Hafod Eryri ar ben yr Wyddfa i barhau ar gau yn 2022

  • Cyhoeddwyd
Hafod Eryri

Bydd yr orsaf drenau a chanolfan ymwelwyr ar gopa'r Wyddfa yn parhau ar gau yn 2022 oherwydd effaith y pandemig ar y gweithlu.

Yn ôl Rheilffordd yr Wyddfa, mae angen cwblhau gwaith hanfodol i'r cledrau a gafodd ei ohirio yn wreiddiol pan oedd staff ar ffyrlo yn 2019-2020.

Ond bydd trenau'n parhau i redeg hyd at orsaf Clogwyn, sydd tua 300 metr yn is na'r copa.

Mae disgwyl i'r ganolfan ar gopa'r Wyddfa, Hafod Eryri, ailagor ar gyfer tymor 2023.

Dywedodd Carrie Druce, Rheolwr Marchnata'r rheilffordd bod adnoddau a heriau staffio oherwydd y pandemig wedi oedi'r gwaith.

"Bob blwyddyn, rydym yn ailosod elfennau o'r rheilffordd ond oherwydd cyfyngiadau'r pandemig ar y gweithlu ac ar adnoddau yn ystod 2019-2020, doedd hi ddim yn bosib cwblhau'r gwaith hanfodol hyn.

"Ry'n ni felly wedi dechrau ar y gwaith yn hwyr yn 2021 i mewn i 2022 sy'n golygu y bydd yn rhaid i'r rheilffordd uwchben Clogwyn barhau ar gau," eglurodd Ms Druce.

"Mae'r gwaith hwn yn defnyddio buddsoddiad ariannol sylweddol ac adnoddau staff nad oedd ar gael yn ystod y pandemig."

Ychwanegodd Ms Druce y bydd y gwasanaeth diesel traddodiadol yn rhedeg i orsaf Clogwyn rhwng 1 Ebrill 2022 a diwedd hydref, a'r trên stêm yn rhedeg dros fisoedd yr haf.