Agor cwest cwpl fu farw mewn tân yn eu cartref yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y teulu fod David a Margaret Edwards wedi bod gyda'i gilydd ers 35 mlynedd
Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio i farwolaethau cwpl priod a fu farw mewn tân yn eu cartref yn Sir Benfro fis diwethaf.
Bu farw David Bowen Edwards, 60, a'i wraig Margaret Eleanor Edwards, 55, yn y digwyddiad ym mhentref Llandudoch ger Aberteifi ar 11 Rhagfyr.
Mewn gwrandawiad byr yn Neuadd y Dref Llanelli, cadarnhaodd Swyddog y Crwner Malcolm Thompson y cafodd yr heddlu eu galw i'r tân mewn tŷ teras gan y gwasanaeth tân am 01:36.
Dywedodd fod y tân yn un mawr, a bod fflamau i'w gweld yn dod o'r to.

Bu farw'r cwpl wedi tân ym mhentref Llandudoch ger Aberteifi ar 11 Rhagfyr
Ar ôl i'r gwasanaethau brys dorri'r drws, cafodd Mrs Edwards ei chanfod yn farw mewn cadair yn y lolfa.
Cafodd corff Mr Edwards ei ganfod wedi i'r tân gael ei ddiffodd.
Roedd y gwely yr oedd ynddo wedi disgyn o'r llawr cyntaf i'r llawr isaf oherwydd y difrod a achoswyd i'r tŷ gan y fflamau.
Mae profion post mortem wedi'u cynnal, ond nid yw'r adroddiad llawn ar gael eto.
Cafodd y cwest ei ohirio tan y bydd ymchwiliadau Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru a Heddlu Dyfed-Powys wedi'u cwblhau.
Does dim dyddiad wedi'i bennu eto ar gyfer cynnal y cwest llawn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2022