Ras Nos Galan i gofio Guto Nyth Brân yn ôl yn Aberpennar

  • Cyhoeddwyd
George North
Disgrifiad o’r llun,

George North oedd y rhedwr dirgel yn ras Nos Galan Aberpennar eleni

Mae traddodiad ras Nos Galan i goffáu'r rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brân wedi dychwelyd i Aberpennar am y tro cyntaf ers cyn y pandemig.

Ers 1958 mae rhedwyr wedi heidio i strydoedd y dref yn Rhondda Cynon Taf i ymuno yn y ras 5km ar noson ola'r flwyddyn.

Roedd disgwyl i 1,700 o bobl gymryd rhan, yn ôl y trefnwyr, ar ôl i'r digwyddiad gael ei chynnal yn rhithiol yn ystod y pandemig.

Y rhedwr dirgel eleni oedd seren rygbi'r Gweilch a Chymru, George North, a dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf fod "awyrgylch anhygoel" yno.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth pobl i wylio'r ras a mwynhau'r tân gwyllt

Yn ôl yr hanes, Guto Nyth Brân oedd rhedwr cyflymaf ei oes, a roedd yn gallu rhedeg mor gyflym fel ei fod yn dal adar yn ei ddwylo wrth iddyn nhw hedfan.

Mae'r traddodiad o ras Nos Galan wedi parhau i'w goffáu, gyda rhedwr dirgel yn gosod torch ar ei fedd cyn anelu am Aberpennar i gynnau ffagl a dechrau'r ras.

Y rhedwr dirgel wnaeth ymuno â'r miloedd eleni oedd y chwaraewr rygbi George North.

Y cyn-ddyfarnwr Nigel Owens oedd y rhedwr dirgel yn 2019 a Sam Warbuton, cyn-gapten Cymru, yn 2018.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd y ras yng nghanol Aberpennar

"Gobeithio na chaf i fy nal!" dywedodd North, a gariodd fflam o fedd Guto i linell ddechrau'r ras.

"Ers Covid mae wedi bod yn ofnadwy yn nhermau methu a mynd i unrhyw ddigwyddiadau, yn enwedig rhai sydd â thraddodiadau gwych ac sy'n meddwl llawer i nifer o bobl."

Dywedodd pennaeth pwyllgor y ras, y cynghorydd Ann Crimmings, eu bod "yn llawn cyffro" mai Geogre North oedd y rhedwr dirgel.

"Mae wedi bod yn amser hir. Ry'n ni mor ddiolchgar o'r gefnogaeth ry'n ni wedi ei dderbyn gan ein rhedwyr a'n noddwyr wrth i ni gadw'r chwedl yn fyw yn rhithiol pan nad oedden ni'n gallu cynnal y digwyddiad.

"Mae Nos Galan yn ôl ac yn cyflwyno un o sêr chwaraeon mwyaf llwyddiannus Cymru. Croeso George!"