'Beiciau dŵr yn peryglu bywyd gwyllt ym Môn'

  • Cyhoeddwyd
adarFfynhonnell y llun, Ros Green

Mae 'na rybudd y gallai llawer mwy o adar môr gael eu lladd o gwmpas arfordir Ynys Môn dros yr wythnosau nesaf os nad ydy pobl yn fwy gofalus wrth ddefnyddio cychod a beiciau dŵr.

Daw hynny wedi i fideo gael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos cychod dŵr yn gyrru drwy haid o adar ger Ynys Seiriol.

Mae'r ecolegydd a ffilmiodd y digwyddiad yn dweud bod ei chriw wedi dod o hyd i un o wylogod (guillemots) yr ynys yn farw yn y dŵr ychydig funudau'n ddiweddarach.

Fe rybuddiodd RSPB Cymru bod "defnydd anghyfrifol o jet skis" yn gallu arwain at "ganlyniadau difrifol i fywyd gwyllt morol" gan gynnwys adar, dolffiniaid a morloi.

Mae Ynys Seiriol yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig, ac yn adnabyddus am y palod sy'n byw yno yn ogystal â sawl rhywogaeth arall o adar môr.

Ffynhonnell y llun, Ros Green
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ros Green bostio fideo wedi iddi weld aderyn marw

'Adar yr ynys dan fygythiad'

Roedd Ros Green yn rhan o grŵp o ecolegwyr oedd ar yr ynys ddydd Sul pan welson nhw'r digwyddiad gyda'r beiciau dwr.

"Roedden nhw'n dod ar gyflymder a wnaethon nhw ddim wir arafu lawr. Mae 'na filoedd o adar mor oddi ar yr arfordir yn fan 'na ac roedden nhw jyst yn mynd syth drwyddon nhw," meddai.

"Ond doedden i ddim yn meddwl byddai jet ski yn lladd. Gweld yr aderyn marw wedyn oedd y rheswm nes i bostio [y fideo] ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Beth sy'n poeni fi ydi os bod jet skis yn gwneud hyn yn rheolaidd ac yn lladd yr oedolion, mae hynny'n gallu cael effaith fawr ar y boblogaeth."

Mae'n dweud bod adar ar yr ynys dan fygythiad o sawl ffactor yn barod, gan gynnwys problemau gyda llygod mawr.

Disgrifiad o’r llun,

Mase Ynys Seiriol yn adnabyddus am y palod sy'n byw yno

Yn ogystal â hynny, bydd cywion bach sydd ar hyn o bryd yn nythu yn dechrau mynd i'r dŵr dros yr wythnosau nesaf - ac felly gallai digwyddiad tebyg arall gyda cherbydau dŵr yn gyrru drwyddyn nhw fod yn farwol tu hwnt i'r rhywogaethau.

"Maen nhw prin yn fis oed, dydyn nhw ddim yn gwybod sut i ymateb i beryglon eto - felly mae'n siŵr bydden nhw jyst yn gwylio'r jet ski yn dod, ac yn cael eu taro.

"Petai'r un peth yn digwydd yng nghanol neu ddiwedd Mehefin, byddai llawer mwy o adar marw i gael.

"Bydden i'n gobeithio bod perchnogion jet skis ddim eisiau achosi'r math yna o niwed, felly dim ond iddyn nhw fod yn ymwybodol fod y risg ond yn cynyddu."

Yn dilyn y digwyddiad fe wnaeth Cyngor Môn drydar neges yn atgoffa pobl i ddilyn y cod morol, sy'n dweud y dylen nhw gadw draw o fywyd gwyllt.

'Dim gwaharddiad ond hyfforddiant'

Ond mae'r cynghorydd Gary Pritchard, sy'n cynrychioli ward Seiriol, yn "siomedig a phryderus" o weld bod rhai ddim i'w weld wedi clywed y neges honno eto.

"Allai ddim dychmygu bod unrhyw un yn mynd allan mewn unrhyw fad ar y môr i greu difrod, ond efallai'r diffyg ymwybyddiaeth a diffyg parch i'r hyn sydd o gwmpas arfordir Ynys Môn," meddai.

"Galw am gydbwysedd fyswn i rhwng mynd allan a mwynhau, a pharchu'r bywyd gwyllt sy'n rhannu'r ynysoedd yma efo ni."

Serch hynny dydy o ddim yn cytuno â rhai o'r ymatebion i'r fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, yn galw am gosbau llymach yn erbyn beicwyr dwr.

"'Swn i byth yn mynd mor bell â deud bod angen gwahardd y jet skis, ond mae o wastad yn syndod i mi bod rhywun yn gallu cerdded i mewn i siop, prynu bad môr, a mynd allan heb unrhyw fath o hyfforddiant," meddai Mr Pritchard.

"Efallai yn bersonol 'swn i'n cefnogi rhyw fath o gofrestr, neu'n sicr rhyw fath o hyfforddiant, cyn bod rhywun yn mynd allan a'u defnyddio nhw.

"Ond ar y llaw arall mae'n rhaid dweud bod y ganran sylweddol o bobl sy'n eu defnyddio nhw yn gwneud hynny mewn ffordd barchus a phriodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu'r Gogledd yn ceisio sicrhau bod llai o aflonyddu ar fywyd morol yn ôl PC Dewi Evans o'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad

Mae Heddlu'r Gogledd wedi bod yn rhedeg ymgyrch ers tua mis. gyda phartneriaid eraill, er mwyn ceisio dysgu pobl am sut i ddefnyddio a mwynhau'r môr mewn ffordd gyfrifol.

"Mae'n anodd iawn erlyn pobl am droseddau o aflonyddu ar fywyd gwyllt ar y môr oherwydd mae'n digwydd yn bell o dystion," meddai PC Dewi Evans o'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad.

"Felly beth ydi Operation Seabird Cymru ydi cynllun lle 'dan ni'n addysgu pobl yn hytrach na'u herlyn nhw.

"'Dan ni'n siŵr bod y rhan fwyaf o bobl efo'r un bwriad â ni, sef cael llai o aflonyddu ar fywyd morol.

"Wedyn 'dan ni'n gobeithio drwy addysgu pobl, tynnu sylw nhw at y broblem, gobeithio wnaiff hynny ddod a digwyddiadau fel hyn i lawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwylogod hefyd yn nythu ar yr ysnys

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran RSPB Cymru: "Gall defnydd anghyfrifol o jet skis, neu unrhyw gwch modur personol arall, arwain at ganlyniadau difrifol i fywyd gwyllt morol.

"Mae gan y cerbydau hyn y potensial i achosi problemau mewn eiliadau gan godi braw ar adar y môr, gwahanu dolffiniaid ifanc oddi wrth eu mamau neu achosi i forloi llwyd golli eu lloi.

"Mae'n hanfodol fod pawb sydd yn bwriadu defnyddio unrhyw fodur ar y môr yn gwneud hynny mewn modd cyfrifol ac sy'n ystyriol i fywyd gwyllt bregus ein moroedd a'n harfordiroedd.

"Rydym yn annog i bawb ddarllen y cod morol lleol ar gyfer yr ardal o arfordir rydych chi'n ymweld â hi, ac i'r cyhoedd gysylltu ar heddlu ar 101 os yn dod ar draws ymddygiad peryglus ag anghyfrifol."