Ateb y Galw: Elin Parisa Fouladi

  • Cyhoeddwyd
Elin Parisa FouladiFfynhonnell y llun, Elin Parisa Fouladi
Disgrifiad o’r llun,

Elin Parisa Fouladi

Y gantores a chyfansoddwraig Gymraeg Iranaidd o Gaerdydd, Elin Parisa Fouladi, sydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi ddim yn siŵr faint oed oeddwn i, 4 falle, dwi'n cofio penderfynu codi yn ganol nos a dechre arlunio dros y wal yn fy stafell wely. Dwi ddim yn cofio be ddigwyddodd wedyn ond dwi'n siŵr nad oedd fy rhieni'n hapus iawn!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llanuwchllyn achos o fynna mae fy mam yn dod ac mae gen i lawer o atgofion melys o'r lle pan yn blentyn. Mae hefyd yn lle hyfryd ac mae'n teimlo fel 'adre' i mi. Mae'n teimlo fel ddoe bod ar fferm fy nhaid, Tŷ Du, a mynd efo fo ar yr hen dractor i fyny'r mynydd i hel defaid. Atgofion bythgofiadwy!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae hwn yn un anodd a dwi'n gwybod dwi wedi cael ambell i noson ble nes i ddweud 'dyma y noson orau ERIOED!' ar y pryd... Dwi 'di anghofio lot o'r noswethiau yna ond un noson wych fydd yn aros yn fy nghof am byth a siŵr o fod y noson orau i mi gael erioed oedd tua tair blynedd yn ôl ym mharti ffarwel y PrintHaus yn Nhreganna, yng Nghaerdydd. Jest noson wych gyda phobl wych!

Ges i'r cyfle i berfformio hefyd, oedd yn lyfli a'r artist gwadd oedd Gruff Rhys, o'dd yn syrpreis neis i bawb. Roedd pawb yn y parti yn cael peintio ar y waliau felly roeddwn i yn fy elfen. Mor refreshing cael noson mor wahanol! Beth gwell mewn un noson... perfformio fy ngherddoriaeth, cwmni gwych mewn lle rili cŵl ac yna cael peintio ar y waliau? Dwi jest yn cofio fi a Mati, fy ffrind, yn chwerthin a dawnsio tan yr oriau mân, mor hyfryd! Dwi hefyd yn cofio cerddoriaeth bril gan y DJs...Jest noson berffaith!

Ffynhonnell y llun, Elin Parisa Fouladi
Disgrifiad o’r llun,

Elin ar noson olaf y PrintHaus yng Nghaerdydd

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Sensitif, spontaneous, angerddol.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Pan ddoth fy Nain a Taid o Iran i aros pan roeddwn i yn fy arddegau, mae meddwl am hyn wastad yn gwneud i mi wenu.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n gorfeddwl lot, felly dydi o ddim yn cymryd lot i fi deimlo cywilydd! Dwi'n trio blocio'r math yma o bethau allan! Mae yna ambell stori 'swn i'n gallu ei ddweud ond un o'r pethau gododd fwya' o gywilydd arna i oedd dweud celwydd am fy oedran. Pan o'n i'n naw oed es i ar raglen deledu ar ITV o'r enw Terror Towers. Dwi'n cofio ffys mawr yn cael ei wneud yn yr ysgol hefyd, roedd e'n beth mawr ar y pryd. O'n i fod yn ddeg oed i fynd ar y rhaglen ond 'nath pawb ddweud wrtha i ddweud mod i'n ddeg er mwyn i mi allu mynd i'r clyweliad, jest am hwyl!!

Dwi ddim yn meddwl o'dd unrhyw un yn meddwl bydden i yn cael fy newis i fynd ar y rhaglen! Dwi 'rioed di poeni gymaint yn fy mywyd. Dwi methu dweud celwydd chwaith, felly roedd e'n hunllef i fi. Un diwrnod, tra yn ffilmio, 'nath y cynhyrchydd ofyn i mi faint oed o'n i ac es i'n wyn fel cynfas, on i methu dweud celwydd, felly nes i ddweud y gwir.

On i'n sâl efo'r poeni i gyd! O'n i'n llenwi ffurflenni heb fy nyddiad geni, mae'n rhaid eu bod nhw jest yn meddwl mod i'n dwp. Aeth y celwydd bach gwyn yn rhy bell...Cywilydd llwyr! Peth bach neis ddigwyddodd ar y tren nôl o Lundain y diwrnod wedyn oedd cwrdd â Dafydd Elis-Thomas a 'nath o dalu £4 i mi am lun nes i arlunio ar y trên. Hwnna yn atgof neis ar ôl yr holl stress!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dau ddiwrnod yn ôl dwi'n meddwl. Collais fy nhad yn ddiweddar, felly mae'n gyfnod anodd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cnoi'r croen o gwmpas fy ngwinedd, wastad yn hwyr a dweud ie i bob dim er mwyn plesio pobl eraill!

Ffynhonnell y llun, Elin Parisa Fouladi
Disgrifiad o’r llun,

Elin yn nwylo ei mam pan yn fabi

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

O, cwestiwn anodd. Y ffilm Arrival achos mae'n gwneud i mi grio bob tro, mae mor emosiynol a dwfn, ac mae'r plot yn wych. Yn agos i hon mae Moonlight, Donnie Darko, Edward Scissorhands a The Shape of Water. Dwi'n gwybod fod hwnna'n lot mwy nag un dewis ond mae'n gwestiwn mor anodd ac mae rheina i gyd yn ffefrynnau. Mae hefyd yn dibynnu pa 'mŵd' dwi mewn a pha ddiwrnod yw hi.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Cappuccino efo Dad i fi allu rhoi cwtch mawr iddo fo a dweud faint oedd o'n golygu i mi a gofyn iddo fo am ei farn ar fy ngherddoriaeth newydd achos oedd o'n dda am wrando a rhoi barn gonest. Roeddwn i'n parchu ei farn yn fawr. Faswn i hefyd yn gofyn iddo fo ganu i fi achos roedd ganddo lais bendigedig.

Ffynhonnell y llun, Elin Parisa Fouladi
Disgrifiad o’r llun,

Elin Parisa Fouladi gyda'i thad

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i complex mawr pan yn siarad Cymraeg gan fod gen i ddwy acen! Acen gogleddol yw fy acen naturiol ond pan on i'n iau, yn tyfu fyny yng Nghaerdydd, roedd rhai plant yn tynnu coes felly i ffitio mewn, nes i ddechre siarad gydag acen de. 'Wan dwi'n mynd i banig mawr pan dwi'n newid o un acen i'r llall, yn enwedig os dwi'n cael sgwrs ar yr un pryd gydag un person o'r de ac un arall o'r gogledd!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dweud wrth y bobl bwysig faint maen nhw'n ei olygu i mi a threfnu gŵyl mawr wrth y traeth gyda fy nhelu a ffrindiau, a fy nghi, Mali.

Ffynhonnell y llun, Elin Parisa Fouladi
Disgrifiad o’r llun,

Elin gyda'i theulu

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Faswn i'n licio bod yn Elon Musk (dim ond achos fo ydy'r person efo'r mwya o bres yn y byd, yn ôl Google) i mi allu roi pres i bawb sydd ei angen o dros y byd. Fysa Elon yn bankrupt y diwrnod wedyn ond dyna ni!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig