Gweithredu diwydiannol i effeithio ar drenau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
RheilfforddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cwmni Network Rail sy'n gyfrifol am gynnal a chadw y rheilffyrdd

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio teithwyr y bydd gweithredu diwydiannol yn cael cryn effaith ar wasanaethau'r wythnos hon.

Mae aelodau'r RMT yn streicio ar ddyddiau Mawrth, Mercher, Gwener a Sadwrn, ond fe fydd y gweithredu hefyd yn effeithio ar wasanaethau ddydd Iau.

Er nad yw staff Trafnidiaeth Cymru ar streic fe fydd y gweithredu yn effeithio ar wasanaethau yng Nghymru.

Dywed Network Rail, sy'n gyfrifol am wasanaethau cynnal a chadw'r rhwydwaith, fod ganddynt ddigon o signalwyr dros dro i gynnal tua 20% o'r gwasanaeth arferol.

Mewn datganiad dywedodd Trafnidiaeth Cymru: "Mae'r gweithredu diwydiannol oherwydd yr anghydfod rhwng yr undebau a Network Rail yn golygu na fyddwn yn gallu cynnal gwasanaethau ar rwydwaith Network Rail.

"Fe fydd y rhan fwyaf o'n gwasanaethau ar rwydwaith Cymru a'r Gororau yn cael eu hatal ar 3-4 Ionawr a 6-7 Ionawr."

Yn ogystal ag effeithio ar wasanaethau Network Rail, mae aelodau'r RMT mewn 15 o gwmnïau - gan gynnwys Great Western Railways (sy'n gyfrifol am wasanaethau o dde Cymru i Lundain) ac Avanti West Coast (sy'n cynnal rhai o wasanaethau gogledd Cymru) - ar streic.

Fe fydd rhagor o amharu ar y rheilffyrdd ddydd Iau wrth i aelodau ASLEF - undeb y gyrwyr trên - fynd ar streic yn y 15 cwmni uchod.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Trafnidiaeth Cymru y bydd y streic yn effeithio ar wasanaethau yng Nghymru

Mae anghydfod yr RMT yn ymwneud â chyflog, diogelu swyddi ac amodau gwaith, gyda thua 40,000 o aelodau drwy Brydain yn gweithredu.

Yn ôl Mick Lynch, Ysgrifennydd Cyffredinol yr RMT mae'r aelodau am weld cytundeb buan yn hytrach na rhagor o weithredu.

Mae o'n cyhuddo Llywodraeth y DU o ymyrryd ac o rwystro cwmnïau rheilffordd rhag dod i gytundeb.

Ond dywed Mark Harper, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, ei fod wedi sicrhau fod cynnig newydd wedi ei wneud i'r undebau - cynnig sydd wedi ei dderbyn gan ddau o'r undebau eraill.