'Rhaid cau bylchau grymoedd trethu ail gartrefi'
- Cyhoeddwyd
Mae cymunedau Cymraeg yn "gwegian yn arw" ac mae'n "greisis go iawn" i gadarnleoedd yr iaith, meddai ymgyrchwyr.
Dangosodd Cyfrifiad 2021 gwymp yn y nifer sy'n medru'r Gymraeg, er gwaethaf targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
Daeth tua 200 o brotestwyr i Lanrwst brynhawn Sadwrn i alw am fesurau i ddelio efo'r farchnad dai.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae angen i gynghorau ddefnyddio'u grymoedd trethu i'r eithaf er mwyn mynd i'r afael ag ail gartrefi.
Maen nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i "gau'r blychau" o ran trethi, ac am ddeddf eiddo ehangach.
Fe ddywedodd y llywodraeth eu bod yn cymryd camau brys a "radical" i sicrhau "hawl" pobl i fyw yn eu cymuned.
O fis Ebrill 2023 ymlaen, bydd awdurdodau lleol yn cael codi premiwm o hyd at 300% ar ail gartrefi a thai gwag.
Y mis hwn, mae Gwynedd - lle mae ail gartrefi gyfystyr â thua 10% o'r stoc tai - wedi penderfynu codi'r premiwm yno i 150%.
Mae Sir Conwy yn bwriadu cyflwyno premiwm o 50% a allai gynyddu i 100% flwyddyn yn ddiweddarach.
Ond mae'r ymgyrchwyr eisiau i gynghorau wneud y mwyaf o'u grymoedd.
"Rhan o'r peth ydy codi premiwm," meddai Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, fu'n annerch y rali yn Llanrwst.
"'Dan ni'n gwybod fod 'na bwysau ar wahanol gynghorau ond y gwir amdani ydy hyn - mi ddylen nhw fod yn cynrychioli ac edrych yn gyntaf ar y bobl sy'n eu hethol nhw, yn byw yn yr ardal, yn enwedig y rheiny sydd un ai heb gartref, yn cael trafferth cael to uwch eu pennau, neu sy'n gorfod symud allan oherwydd diffyg gwaith ac yn y blaen.
"Dyna pam fod y Gymdeithas nid yn unig yn galw am godi'r premiwm gymaint â sydd bosib ond hefyd am gau'r bylchau i bobl osgoi talu'r dreth yma, a galw ymhellach am dreth eiddo sy'n edrych ar y broblem yn ei chrynswth."
Ychwanegodd mai "dim ond rhan o'r broblem tai ydy ail gartrefi, AirBnb ac yn y blaen" ond bod hon yn "broblem yn ddwys iawn, iawn" mewn rhai ardaloedd.
"Mae'r cadarnleoedd yn gwegian yn arw erbyn rŵan", meddai, gan ddweud bod cymunedau'n talu am "fethiannau'r gorffennol" o ran polisi yn ogystal â'r argyfwng costau byw.
"Mae hwn yn greisis go iawn i'n cymunedau ac os ydan ni'n edrych i gynyddu i filiwn o siaradwyr mae'n rhaid i'r rhan sydd gynnon ni'n barod gael eu hatgyfnerthu fel bod y Gymraeg yn gallu ymestyn yn bellach drwy Gymru gyfan."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "credu bod gan bawb yr hawl i brynu neu rentu tŷ fforddiadwy, safonol yn eu cymunedau fel eu bod yn gallu byw a gweithio'n lleol."
Ychwanegodd eu bod yn cymryd camau "radical" ac yn defnyddio'r "systemau cynllunio, eiddo a threthu i wireddu hyn, gyda'r cynnydd yn yr uchafswm premiwm treth cyngor mae cynghorau'n cael eu codi yn un rhan o becyn cynhwysfawr".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022