Sut i arbed costau wrth ofalu am eich anifail anwes
- Cyhoeddwyd

Mae'r argyfwng costau byw dros y blynyddoedd diweddar wedi cael effaith ar sawl agwedd o'n bywydau.
Un peth sydd wedi newid ydy gallu rhai pobl i ofalu am anifeiliaid anwes, gyda'r costau i'w cadw'n golygu bod rhai pobl yn gorfod eu rhoi nôl.
Ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru ar 18 Ionawr fe siaradodd y milfeddyg Dr Lowri Davies am y sefyllfa bresennol.
"Ma' fe'n broblem fawr a dweud y gwir. Os chi'n edrych nôl ar y pandemig, oedd pobl yn talu arian dwl am gŵn bach. A nawr wrth gwrs ma'r sefyllfa 'di newid, ma pobl nôl yn eu gwaith a'r sefyllfa economaidd 'di newid. Falle doedd dim un ci i gael yn y llefydd ail-gartrefu 'ma, a nawr mae fel bod nhw'n llawn. Ti'n gorfod aros nawr i gael dy gi neu gath i fewn i gael ei ail-gartrefu.
"Mae pobl yn meddwl bod cost o brynu ci, cath neu geffyl, ond i fod yn hollol wir dyna'r gost lleiaf gyda'r anifail. 'Dyw pobl ddim yn meddwl faint ma'r anifail yn mynd i gostio i edrych ar ei ôl yn iawn.
"'Da ni'n gwneud payment plans, ac mae nifer o filfeddygon yn creu rhywfath o glwb ble ti'n talu hyn a hyn bob mis ar gyfer brechiadau a meddyginiaeth llyngyr. Ond dwi'n derbyn bod hyn ddim yn helpu ar gyfer pethau ry'n ni ddim yn ei ddisgwyl, os yw'r anifail yn torri'i goes neu rhywbeth."
Fitiaminau a 'supplements' anifeiliaid
Heddiw, mae llawer o fitaminau a tabledi arbennig ar gael i'r anifeiliaid er mwyn trin eu hiechyd mewn gwahanol ffordd. Ydy rhain yn angenrheidiol yn ôl Lowri? "Na, i fod yn hollol onest dwi'n aml yn trio dysgu'r perchennog i ddarllen y labeli.
"Y mwyaf o bethau sydd yn y bwyd, fel arfer gwaeth yw ansawdd y bwyd. Protein yw'r peth drud mewn bwyd anifail, a protein mewn ffordd sydd fwyaf pwysig i'r anifail. Felly os wyt ti'n gweld bod pethau wedi cael eu rhoi fewn, perlysiau a phethau tsêp, mae hwnnw'n troi bwyd o ansawdd sâl yn aml i beth mae'r prynwr yn meddwl sy'n fwyd o ansawdd da - ond ma nhw'n wasto arian."

Oes angen fitaminau ychwanegol ar gi? Neu a yw diet cytbwys yn ddigonol?
"Beth rwy' wastad yn dweud yw i edrych am rywbeth syml heb lot o gynhwysion, ac hyd yn oed os ydyn nhw'n dweud mai cig oen neu cig cyw iâr sydd ynddo - edrych yn fanwl i weld mai dim ond hynny sydd ynddo fe yn nhermau protein, achos yn aml ma nhw'n rhoi olew cyw iâr neu wyau."
Hefyd mae lot yn rhoi sugar beet yn y bwyd, meddai Lowri, mewn bwyd ceffylau er enghraifft, sy'n chwyddo'r bwyd ond ddim yn rhoi lot o faeth i'r anifail.
"Ma' rhaid pwyso'r bwyd, achos dwed bod ti'n prynu bag 15kg ac ti'n gorfod defnyddio 500g y dydd yn lle 100g y dydd, dyw'r bag sydd yn edrych fel y rhata' ddim y rhata' go iawn ar ddiwedd y dydd. Dwi'n trio rhoi rhyw dri opsiwn gwahanol i'r perchennog edrych arno ynglŷn â sut mae bwydydd gwahanol am fwydo yr anifail - o'r bwyd drud i'r rhataf, a gwerth am arian."
Sgraps y tŷ
Ydy hi'n iawn i fwydo sgraps y tŷ i'r anifail weithia? "Mae'n dibynnu," meddai Lowri. "Os yw sgraps dy dŷ di'n rhywbeth sydd dros ben o McDonalds, na 'dyw e ddim yn iawn. Ond os wyt ti'n gwneud tato ag ati dy hun, does dim byd yn anghywir yn hynny.

