnabod y pwysau sydd arnyn nhw ac yn ariannu y Gwasanaeth Iechyd yn ddigonol i gwrdd â gofynion pobl.
"Nid gofynion yw'r rhain am beth fyddai'n neis i gael yn y Gwasanaeth Iechyd, ond beth sydd yn gwbl hanfodol i'w gael yn y Gwasanaeth Iechyd i achub bywydau pobl.
"Mae'n rhaid gweld y lefel yna o wariant yn cynyddu yn y Gwasanaeth Iechyd ac ry'n ni angen gweld e yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig."
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod eu gallu i gynnig gwasanaeth allan nhw "ymfalchïo" ynddo "wedi ei amharu", a hynny oherwydd "cynnydd mewn galw, lefelau staffio, a phwysau ehangach drwy GIG Cymru".
Ar y diwrnod y cafodd Ifan Jenkins ei daro'n wael, dywedodd y gwasanaeth bod ambiwlansys wedi colli 158 awr wrth aros y tu allan i unedau brys ardal Hywel Dda i drosglwyddo cleifion.
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r system ofal brys ehangach wedi profi pwysau digynsail.
"Mae cynllun gwelliant cenedlaethol yn ei le i gynyddu nifer staff ambiwlans a gwella effeithlonrwydd o ran defnyddio staff ac adnoddau, gwella amseroedd ymateb a lleihau amseroedd trosglwyddo cleifion er mwyn galluodgi gweithwyr i ymateb i alwadau eraill."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022