Prif weithredwr Plaid Cymru, Carl Harris yn gadael ei swydd

  • Cyhoeddwyd
Carl HarrisFfynhonnell y llun, Plaid Cymru

Mae prif weithredwr Plaid Cymru, Carl Harris, wedi gadael ei swydd.

Cafodd Mr Harris ei benodi i'r swydd ym Mehefin 2021 ar ôl bod yn bennaeth strategaeth gyda'r blaid, a phennaeth staff yn swyddfa etholaeth yr arweinydd Adam Price.

Mae'r blaid wedi gwrthod gwneud sylw ynghylch os yw Mr Harris wedi derbyn taliad gadael.

Daw'r cyhoeddiad ar adeg anodd i Blaid Cymru yn dilyn honiadau am ddiwylliant gwenwynig a diffyg arweinyddiaeth oddi fewn y blaid.

Mae honiad o ymosodiad rhyw hefyd wedi ei wneud yn erbyn uwch aelod o staff.

'Dymuno'n dda'

Mewn llythyr at aelodau dywedodd cadeirydd Plaid Cymru, Marc Jones ei fod yn "edrych ymlaen i'ch diweddaru yn y flwyddyn newydd ar ddatblygiadau corfforaethol".

Ychwanegodd: "Ar ran Plaid Cymru rwy'n diolch iddo am ei wasanaeth hir ac ymroddiad i'r blaid, fel cynghorydd sir ac aelod staff - yn fwyaf diweddar fel y prif weithredwr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Rydym yn dymuno'n dda iddo yn y dyfodol."

Dywedodd Mr Harris y bu hi'n "anrhydedd cael gweithio i Blaid Cymru yn lleol ac yn genedlaethol".

"Mae'r blaid yn ffodus o gael rhai o'r staff mwyaf talentog a'r actifyddion mwyaf ymroddgar ac mae hi wedi bod yn fraint ymgyrchu ochr yn ochr â hwy," meddai.

"Rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r blaid yn y dyfodol."

Honiadau

Mae Plaid Cymru wedi cael ei siglo gan bryderon diweddar am ddiwylliant gwenwynig o fewn y blaid.

Ddiwedd Tachwedd fe adroddodd BBC Cymru bod honiad o ymosodiad rhyw wedi ei wneud yn erbyn uwch aelod o staff.

Yn y cyfamser, dywedodd person arall fod yr un uwch aelod o staff yn gwneud iddynt deimlo'n anghyfforddus ar sawl achlysur.

Nid yw Plaid Cymru wedi gwneud sylw ar yr honiadau penodol.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhys ab Owen ei ethol fel AS am y tro cyntaf yn 2021 ond mae wedi ei wahardd gan ei blaid

Mae'r honiadau ar wahân i'r rheiny a wnaed yn erbyn yr Aelod o'r Senedd, Rhys ab Owen, sy'n parhau i fod wedi'i wahardd o grŵp y blaid.

Roedd y gwaharddiad ar ddechrau mis Tachwedd yn dilyn yr hyn sy'n cael ei ddeall i fod yn honiad difrifol am ei ymddygiad, sy'n disgwyl ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau Senedd Cymru.

Sefydlu gweithgor

Wrth siarad â rhaglen Sharp End ITV Cymru nos Iau, fe gyhoeddodd Adam Price fod y blaid wedi penodi'r cyn-Aelod Cynulliad, Nerys Evans, i gadeirio gweithgor ochr yn ochr â Phwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid.

Dywedodd fod y grŵp wedi'i sefydlu "fel y gallwn gyrraedd sefyllfa lle rydym eisiau bod - lle rydym yn glir ar ein gwerthoedd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Adam Price ei ethol yn arweinydd Plaid Cymru ym mis Medi 2018

Disgwylir iddo adrodd ar ei ganfyddiadau yng ngwanwyn 2023.

Mewn datganiad blaenorol, dywedodd Marc Jones: "Er na allwn yn naturiol ar hyn o bryd rannu unrhyw wybodaeth am unrhyw achosion neu honiadau unigol, rwyf am sicrhau holl aelodau Plaid Cymru fy mod yn cymryd yr holl faterion a phrosesau hyn o ddifrif.

"Rydym yn cynnig cefnogaeth i'r holl staff wrth i ni flaenoriaethu eu lles.

"Rydym yn cynnal arolwg o brofiadau staff a fydd yn llywio penderfyniadau yn y dyfodol.

"Yn gyson â pheidio â rhagfarnu canlyniad unrhyw ymchwiliad parhaus, fe fyddwn mor agored ag y gallwn wrth i ni barhau i sicrhau bod ein holl brosesau mewnol yn cael eu dilyn yn ddiwyd bob amser."

Pynciau cysylltiedig