Ydy hi'n iawn bwydo sgraps y bwrdd bwyd i gi?...
"Dwi'n licio rhoi pysgod ffres i'r cŵn. Ry'n ni'n clywed am ba mor dda yw'r Mediterranian diet i ni, wel mae'r 'run peth yn dda i'r ci neu gath.
"Falle bod hynny'n ffordd arall o arbed arian achos mae 'na nifer o gynhwysion allan ar gyfer y cymalau gyda Omega 3 a 6, ond mae pysgodyn ffres unwaith neu ddwy yr wythnos falle'n rhatach ac yn gwneud mwy o les na gwario punt neu ddwy y dydd am rywbeth sydd mewn potel.
"Os na fydden i'n hapus i fwyta fe fy hunan, yn aml dwi'n meddwl fydden i ddim yn bwydo fe i'r ci neu gath. O fewn rheswm mae sgraps yn iawn - mae winwns yn gallu bod yn wenwynig, a phethau fel siocled a grawnwin - ond defnyddiwch bach o synnwyr cyffredin.
"Ni yn gor-fwydo ein anifeiliaid - rwy'n credu os bydde pobl yn bwydo eu hanifeiliaid yn iawn ac yn rhoi digon o ymarfer corff i nhw, bydden i allan o swydd!"
Yswiriant anifeiliaid
Gyda costau meddygol anifeiliaid anwes yn gallu bod yn uchel iawn, beth fyddai cyngor Dr Davies ynglŷn ag yswiriant?
"Rydyn ni yn argymell i bobl gymryd yswiriant allan neu i gynilo rhywbeth yn y banc bob mis ar eu cyfer nhw.
"Mae e'n wir i ddweud bod ti'n cael beth ti'n talu amdano, ond o fewn hynny mae rhai polisïau tsêp yn edrych yn dda iawn. Er enghraifft maen nhw'n dweud 'gyda'r polisi hwn ti'n talu £20 yr wythnos ac mae gen ti £10,000 y flwyddyn ar gyfer ffioedd milfeddyg'. Ond pan ti'n edrych ar y print man, ti ond yn cael £50 gyda pob gwahanol broblem, felly bydde rhaid i'r anifail gael 20 o gwahanol broblemau i gael y gwerth."

Yr Irish Wolfhound; ci sydd fel arfer ymysg y mwyaf costus ac anodd i'w edrych ar ei ôl.
"Mae rhai eraill wedyn yn cyfro'r anifail am ei oes; dwed bod problem ar y galon, bydden nhw'n talu mas bob blwyddyn, felly falle bydden nhw'n talu mas £2,000 neu £6,000 bob blwyddyn - 'na be' ti'n cael gyda be' ma' nhw'n galw'n lifetime policy.
"Mae ambell i frîd yn fwy drud. Mae'r cŵn mawr sy'n tueddu cael mwy o brobleme, yn fwy costus i drin, fel yr Irish Wolfhound. Hefyd yn fwy drud mae rhai o'r cŵn ni'n gwybod sydd ag mwy o brobleme fel y French Bulldog.
"Mae'r cod post lle chi' byw hefyd yn gwneud gwahaniaeth - chi'n talu mwy ar gyfer prisiau milfeddygfa yn Llundain nac yng nghefn gwlad Cymru. Mae'n bwysig i ddarllen y print mân, ac ni wastad yn argymell polisi am fywyd - mae nhw'n tueddu i fod bach yn ddrytach ond ar y cyfan ma' 'heiny'n werth yr arian achos ti'n gwybod bod nhw'n cadw i dalu allan o flwyddyn i flwyddyn."

Hefyd o ddiddordeb: