Rhybudd bod 'Cymru'n wynebu argyfwng digartrefedd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Person digartref ar y strydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i 7,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd

Mae Cymru yn wynebu "argyfwng digartrefedd" yn ôl rhybudd gan elusen Shelter Cymru.

Mae 6,935 o bobl yn byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd gan gynnwys 1,742 o blant, yn ôl ystadegau'r llywodraeth.

Mae hynny'n 60% yn fwy o ran aelwydydd ble mae pobl yn aros am gartref parhaol o'i gymharu â blwyddyn yn ôl.

Yn ôl elusen Shelter Cymru, dydy creu rhagor o lety dros dro ddim yn ateb y broblem yn llwyr.

Dywedodd Heddyr Gregory o elusen Shelter Cymru: "Mae'r sefyllfa o ran llety dros dro ar hyn o bryd yng Nghymru yn eithaf difrifol.

"Mae amodau llety dros dro, ma'n rhaid i ni gofio mai dros dro ma'r rhain i fod," meddai, "ond, yn anffodus mae pobl yn gaeth ynddyn nhw am fisoedd ac weithiau am flynyddoedd.

"Ar ddiwedd y dydd mae angen nawr lleihau y niferoedd o lety dros dro a chanolbwyntio ar adeiladu cartrefi parhaol i bobol."

Ychwanegodd Ms Gregory bod yr elusen yn "gweld patrymau gwahanol o ran digartrefedd" yn ystod y pandemig.

Dywedodd: "Y sefyllfa o ran gweithio adre ac yn y blaen, ni wedi gweld cynnydd mewn pethau fel trais domestig, tor-perthynas, pobl ifanc yn cael eu taflu allan, oherwydd y straen mewn ffordd o effeithiau'r pandemig yn tynnu at ddwy flynedd nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Llety dros dro yn Y Barri

Yn ddiweddar, agorodd Cyngor Bro Morgannwg 11 o unedau yn Y Barri ar gyfer pobl sy'n aros am lety.

Chwe mis gymerodd y broses o ddechrau cynllunio hyd at orffen adeiladu.

Y nod yw cynnig llety annibynnol i'r digartref yn hytrach na bod rhaid iddyn nhw rannu gofod mewn hostel neu rywle tebyg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Karen yn byw yn un o'r unedau dros dro yn Y Barri

Karen, 59, yw un o'r trigolion sy'n byw yn yr unedau dros dro yn Y Barri.

Collodd ei chartref 11 mis yn ôl yn dilyn cyfres o drawiadau ar y galon. Bu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w swydd fel gyrrwr tacsi.

Dywedodd ei bod yn falch o fod yn un o'r unedau.

"Rwy mor ddiolchgar i fod yma yn hytrach na lle'r oeddwn i cynt, lle byddwn i'n mynd ar y bws ac yn gweld pobol yn edrych ac yn dweud 'Dyna'r jyncis, y di-gartref'.

"Dechreues i deimlo cywilydd am le o'n i'n byw ond nawr ry'n ni yma, dyw pobol ddim yn edrych arnon ni fel y di-gartref... Byddwn i'n mynd mor bell a dweud y dylai hwn fod yn lety parhaol yn hytrach na llety dros dro."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried adeiladu rhagor o safleoedd llety dros dro

Mae'r adborth o'r safle a'r galw am fwy o dai dros dro yn golygu bod Cyngor Bro Morgannwg yn edrych ar adeiladu mwy o safleoedd tebyg.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y cyngor, Rob Thomas: "Cafodd y safle hwn ei ddatblygu mewn ardal lle'r oedd tai yn barod yn bwrpasol. Mae yn Y Barri am reswm, dyw e ddim mewn lle diarffordd.

"Ry'n ni'n edrych ar y tir sydd yn ein meddiant i weld a allwn ni ail-greu hyn yn rhywle arall."

'Gostyngiad radical yn y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd'

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi mynd i'r afael â digartrefedd yn ystod y pandemig drwy sicrhau bod pobol mewn llety dros dro.

Dywedodd llefarydd: "Ry'n ni eisiau i bawb gael mynediad i gartref da, fforddiadwy a sefydlog.

"Mae ein cynlluniau i gael pobl oddi ar y strydoedd ac i fewn i lety dros dro wedi gostwng yn radical y niferoedd o bobl sydd yn cysgu ar y stryd mewn ffordd nad ydym wedi llwyddo i wneud o'r blaen."

Ychwanegodd y llefarydd bod mwy o arian wedi ei roi tuag at ddigartrefedd, a fydd yn mynd at adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf.

"Ein ffocws nawr yw cefnogi awdurdodau lleol a phartneriaid i gefnogi'r rheiny mewn llety dros dro i fynd i gartrefi sefydlog hirdymor."

Pynciau cysylltiedig