Cynghorau: 'Pwysau' chwyddiant er gwaethaf mwy o arian
- Cyhoeddwyd
Bydd cynnydd o 7.9% yn y cyllid i gynghorau Cymru y flwyddyn nesaf, meddai Llywodraeth Cymru.
Ni fydd unrhyw awdurdod lleol yn cael llai na 6.5% o gynnydd, gyda'r cynnydd mwyaf o 9.3% i'w weld yng nghyllideb Sir Fynwy.
Dyw'r cynnydd yn y cyllidebau ddim mor uchel â'r gyfradd chwyddiant bresennol, sydd wedi disgyn ychydig ym mis Hydref o 11.1% - y lefel uchaf ers 41 mlynedd - lawr i 10.7%.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: "Mae'r setliad hwn yn adeiladu ar ddyraniadau gwell dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn cynnig sail gadarn i gynghorau lleol allu cynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, a thu hwnt."
Ond mae'r gweinidog yn cydnabod "bod y pwysau o ran chwyddiant a wynebir gan wasanaethau yn golygu y bydd dal angen i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd wrth bennu eu cyllidebau".
'Llwm'
Ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan: "Rydym yn ddiolchgar iawn i'r gweinidog am wrando ar ein hachos dros fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, ysgolion, a gwasanaethau allweddol eraill a ddarperir gan awdurdodau lleol."
Ond fe rybuddiodd fod y rhagolygon economaidd "yn parhau i fod yn llwm".
"Bydd yn rhaid i gynghorau gymryd penderfyniadau anodd i lenwi bylchau cynyddol yn y gyllideb oherwydd biliau ynni, chwyddiant a chostau cyflogau," meddai.
"Mae'r setliad hwn yn cwmpasu ychydig dros hanner y pwysau a wynebwn yn y flwyddyn ariannol nesaf."
Rhybuddiodd arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi nad oedd yr arian gan Lywodraeth Cymru yn ddigon i lenwi'r twll sydd yn eu cyllideb, a bod hynny'n "golygu y byddwn ni'n torri ar wasnaethau ac yn edrych ar dreth y cyngor".
"Os fysa ni ddim yn gwneud toriadau, fysa'n rhaid i ni godi'r treth cyngor o 14%," meddai.
"Dydi hynny ddim yn realistig, fedrith pobl ddim fforddio hynny, felly mi fydd 'na dorri ar wasanaethau."
Ychwanegodd y byddai hyn yn oed rhaid ystyried toriadau mewn meysydd craidd fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol.
"Mae'n amhosib bellach i ni beidio ag edrych arnyn nhw," meddai. "Dwi ddim y dweud ein bod ni'n mynd i wneud rhywbeth iddyn nhw, ond mae'n rhaid i ni edrych arnyn nhw o ddifri'.
"Dwi'n teimlo bod gwasnaethau cyhoeddus wedi cael eu llosgi a 'dan ni lawr i'r lludw rŵan.
"Yr unig addewid y galla'i wneud yw y byddwn ni'n gwneud y penderfynaidau yna yn y ffordd orau posib er mwyn gwarchod y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau, achos mae'n rhaid gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwarchod y rheiny sydd methu edrych ar ôl eu hunain."
Torri addewid tai newydd?
Mae costau cynyddol yn golygu y gallai fod yn rhaid adnewyddu hen gartrefi yn lle adeiladu miloedd o rai newydd, meddai Llywodraeth Cymru.
Roedd maniffesto Llafur yn addo "20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu".
Ond dywedodd y Gweinidog Cyllid nad oedd ei chyllideb wedi cadw i fyny gyda phrisiau cynyddol, ac fe allai hefyd effeithio ar gynlluniau i adeiladu ysgolion.
"Gallai hwnnw fod yn faes lle nad ydym yn edrych ar bob cartref fel un newydd nawr," meddai Rebecca Evans.
"Fe allen ni fod yn edrych ar gartrefi sy'n cael eu gwella i safon, neu gartrefi gwag pellach sy'n cael eu defnyddio, ac yn y blaen."
Mae cyllid cyfalaf - sy'n talu am waith adeiladu - wedi'i wasgu'n arbennig o galed.
O ganlyniad, fe allai rhai pethau gymryd mwy o amser, meddai Ms Evans wrth bwyllgor cyllid y Senedd, y diwrnod ar ôl cyhoeddi ei chyllideb.
Byddai ymrwymiad i wario £1.5bn ar adeiladu ysgolion yn cael ei anrhydeddu, ond "yn anochel nid ydym yn mynd i gael cymaint am yr arian hwnnw".
Ychwanegodd: "Bydd rhannau o'r gyllideb lle na allwn gyflawni cymaint ag y bwriadwyd yn wreiddiol."
Clywodd y pwyllgor fod cost adeiladu ysgolion wedi cynyddu 15%.
Cadarnhaodd y gyllideb ddoe y bydd gwariant cyfalaf yn aros yn wastad y flwyddyn nesaf ac na fydd yn cadw i fyny â chwyddiant.
Mae hynny'n golygu y gallai'r gyllideb fod werth 8% yn llai yn 2023/24 mewn gwirionedd, oherwydd prisiau cynyddol.
Diwedd taliadau £200
Yn y cyfamser, cyhoeddwyd y bydd taliadau cartref cynnes o £200 i helpu pobl ar fudd-daliadau yn dod i ben y flwyddyn nesaf.
Cafodd diwedd y cynllun cymorth tanwydd gaeaf, gwerth £90m, ei gadarnhau pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb.
Roedd cyllid arall i helpu pobl drwy'r argyfwng costau byw yn cael ei ehangu, meddai'r llywodraeth.
Roedd y taliadau tanwydd untro ar gael drwy gynghorau lleol yn ogystal â chymorth Llywodraeth y DU i helpu pobl gyda'r cynnydd mawr ym mhrisiau ynni.
Cawsant eu hymestyn i fwy o bobl ym mis Gorffennaf, gan olygu eu bod ar gael i 422,000 o aelwydydd ar amrywiaeth o fudd-daliadau.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y gyllideb yn cefnogi'r bobl fwyaf bregus, ond roedd y cynllun tanwydd wedi'i gyfyngu i ddwy flynedd ac "nid yw'r pwysau ariannol presennol yn galluogi ehangu'r cynllun hwnnw yn 2023/24".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd25 Medi 2022