Mesurau beiciau dŵr yn 'gam i'r cyfeiriad cywir'
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwyr bywyd gwyllt wedi croesawu mesurau i atal y defnydd di-hid o feiciau dŵr.
O 31 Mawrth bydd deddfau newydd yn mynd i'r afael â'r "camddefnydd peryglus" o gerbydau oddi ar arfordir y DU.
Dywedodd y naturiaethwr Iolo Williams ei fod wedi'u gweld yn peryglu bywydau adar y môr ac fod angen eu "dwyn i dasg".
Ond mae rhai wedi galw am fesurau llymach, gan gynnwys hyfforddiant gorfodol a thrwyddedu beiciau dŵr.
'Mae angen rheoliadau llymach'
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn rhoi mwy o bwerau i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau i erlyn defnyddwyr di-hid, a all wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar a dirwy ddiderfyn.
"Rwyf wedi gwylio jet skis yn mynd drwy ganol nythfeydd adar y môr... mae'n gwbl annerbyniol," medd Iolo Williams.
"Mae ffrindiau i mi, sy'n naturiaethwyr da, wedi eu gweld yn mynd ar ôl dolffiniaid, all hyn ddim parhau ac mae angen rheoliadau llymach," ychwanegodd.
Tra byddai'n hoffi gweld trwyddedau ar gyfer gweithredu beiciau dŵr, dywedodd fod y deddfau newydd yn "gam i'r cyfeiriad cywir", ond ddim ond os ydynt yn cael eu gorfodi.
"Yr hyn sy'n digwydd yn aml yw eu bod yn cyflwyno'r deddfau newydd hyn a'r cyfan sy'n digwydd yw eu bod yn cael dirwy ysgafn neu'n cael eu rhyddhau. Yr hyn sy'n allweddol yma yw ei fod yn cael ei fonitro a'i blismona'n iawn," meddai.
"Pam y caniateir i chi gael peiriant pwerus heb unrhyw hyfforddiant, dim trwydded, dim byd o gwbl a gallwch fynd ar y môr a gwneud beth bynnag y dymunwch. Mae 'na farwolaethau wedi bod, ac fe fydd yna eto."
'Effaith negyddol'
Yn 2020 bu i AS Arfon, Hywel Williams, geisio cyflwyno deddfwriaeth Seneddol i'w gwneud hi'n anghyfreithlon gweithredu cerbydau dŵr heb drwydded.
Yn cytuno gyda galwadau Mr Williams dywedodd perchennog a chyfarwyddwr Sw Môr Môn, Frankie Hobro, ei bod yn falch o weld y ddeddfwriaeth newydd.
Ond mae hefyd galw am fesurau llymach - gan gynnwys trwydded a chynllun hyfforddi, tebyg i feiciau modur, a chreu ardaloedd di-fynediad i feiciau dŵr.
Meddai: "Rwyf wedi eistedd ar y lan yn gwylio llamhidyddion a dolffiniaid, yn dawel, yn hamddenol, yn hapus, yna'n sydyn yn dychryn ac yn diflannu.
"Maen nhw wedi eu dychryn gan y sŵn, maen nhw'n gallu clywed y dirgryniadau o dan y dŵr ymhell cyn i chi weld y Jet Skis yn dod, ond maen nhw'n gwybod.
"Maen nhw'n bendant yn cael effaith negyddol.
"Gall unrhyw un fynd ar feic dŵr pwerus, mae hynny fel gadael i unrhyw un fynd ar feic modur."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2020