Agor cwest dau gafodd eu canfod yn Afon Tawe ddydd Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Heddlu yn AbertaweFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi eu galw tua 03:00 fore Nadolig

Mae cwest i farwolaethau dau berson gafodd eu darganfod yn Afon Tawe ddydd Nadolig wedi ei agor.

Yn ôl adroddiadau, roedd Rachel Curtis a Jay Kyle Jenkins, y ddau yn 36 oed, yn gyrru ar hyd ffordd yr A483 yn Abertawe pan wnaethon nhw daro rhwystrau diogelwch i gerddwyr cyn i'r car fynd i'r dŵr.

Yn Neuadd y Dref Abertawe, dywedodd yr uwch grwner Colin Phillips fod ymholiadau yn parhau i ganfod achos y gwrthdrawiad.

Bydd y cwest yn dechrau ar 3 Hydref eleni.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu / Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jay Kyle Jenkins a Rachel Curtis eu darganfod yn farw yn Afon Tawe fore Nadolig

Clywodd y crwner fod lle i gredu mai Rachel Curtis oedd yn gyrru car Mini Cooper tua 03:00 fore Nadolig, gyda Jay Kyle Jenkins yn sedd y teithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 03:05 yn dilyn adroddiadau bod y car wedi mynd i mewn i'r afon ger Heol New Cut yng nghanol y ddinas.

Clywodd y llys fod cyrff y ddau wedi eu darganfod yn ddiweddarach a chafodd y Mini Cooper ei godi gan graen o Afon Tawe.

Pynciau cysylltiedig