Ateb y Galw: Tegwen Morris
- Cyhoeddwyd
Tegwen Morris, prif weithredwr Merched y Wawr sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma ar ôl cael ei henwebu gan Mared Rand Jones.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cof cynnar iawn ydyw mynd allan a chwdyn cêc defaid gwag gydag ychydig o wellt wedi stwffio ynddo a chortyn bêl wedi clymu mewn dau gornel a'i lusgo lan i dop Cae Tolca trwy'r eira trwchus. Wedyn eistedd ar ei ben a hedfan lawr trwy'r cae - methu â stopio a mynd yn glec i fewn i'r ffens ar y gwaelod. Doedd dim byd fel 'slejo' i flino coesau bach ifanc!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mae yna ddau hoff le sef ger Carreg Bwci ar ffordd Sarn Helen rhwng Ffald y Brenin a Llanfair Clydogau ar dop y mynydd, lle mae yna dawelwch hyfryd a golygfa odidog.
Ac yn ddiweddar fy ail hoff le ydyw Ynys Las - lle gellir cerdded am filltiroedd ac mae'r twyni tywod a'r môr yn un - gydag Aberdyfi yn edrych mor agos er mor bell. Mae'n le braf i fynd am dro gyda chamera a gellir tynnu lluniau olion Cantre'r Gwaelod wrth ymlwybro yn ôl tuag at Borth.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson fy mhriodas - llond lle o ffrindiau a theulu, llawer o hwyl ac arddangosfa tân gwyllt a band jazz Aber - lot fawr o sbort a sbri.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cymdeithasol, cymunedol a brwdfrydig.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Mae cymaint ohonynt - gweithgareddau Ffermwyr Ifanc a Merched y Wawr lle mae troeon trwstan neu fi ar goll ar ffyrdd cefn gwlad Cymru! Un tro fe gwympodd cacen ffrwythau oedd wedi ei haddurno yn arbennig allan o'r bocs yn y Ganolfan gan rowlio ar hyd llawr y swyddfa gyda'r ffrwythau yn disgyn fesul un i'r llawr - roeddwn i bron yn fy nagrau. Cyrraedd y Ffair Aeaf a chael cymorth i ail osod y ffrwythau a rhyddhad y diwrnod canlynol o weld y gacen yn cael y wobr gyntaf (mi wnes gyfaddef yr hunllef i'r cystadleuydd!) a nawr dwi yn medru gwenu am y profiad!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Rhaglen Nigel Owens, Wyt ti'n Gêm. Dwi erioed wedi teimlo cymaint o embaras yn fy mywyd, dwi dal yn meddwl fod Nigel a Huw Ffash wedi bod yn ofnadwy yn gwneud y ffasiwn beth!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Wythnos diwethaf yn dilyn angladd cymdoges hoffus iawn oedd yn gymeriad a hanner.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Nifer fawr gan gynnwys bwyta siocled pan mae eisiau ychydig o egni neu pan dwi dan straen neu bwysau gwaith!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?
Fy hoff lyfr ydyw Cerddi Ysgol Llanycrwys. Roedd Martha Jac a Sianco yn ffilm wych - dwi wrth fy modd gyda gwaith Caryl Lewis a dwi yn hoff iawn o ganeuon Abba a Elton John yn Saesneg ac yn hoffi gwrando ar amrywiaeth eang yn y Gymraeg.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Fy nghriw ffrindiau cyfredol - erbyn cyrraedd hanner cant, mae ffrindiau da yn golygu llawer iawn - ac yr ydym yn ffodus iawn i fyw mewn cymuned ofalgar.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
Pan yn priodi fe gerddais i mewn i'r capel i gerddoriaeth The Birdie Song ac roedd y Gweinidog Goronwy Evans a phawb arall yn y gynulleidfa yn chwerthin.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael bwyd blasus a diod da, gyda theulu, ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion ac yn ddelfrydol parti bach yn yr heulwen braf.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o'r pedwar ohonom yn cerdded rhan o lwybr yr arfordir - y gobaith ydyw cerdded llawer mwy yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Richard y gŵr, Ioan ac Aled y meibion a minnau.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Florence Nightingale - gwraig o flaen ei hamser a wnaeth sicrhau gofal nyrsio a hylendid a safonau byw neu Aneurin Bevan am ei weledigaeth i gychwyn y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi bod yn eithriadol o bwysig i bawb yn ein gwlad.
Hefyd o ddiddordeb: