Minffordd: Mab 'ddim yn ei iawn bwyll' cyn ymosod ar ei dad
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed nad oedd dyn o Wynedd, sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio'i dad, yn ei iawn bwyll ar adeg yr ymosodiad.
Bu farw Dafydd Thomas, 65, o "anafiadau catastroffig i'w wyneb" ger ei gartref ym Minffordd fis Mawrth 2021.
Mae ei fab, Tony Thomas, 45, yn cyfaddef ei fod wedi ymosod ar ei dad, ond mae'n gwadu ei lofruddio.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug yr wythnos ddiwethaf fod Tony Thomas wedi llusgo ei dad allan o'i gar a'i gicio a'i sathru gydag esgidiau oedd â chapiau metel.
Wrth i'r amddiffyniad ddechrau ddydd Llun, dywedodd y bargyfreithiwr Gordon Aspden KC, os yw'r rheithgor yn derbyn na wnaeth Tony Thomas achosi marwolaeth ei dad, nid yw'n euog o lofruddiaeth na dynladdiad.
Ond ychwanegodd os ydyn nhw'n credu mai ef oedd yn gyfrifol am y farwolaeth, y dylen nhw ystyried a yw'n euog o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll, yn hytrach na llofruddiaeth.
Dywedodd Dr Andrew Shepherd - ymgynghorydd seiciatryddol fu'n asesu Tony Thomas ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron - fod Tony wedi cyfaddef iddo ei fod "wedi colli hi" cyn ymosod ar ei dad, ond ei fod yn honni nad oedd yn cofio beth ddigwyddodd wedi hynny.
Clywodd y llys fod gan Tony Thomas hanes o broblemau iechyd meddwl ers 1997, a'i fod wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol (bipolar).
Dywedodd Dr Shepherd wrth y llys ei fod yn credu fod gan Tony Thomas anhwylder schizoaffective ar adeg y digwyddiad gyda'i dad - cymysgedd o sgitsoffrenia ac anhwylder ar ei dymer, fel iselder neu anhwylder deubegynol.
Credu ei fod am wella afiechydon
Yn ôl Dr Shepherd, pan fu'n cyfweld Tony Thomas wedi'r digwyddiad bu'n sôn ei fod yn cadw moch prin, a'i fod yn cynnal arbrofion arnynt er mwyn ceisio "cael gwared ag afiechydon", gan gynnwys Covid-19.
Dywedodd hefyd ei fod dan bwysau am ei fod yn gweithio gydag uned o'r fyddin, a'i fod angen siarad â phrif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro Chris Witty, am ganlyniadau ei arbrofion.
Ychwanegodd Dr Shepherd ei fod yn gwybod nad oedd Tony Thomas yn gwneud unrhyw waith ar wella afiechydon, ond fod Mr Thomas "heb os" yn credu'r peth.
Dywedodd hefyd fod Tony Thomas yn gallu cydnabod ei fod wedi cael trafferthion iechyd meddwl a'i fod wedi mynychu ysbytai iechyd meddwl ar sawl achlysur.
Ar fore'r ymosodiad cafodd Tony Thomas wybod y byddai moch yn cael eu symud o amgylch fferm y teulu, a bod hynny wedi ei wneud yn bryderus.
Roedd yn poeni y byddai ei foch yntau'n cael eu "heintio", ac y byddai'r gwaith roedd yn credu ei fod yn gwneud i atal afiechydon yn cael ei ddadwneud.
Dywedodd Tony wrth Dr Shepherd ei fod wedi mynd i siarad gyda'i dad am y moch a'u bod wedi ffraeo, a'i fod wedi colli rheolaeth.
Ychwanegodd nad oedd yn cofio beth ddigwyddodd wedi'r ffrae, ond ei fod wedi awgrymu mai aelod arall o'r teulu, neu wraig Dafydd Thomas, oedd wedi ei ladd.
Dywedodd Dr Shepherd ei fod o'r farn nad oedd Tony Thomas yn ei iawn bwyll ar adeg yr ymosodiad.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2023