Sut i wneud y mwyaf o fwyd dros ben y Nadolig?
- Cyhoeddwyd

Pei twrci a ham
Rhwng y twrci, yr ham, a'r pwdinau diddiwedd mae 'na fwyd dros ben yn siŵr o fod o gwmpas eich tŷ chi wedi'r gwledda mawr ar ddiwrnod y Nadolig.
Yr awdur a chogydd Rhian Cadwaladr sy'n rhannu ei chyngor ar sut i ddefnyddio sbarion y Nadolig yma gan rannu ryseitiau arbennig o'i llyfr Casa 'Dolig fydd yn cael ei ryddhau yn 2023.

Wedi cael llond bol ar frechdanau twrci ond mae 'na domen o gig ar ôl? Does wiw gwastraffu, yn enwedig a'r deryn wedi costio cymaint! Dyma i chi syniadau sy'n defnyddio twrci dros ben mewn prydau blasus. Cadwch mewn cof mai dim ond unwaith y medrwch ail dwymo cig yn saff.
Cyri Twrci a Saws Llugaeron

Cyri twrci a llugaeron
Mae'r rysait yma yn defnyddio cynhwysion sydd yn aml ar gael mewn cwpwrdd bwyd ond mae'n hawdd ei addasu at eich dant - defnyddiwch tsili, sunsur ffres, a sbeisus gwahanol.
Cynhwysion:
1 nionyn wedi ei falu'n fân
llwyaid o olew
3 clôf garlleg
llond llwy fwrdd o bowdwr cyri mwyn
tun o domatos wedi eu torri'n ddarnau
dyrnaid o swltanas
llond llwy fwrdd o saws llugaeron (cranberry)
Twrci wedi ei dorri'n ddarnau
Dull:
Coginiwch y nionyn yn yr olew mewn padell neu sosban ar wres cymhedrol nes ei fod yn hollol feddal
Ychwanegwch y garlleg a choginwich ymhellach am gwpwl o funudau
Ychwanegwch y powdwr cyri a'i droi yn dda i'r nionod. Coginiwch am gwpwl o funudau
Tywalltwch y tun tomatos i fewn i'r badell
Ychwanegwch y saws llugaeron, y swltanas a'r twrci
Coginiwch am oddeutu 15 munud nes fod y twrci wedi coginio drwyddo
Ychwanegwch halen a phupur at eich dant
Salad Satay Twrci

Salad satay twrci
Cynhwysion:
Twrci wedi ei goginio a'i dorri'n stribedi ddim rhy fawr
1 llwy fwrdd cnau menyn (peanut butter)
1/2 llwy fwrdd saws tsili melys (sweet chilli sauce)
sudd 1/2 leim
1 llwy fwrdd saws soy
60ml llaeth coconyt
dyrnaid o ddail coriander fresh wedi eu malu'n fân
dail letys gem neu iceberg
Dull:
Cymysgwch bopeth heblaw y twrci mewn powlen fawr
Ychwanegwch y twrci a cymysgu'n dda
Dewiswch ddail letys o tua'r un maint i fod yn gwpanau i ddal y twrci
Rhannwch y twrci rhwng y dail
Pei Twrci a Ham

