Newid i'r cynllun i gwtogi ASau Cymru yn San Steffan
- Cyhoeddwyd
Bydd gan etholwyr un cyfle olaf i roi eu barn wrth i gomisiynwyr adolygu'r cynlluniau i ostwng nifer y seddi Cymreig yn San Steffan o 40 i 32.
Mae map diweddaraf y Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi newid y cynlluniau gwreiddiol - mae'r newidiadau yn effeithio'n bennaf ar Y Barri a Chaerdydd ac mae newidiadau hefyd i fap gogledd Cymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ymhen pedair wythnos.
Daw'r cynlluniau newydd wedi 1,300 o ymatebion i'r cynlluniau gwreiddiol. Bydd y cynigion terfynol yn cael eu cyflwyno i'r llywodraeth yng Ngorffennaf 2023.
Os fydd y newidiadau yn mynd yn eu blaen bydd y map newydd yn cael ei ddefnyddio i gynllunio etholaethau'r Senedd.
Mae'r cynlluniau i newid ffiniau seddi San Steffan yn deillio o'r cyfnod pan oedd David Cameron yn brif weinidog ddegawd yn ôl.
Mae rheolau newydd San Steffan yn gorchymyn y dylai pob etholaeth sy'n cael ei nodi gan y Comisiwn Ffiniau gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o bleidleiswyr cofrestredig.
Dywed Llywodraeth y DU y bydd hyn yn sicrhau bod pobl o bob rhan o'r DU yn cael eu cynrychioli'n gyfartal yn San Steffan.
O ganlyniad bydd Lloegr yn cael 10 AS yn rhagor tra bod Cymru yn colli wyth Aelod Seneddol - hynny gan bod etholaethau Cymru ar gyfartaledd yn llai na rhai Lloegr.
Bydd pob etholaeth yn newid rywfaint heblaw am etholaeth Ynys Môn sydd wedi'i gwarchod - fydd enw'r etholaeth na'i ffiniau ddim yn newid.
Y newidiadau sy'n cael eu hargymell
Bydd ffiniau 22 etholaeth yn newid ers y cynlluniau gwreiddiol.
Yn y gogledd bydd dinas Bangor yn cael ei chynnwys yn etholaeth Bangor Aberconwy - yn hytrach na'i gwahanu ar draws dwy etholaeth.
Fe fyddai etholaeth Gorllewin Clwyd yn cynnwys rhannau o Delyn, Dyffryn Clwyd a Gorllewin Clwyd, gan gynnwys Rhuthun.
Bydd y cynigion ar gyfer etholaeth Alyn a Dyfrdwy yn cael eu newid i gynnwys Y Fflint ac mae newidiadau hefyd i ffiniau Wrecsam.
Bydd tre'r Barri yn parhau i fod yn etholaeth Bro Morgannwg - yn wreiddiol roedd yna gynnig i gael etholaeth Y Barri, De Caerdydd a Phenarth.
Mae'r cynlluniau ar gyfer Caerdydd hefyd wedi'u hadolygu. Yn lle etholaeth Canol Caerdydd bydd etholaeth ardal Dwyrain Caerdydd yn cynnwys Trowbridge a bydd Cathays yn ymuno â De Caerdydd a Phenarth.
Bydd etholaeth Pen-y-bont yn newid i gynnwys canol tre Pen-y-bont yn gyfan - yn wreiddiol roedd hi wedi'i rhannu ar draws dwy etholaeth.
Mae'r cynlluniau newydd hefyd yn ailedrych ar orllewin Casnewydd.
Yn lle etholaeth Gorllewin Casnewydd a Chaerffili mae cynlluniau bellach ar gyfer etholaeth Gorllewin Casnewydd ac Islwyn.
Yn ôl y comisiwn fe fyddai cysylltiadau lleol a theithio yn uno yr etholaeth newydd - fe fyddai Caerffili yn etholaeth ar ei phen ei hun ond yn cynnwys rhai wardiau sydd ar hyn o bryd yn Islwyn.
Mae'r newidiadau eraill yn cynnwys adolygu ffiniau yng Nghaerfyrddin, Canol a De Sir Benfro, Ceredigion Preseli ac Aberafan Porthcawl.
Mae enwau naw etholaeth wedi'u newid.
Mae'r comisiynwyr yn cynnig newid sedd Brycheiniog a Maesyfed i Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe fel bod ardaloedd tebyg gyda'i gilydd.
'Hurt'
Mae'r cynlluniau i ostwng y nifer o gynrychiolwyr yn San Steffan wedi bod yn ddadleuol am gryn amser.
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu'r cynnig i gynnwys Cwm Tawe gydag ardaloedd mwy gwledig.
Dywedodd llefarydd: "Mae'r penderfyniad yn San Steffan i ostwng y nifer o etholaethau wedi bod yn broses anodd i'r Comisiwn Ffiniau ac ry'n yn diolch iddyn nhw am eu gwaith.
"Dyw uno cymunedau ôl-ddiwydiannol fe Cwm Tawe gydag ardaloedd gwledig ym Mrycheiniog a Maesyfed ddim yn gwneud dim synnwyr - ac mae'n dangos pa mor hurt yw cynlluniau San Steffan."
Dywedodd Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn, Mrs Justice Jefford, eu bod wedi derbyn 1,367 o ymatebion ysgrifenedig ac 81 o rai llafar i'r cynlluniau gwreiddiol.
"O ganlyniad mae'r Comisiwn wedi adolygu'r cynlluniau gwreiddiol. Mae yna newidiadau, rhai ohonynt yn arwyddocaol, i 22 o'r 32 etholaeth arfaethedig."
'Cyfleoedd cyffrous'
Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Er ei bod yn parhau i fod yn aneglur a fydd y ffiniau newydd yn eu lle erbyn yr Etholiad Cyffredinol ai peidio, rydym eisoes yn rhoi mecanweithiau ar waith i'n hymgeiswyr gael eu dewis i frwydro yn yr etholaethau newydd hyn.
"Bydd newidiadau mor fawr i fap etholiadol Cymru yn ddieithriad yn arwain at heriau i bob plaid wleidyddol, ond maen nhw hefyd yn rhoi rhai cyfleoedd cyffrous i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd13 Medi 2016