Virginia Crosbie: Anfon neges fygythiol i swyddfa AS Môn

  • Cyhoeddwyd
Agorwyd y llythyr gan aelod o staff yn swyddfa Virginia Crosbie ASFfynhonnell y llun, Virginia Crosbie
Disgrifiad o’r llun,

Agorwyd y llythyr gan aelod o staff yn swyddfa Virginia Crosbie AS

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn wedi mynnu y bydd hi'n parhau â'i gwaith er iddi dderbyn neges yn bygwth ei bywyd.

Anfonwyd y nodyn i swyddfa etholaeth Virginia Crosbie yng Nghaergybi ar 23 Rhagfyr.

Roedd y nodyn mewn llawysgrifen yn dweud bod "bradwyr yn hongian", gyda llun o raff wedi'i glymu.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i'r mater.

Gan rannu llun o'r nodyn, gofynnodd Ms Crosbie i bobl ffonio'r heddlu os oedden nhw'n adnabod y llawysgrifen.

'Atal menywod rhag sefyll'

"Ni fyddaf yn cael fy atal rhag gwneud y gwaith y cefais fy ethol i'w wneud gan bobl Ynys Môn ac ni fydd y llwfrgi neu'r llwfrgwn a anfonodd y nodyn hwn yn tanseilio democratiaeth," meddai Ms Crosbie.

"Gormod o weithiau mae'r math hwn o ymddygiad yn cael ei oddef ond nid gennyf i.

"Byddaf yn galw allan ac yn defnyddio'r holl lwybrau sydd ar gael i fynd ar drywydd pawb sy'n bygwth fy hun, fy nheulu a fy staff."

Ffynhonnell y llun, Virginia Crosbie
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Virginia Crosbie ei hethol yn Aelod Seneddol Ynys Môn ym mis Rhagfyr 2019

Fe ddiolchodd i'r heddlu am gymryd y mater mor ddifrifol, gan ychwanegu fod digwyddiadau o'r fath yn "niweidio democratiaeth ac yn atal pobl, yn enwedig menywod, rhag sefyll am swydd gyhoeddus".

"Mae'n gwbl hanfodol mewn cymdeithas ddemocrataidd bod gennym anghytundebau a dadl, nid bygythiadau marwolaeth," meddai.

"Hoffwn ganmol fy staff am yr holl waith maen nhw'n ei wneud, gan gynnwys gorfod gweld y math hwn o gyfathrebu llwfr wrth agor y post.

"Ddylen nhw ddim gorfod gwneud hynny."

Pynciau cysylltiedig