Pei twrci a ham
Mae'r bei yma yn rhywbeth y byddwn ni'n gael yn tŷ ni bob 'Dolig. Does dim yn neisiach efo platiad o chips ar ôl bod am dro hir. Gallwch ei rhewi at eto (cyn ei choginio) os mynnwch.
Cynhwysion:
1 pecyn toes flaky pastry wedi rholio'n barod
30g o fenyn
1 llond llwy fwrdd o flawd plaen
1 coesyn cennin bach wedi ei lanhau a'i sleisio'n ddarnau
400 - 500ml grêfi dros ben (neu stoc cyw iâr neu gymysgedd)
150ml hufen (sengl, dwbwl, crème fraîche - beth bynnag sydd ganddoch dros ben)
dyrnaid dda o dwrci wedi ei goginio a'i dorri'n ddarnau
dyrnaid dda o ham wedi ei goginio a'i dorri'n ddarnau
halen a phupur
1 ŵy wedi ei guro
Dyrnaid o barsli ffresh wedi malu'n fân
Dull:
Rhowch y popdy ymlaen ar 200c /180c ffan/ nwy 6
Irwch ddysgl bei - gorau oll os oes ganddoch chi un yr un siap a maint a'ch toes
Toddwch y menyn mewn sosban fawr a coginiwch y cennin ynddo dros wres isel dan gaead, nes ei fod yn feddal
Ychwanegwch y blawd a cymysgwch yn dda
Ychwanegwch y grefi (neu y stoc) yn raddol gan droi yr holl amser nes fod ganddoch chi saws eithaf trwchus
Coginiwch am gwpwl o funudau cyn ychwanegu yr hufen (os nad oes ganddoch chi hufen mae'n ddigon blasus hebddo, neu gallwch ychwanegu llefrith)
Blaswch ac ychwanegwch halen a phupur os oes angen
Coginiwch ar wres isel am rhyw funud arall
Tynnwch y sosban oddi ar y tân ac ychwanegwch y darnau o dwrci a'r ham
Rhowch y cyfan yn y ddysgl
Dad rholiwch y toes a rhowch o ar ben y gymysgedd (mi fydd rhaid rholio ychydig os ydi siap eich dysgl yn wahanol)
Torrwch dri hollt bach ar dop y bei er mwyn i stêm fedru dianc drwyddo
Peintiwch yr ŵy dros y bei a rhowch y ddysgl ar hambwrdd pobi rhag ofn i'r saws ferwi drosodd
Coginiwch am oddeutu 30 - 40 munud nes fod y bei wedi crasu a'r cig wedi coginio drwyddo
Syllabub

Syllabub
Dyma i chi bwdin Seisnig hynafol sy'n ffordd dda o ddefnyddio unrhyw win a hufen sydd ganddoch dros ben. Does dim ond tri o gynhwysion ac mae'n arbennig o hawdd. Digon i bedwar bach neu ddau fawr.
Cynhwysion:
100ml gwin gwyn melys
50g siwgwr mân
1 lemon
300ml hufen dwbwl
Dull:
Rhowch y gwin mewn sosban fach efo'r siwgwr a stribedi tenau o groen y lemon (y croen yn unig a ddim y pith sydd oddi tano)
Cynheswch ar wres isel nes fod y siwgwr wedi toddi
Gadewch o am o leia awr i'r blas gryfhau
Tynwch y croen lemon allan a rhoi'r gwin mewn powlen fawr
Tywalltwch yr hufen i fewn i'r fowlen a chwisgiwch gan fod yn ofalus rhag gor chwipio. Dylai syllabub fod yn ysgafn
Rhannwch rhwng gwydrau bychan
Pwdin Bara Panettone

Pwdin bara panettone
Os oes ganddoch chi hanner banettone wedi dechrau sychu peidiwch a'i thaflu - defnyddiwch hi i wneud y pwdin cynhesol yma.
Cynhwysion:
4 tafell dew o banettone (8 os yw'n banettone fach)
menyn
350ml llefrith
50ml hufen dwbwl
2 ŵy
20g siwgwr gwyn
Croen un oren wedi gratio
1 llwy fawr siwgwr coch (demerara)
Dull:
Rhowch y popdy ymlaen ar rif 180c/160c ffan/ nwy 4
Irwch ddysgl efo menyn
Rhowch haenen o fenyn dros pob tafell o banettone a torrwch yn drionglau
Rhowch nhw yn y ddysgl a thaenu y croen oren drostynt
Cyneswch y llefrith a'r hufen mewn sosban ond peidiwch a'i ferwi
Curwch y ŵyau efo'r siwgwr gwyn mewn powlen neu jwg mawr
Cymysgwch y llefrith a'r hufen efo'r ŵyau a'r siwgwr
Tywalltwch y cymysgedd, drwy ridyll (sieve) dros y panettone
Tasgwch y siwgwr coch dros y cwbwl
Pobwch am 30-40 munud nes fod y bara a'r siwgwr wedi crasu
Hefyd o ddiddordeb: