Rheilffordd a chaffi copa'r Wyddfa i ailagor yn llawn eleni
- Cyhoeddwyd
Mae Rheilffordd yr Wyddfa wedi cadarnhau y byddan nhw'n dechrau cludo pobl i fyny i gopa'r mynydd unwaith eto eleni, yn dilyn saib o bron i dair blynedd.
Dyw'r trên ddim wedi rhedeg i frig copa uchaf Cymru ers diwedd y tymor gwyliau yn 2019, wrth i'r pandemig darfu ar fusnesau twristaidd.
Ond bydd y gwasanaeth llawn nawr yn ailddechrau ar 13 Mai, gyda chaffi Hafod Eryri ar y copa hefyd yn ailagor am y tro cyntaf ers Hydref 2019.
Mae angen cael y trên yn mynd i'r copa er mwyn ailagor y caffi oherwydd mai dyna sut mae'r staff a nwyddau'n cael eu cludo yno.
Recriwtio staff newydd
Ers cyfnod y pandemig mae'r trenau ond wedi bod yn rhedeg hyd at orsaf Clogwyn, sydd ran o'r ffordd i fyny'r Wyddfa.
Ond gyda'r caffi ar y brig wedi bod ar gau yn ystod y cyfnod hwnnw, mae hynny wedi arwain at broblemau gyda gwastraff ger llwybrau'r mynydd.
Bu adroddiadau o bobl yn ysgarthu ar y mynydd am nad oedd cyfleusterau tŷ bach ar gael iddyn nhw, tra bod gwirfoddolwyr hefyd wedi bod yn casglu sbwriel gafodd ei adael gan gerddwyr.
Parc Cenedlaethol Eryri sydd berchen canolfan Hafod Eryri, ond mae'n cael ei logi a'i redeg gan Reilffordd yr Wyddfa yn Llanberis.
Mewn blwyddyn dda, mae'r cwmni'n dweud eu bod nhw'n cludo tua 144,000 o deithwyr i gopa'r mynydd, ac mae amcangyfrif bod tua 600,000 hefyd yn cerdded i fyny.
Ond oherwydd y galw yna mae gofyn am allu cael trenau er mwyn cludo tua 9,000 litr o ddŵr i fyny i adeilad y caffi, yn bennaf er mwyn fflysio'r tai bach.
Dywedodd Rheilffordd yr Wyddfa y byddan nhw nawr yn paratoi i recriwtio staff ar gyfer yr haf, pan mae tua 15 o bobl fel arfer yn gweithio yn y caffi yn ystod yr adegau prysuraf.
Mae'r cwmni'n cyflogi 45-50 o staff parhaol, gyda dros 30 o swyddi ychwanegol yn cael eu creu bob blwyddyn yn Llanberis ac ar gopa'r Wyddfa pan mae nifer yr ymwelwyr yn cynyddu.
Mae disgwyl i'r trenau ddechrau rhedeg hyd at orsaf Clogwyn ddechrau Ebrill, fel bod modd paratoi'r rheilffordd ar gyfer ailagor i'r copa'n llawn erbyn canol Mai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2022