Rhewi cyllideb yn 'bygwth gwasanaethau digartref'
- Cyhoeddwyd
Mae cyllideb ddrafft 2023/2024 yn "rhoi'r bobl fregus yn ein cymunedau mewn perygl", yn ôl prif swyddog gwasanaeth cymorth cymdeithas dai yn y gogledd.
Mae Grŵp Cynefin yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried penderfyniad i rewi cyllid ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yng nghyllideb ddrafft 2023/24.
Dywed y gymdeithas y bydd y gyllideb yn golygu bod cyllid ar gyfer gwasanaethau digartrefedd £18m yn llai nag yn 2012 mewn termau real.
Er hyn, dywedodd y llywodraeth y bydd y gyllideb ar atal digartrefedd yn cynyddu £15m yn 2023/24, gyda £207m yn cael ei fuddsoddi y flwyddyn nesaf mewn gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai.
Ond mae'r gymdeithas yn dweud y bydd rhewi'r Grant Cymorth Tai yn bygwth gwasanaethau sy'n cefnogi pobl ddigartref a phobl sy'n profi cam-drin domestig.
Mwy o bobl hŷn angen cymorth
Mae uned fusnes pwrpasol Grŵp Cynefin, Gorwel, yn darparu gwasanaethau i gefnogi pobl sy'n profi cam-drin domestig a phobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o golli eu cartrefi yng ngogledd Cymru.
Mae'r gymdeithas wedi ymuno â'r corff Cymorth Cymru a chynrychiolydd cymdeithasau tai Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, yn yr ymgyrch #MaterionTaiCymru, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r Grant Cymorth Tai yn eu Cyllideb Derfynol ar gyfer 2023/24.
Dywedodd prif swyddog Gorwel, Osian Elis: "Rydw i wedi gweithio yn y sector yma ers dros 20 mlynedd ac yn gweld pethau na welais i erioed o'r blaen.
"Mae pobl sy'n gweithio'n llawn amser yn cysylltu â ni, yn ddigartref.
"Rydyn ni'n gweld mwy a mwy o bobl hŷn - pobl sydd wedi gweithio ar hyd eu hoes a heb orfod chwilio am help o'r blaen - yn dweud wrthyn ni bod eu landlord eisiau eu tŷ yn ôl ac na allan nhw ddod o hyd i unrhyw le maen nhw yn gallu ei fforddio."
Mae dros 8,500 o bobl mewn llety dros dro yng Nghymru, ac mae ystadegau'n dangos bod hwn yn cynyddu o ryw 500 bob mis.
Wrth siarad gyda Cymru Fyw dywedodd Mr Elis bod 60% o gyllideb ariannu Gorwel yn dod o'r Grant Cymorth Tai, ond does yna ddim chwyddiant na chynnydd yn y grant eleni.
'Tanseilio'r gallu i gynnig cymorth'
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud "cafwyd cynnydd i gyllideb y Grant Cymorth Tai o £40m yn 2021-22 i £166.763m - cynnydd o fwy na 30%".
Ond mae Shan Lloyd Williams, prif weithredwr Grŵp Cynefin, yn credu bod y gyllideb bresennol yn tanseilio gallu'r gymdeithas i gynnig cymorth.
"Rydyn ni mewn argyfwng costau byw ac ar draws gogledd Cymru, rydyn ni'n gweld lefelau tlodi na welwyd eu tebyg o'r blaen, mwy o deuluoedd yn wynebu digartrefedd, a cham-drin domestig ar gynnydd," dywedodd.
"Mae rhewi'r cyllid yn ei hanfod yn doriad sylweddol - yn enwedig gyda chwyddiant ar ei lefel bresennol."
'Fe wnaethon nhw fy helpu i drwy uffern'
Mae'r rhai sydd wedi elwa o wasanaethau Gorwel yn glir am effaith positif eu gwaith.
Dywedodd un unigolyn a dioddefodd gam-drin domestig: "Yn llythrennol, fyddwn i ddim yma hebddyn nhw - fe wnaethon nhw fy helpu i drwy uffern."
Ychwanegodd person hŷn a oedd yn wynebu digartrefedd: "Dydw i ddim yn gwybod ble byddwn i heb Gorwel - mewn lloches bws yn rhywle. Mae wedi newid fy mywyd i'n llwyr. Dwi'n berson gwahanol."
Dywedodd Mr Elis: "Bu ein staff yn gweithio trwy gydol y pandemig i wneud yn siŵr bod gan y bobl yn ein cymunedau a oedd yn y sefyllfaoedd mwyaf ansicr ac weithiau peryglus, rhywun i droi atyn nhw.
"Mae'r gyllideb ddrafft hon yn rhoi'r bobl fregus yn ein cymunedau mewn perygl ac mae'n dweud wrth fy nghydweithwyr nad ydy eu hymroddiad na'u gwaith yn bwysig."
'Dim cymorth i'r tlotaf'
Ychwanegodd Shan Lloyd Williams: "Trwy gydol y pandemig gwelsom sefydliadau cymunedol fel ein un ni yn dod â llywodraeth leol a datganoledig ynghyd ac roedd yr hyn a gyflawnwyd trwy'r cydweithio hwnnw yn anhygoel.
"Dydy effaith y pandemig ddim drosodd i bobl - mewn gwirionedd mae ffactorau byd-eang eraill yn gwneud yr anawsterau maen nhw yn eu hwynebu yn waeth.
"Rydyn ni eisiau parhau i chwarae ein rhan i helpu teuluoedd a chymunedau dros y misoedd nesaf ac mae angen i Lywodraeth Cymru ein cefnogi i wneud hynny.
"Rydw i'n meddwl bod angen i'n holl gynrychiolwyr gwleidyddol ofyn i'w hunain, ydy hi'n dderbyniol i'r bobl dlotaf yn ein cymunedau gael eu gadael heb y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i oroesi'r argyfwng yma?"
'Mwy o arian er gwaethaf pwysau enbyd'
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "cydnabod y rôl hanfodol y mae gweithwyr cymorth tai a digartrefedd yn ei chwarae wrth gefnogi pobl ledled Cymru i fyw'n annibynnol ac i atal digartrefedd".
Ychwanegodd y llefarydd: "I gydnabod hyn, cafwyd cynnydd i gyllideb y Grant Cymorth Tai o £40m yn 2021-22 i £166.763m - cynnydd o fwy na 30%.
"Er gwaethaf y pwysau enbyd rydym yn eu hwynebu, rydym wedi cynnal y codiad hwn eleni ac yng Nghyllideb Ddrafft 2023-24.
"Bydd y gyllideb ar atal digartrefedd hefyd yn cynyddu £15m yn 2023-24 - £10m yn fwy na'r hyn oedd wedi'i gynllunio'n flaenorol.
"Mae hyn yn mynd â'n buddsoddiad mewn gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai i dros £207m y flwyddyn nesaf.
"Rydym hefyd yn gwarchod rhaglenni sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl ac yn cefnogi pobl trwy'r argyfwng costau byw, gan gynnwys £18.8m ychwanegol i'r Gronfa Cymorth Dewisol i barhau i ddarparu cymorth ariannol brys i bobl sy'n wynebu pryderon ariannol.
"Rydym wedi gweithio'n galed i fanteisio i'r eithaf ar ein holl adnoddau sydd ar gael gan y bydd ein cyllideb gyffredinol werth hyd at £1bn yn llai y flwyddyn nesaf na chyhoeddwyd yn wreiddiol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021