AS Môn yn gwisgo siaced atal trywanu i gwrdd ag etholwyr

  • Cyhoeddwyd
Virginia Crosbie AS
Disgrifiad o’r llun,

"Yn anffodus, dyma un o'r pethau mae'n rhaid i mi ei wneud," meddai Virginia Crosbie

Mae AS Ceidwadol Ynys Môn wedi dweud ei bod yn gwisgo siaced atal trywanu wrth gwrdd ag etholwyr.

Dywedodd Virginia Crosbie iddi ddechrau gwisgo'r dilledyn amddiffynnol ar ôl llofruddiaeth ei chydweithiwr Syr David Amess yn 2021.

Cafodd Syr David ei drywanu sawl gwaith wrth gwrdd ag etholwr yn Southend West, Essex.

Mae Ms Crosbie, a gafodd ei hethol gyntaf ym mis Rhagfyr 2019, wedi siarad o'r blaen am y bygythiadau a'r cam-drin y mae hi wedi ei wynebu.

"Yn anffodus, dyma un o'r pethau mae'n rhaid i mi ei wneud i sicrhau fy mod yn gallu gwneud y swydd y cefais fy ethol i'w gwneud.

"Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig fy mod yn cael cysylltiad uniongyrchol gyda fy etholwyr," meddai wrth GB News.

Dywedodd yr AS yn flaenorol wrth BBC Cymru bod rhywun wedi anfon neges yn bygwth ei bywyd i'w swyddfa etholaeth yng Nghaergybi y llynedd.

Dywedodd nad yw pethau wedi gwella.

"Os rhywbeth, mae hyd yn oed yn waeth. Ac nid dim ond i fi - mae llawer o rai eraill, yn enwedig ASau benywaidd.

"Hyd yn oed cyn i ni gael brecwast mae llawer ohonom wedi derbyn un neu ddau o fygythiadau."

Cafwyd Ali Harbi Ali yn euog fis Ebrill diwethaf o lofruddio Syr David.

Daeth yr ymosodiad bum mlynedd ar ôl llofruddiaeth yr AS Llafur Jo Cox.

Pynciau cysylltiedig