Carcharu dyn am ladd ei chwaer fach ar faes carafanau

  • Cyhoeddwyd
Amanda SelbyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Amanda Selby tra ar wyliau gyda'i theulu yn Nhywyn

Mae dyn 20 oed wedi cael ei garcharu am ladd ei chwaer 15 oed yn ystod gwyliau teuluol yn Sir Conwy.

Fe ymosododd Matthew Selby ar ei chwaer iau, Amanda Selby, mewn maes carafanau yn Nhywyn ger Abergele ar 31 Gorffennaf 2021.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener, cafodd Selby, o Ashton-under-Lyne, Manceinion, ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar.

Roedd wedi pledio'n euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Barc Carafanau Tŷ Mawr ar 31 Gorffennaf, 2021

Clywodd y llys bod Selby ag awtistiaeth a chyflyrau iechyd meddwl eraill oedd wedi arwain at yr ymosodiad treisgar.

Roedd wedi ei gyhuddo'n wreiddiol o lofruddiaeth, ond ym mis Chwefror 2022 fe blediodd yn euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Roedd y brawd a'r chwaer ar wyliau gyda'u tad pan ddigwyddodd yr ymosodiad, a dywedodd yr erlyniad bod y ffrae wedi deillio o fater "pitw" wedi i Amanda daflu plwg neu declyn gwefru at ei brawd wedi iddo fo ei herian hi.

Roedd eu tad, Anthony wedi ceisio atal Matthew Selby wrth iddo ddal ei chwaer ar y llawr.

Fe geisiodd ei thad adfywio Amanda ar ôl iddi stopio anadlu a chafodd y gwasanaethau brys eu galw, ond roedd yn rhy hwyr i'w hachub.

Fe wnaeth archwiliad post mortem ddarganfod bod Amanda Selby wedi marw o ganlyniad i gael ei thagu.

Yn dilyn ei marwolaeth dywedodd ei theulu ei bod yn "ferch ac wyres gariadus" oedd yn "ofalgar, yn feddylgar, yn hoff o helpu eraill ac yn cael ei charu'n fawr".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Matthew Selby wedi lladd ei chwaer mewn "ffrwydrad o wylltineb", medd y CPS

Wrth ei ddedfrydu, fe ddywedodd y barnwr Rhys Rowlands wrth Selby bod ei gyflyrau "wedi amharu yn sylweddol ar ei reolaeth arno'i hun", a bod hynny wedi arwain at "achos catastroffig o golli tymer".

Dywedodd bod Amanda wedi cael ei lladd yn 15 oed gan ei brawd yn ystod yr hyn oedd i fod yn wyliau hapus. Ychwanegodd bod y teulu wedi cael eu chwalu gan yr hyn ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw.

Cafodd Selby ddedfryd o bum mlynedd o garchar, gyda phum mlynedd ychwanegol ar drwydded pan fydd yn cael ei ryddhau.

Dywedodd David Mainstone o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Roedd hwn yn achos trasig o ladd merch yn ei harddegau.

"Ymosododd Matthew Selby ar ei chwaer mewn ffrwydrad o wylltineb yn dilyn dadlau cynyddol rhyngddynt yn ystod gwyliau teuluol.

"Roedd achos yr erlyniad yn cynnwys adroddiadau seiciatrig oedd yn nodi bod Selby ag awtistiaeth, a chyflwr oedd yn achosi iddo ffrwydro mewn tymer a dioddef iselder difrifol, a'r cyfan yn debygol o fod wedi sbarduno ei weithredoedd treisgar.

"Mae ein meddyliau'n parhau i fod gyda phawb sydd wedi'u heffeithio gan yr achos hwn."

Pynciau cysylltiedig