Staff ambiwlans yn cyhoeddi pedwar diwrnod arall o streicio
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr ambiwlans sy'n rhan o undebau'r GMB a Unite wedi cyhoeddi y byddan nhw'n streicio am bedwar diwrnod yn rhagor fis Chwefror a mis Mawrth.
Bydd y staff yn gweithredu'r ddiwydiannol ar 6 a 20 Chwefror, a 6 a 20 Mawrth yn sgil yr anghydfod am dâl ac amodau gwaith.
Fe fydd gweithwyr ambiwlans fel parafeddygon a'u cynorthwywyr, a staff canolfannau galwadau - yn rhan o'r gweithredu yng Nghymru.
Mae gweithwyr ambiwlans Unite - hefyd yn streicio ar 19 a 23 Ionawr.
Bydd nyrsys hefyd yn streicio yng Nghymru ar 6 a 7 Chwefror, gan olygu y bydd nyrsys a staff ambiwlans ar streic ar yr un diwrnod ar ddydd Llun, 6 Chwefror.
Fe wnaeth aelodau'r GMB streicio ar 21 Rhagfyr, ac roedden nhw wedi bwriadu gwneud ar 28 Ionawr hefyd, ond cafodd yr ail ddiwrnod ei ohirio tan 11 Ionawr wedi'r hyn roedd yr undeb yn ei ddisgrifio fel cefnogaeth "anhygoel" gan y cyhoedd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig" am barhad y streicio, ond eu bod yn "cydnabod a pharchu cryfder y teimlad ymysg staff ambiwlans".
Ychwanegodd llefarydd y bydd y llywodraeth yn gweithio gyda'r undebau er mwyn sicrhau fod ambiwlans yn mynychu'r achosion mwyaf brys hyd yn oed yn ystod y dyddiau o weithredu diwydiannol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2022