Cynllun peilot yn rhoi hawl gohebu mewn llysoedd teulu
- Cyhoeddwyd
Bydd Caerdydd yn un o dri llys teulu i ganiatáu newyddiadurwyr i adrodd ar achosion fel rhan o gynllun peilot.
Tan nawr roedd gohebwyr ond yn gallu adrodd ar yr hyn yr oedd barnwr yn ei ganiatáu.
Bydd y cynllun peilot yn weithredol am 12 mis o 30 Ionawr - yng Nghaerdydd, Leeds a Chaerliwelydd (Carlisle).
Nod y cynllun yw gwneud llysoedd teulu yn fwy tryloyw a hynny ar ôl degawdau o gyhuddiadau bod y system yn rhy gyfrinachol.
'Angen fod yn fwy agored'
Mae llysoedd teulu yn gyfrifol am achosion teuluol sensitif - gan gynnwys achosion yn ymwneud ag ysgariad a phlant.
Y llysoedd yma, er enghraifft, sy'n penderfynu os yw plentyn yn cael ei roi mewn gofal neu ble fydd plentyn yn byw os na all y rhieni gytuno.
Mae mwy na 200,000 o achosion yn y llysoedd teulu pob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig ac mae'r nifer o blant mewn gofal ar eu huchaf erioed.
Gan fod llysoedd teulu yn ymdrin ag achosion sensitif maen nhw fel arfer yn cael eu cynnal yn breifat a does dim hawl gohebu arnyn nhw.
Ond mae'r llysoedd yn aml wedi cael eu cyhuddo o fod yn gyfrinachol ac mae galw wedi bod i'w gwneud yn fwy tryloyw ac atebol.
Dywedodd Sir Andrew MacFarlane, llywydd y llysoedd teulu bod "angen bod yn fwy agored er mwyn adeiladu hyder y cyhoedd".
Proses 'trawmatig iawn' i deuluoedd
Un sy'n teimlo ei bod wedi'i thrin yn annheg gan lys teulu yw Liz Anstey.
Yn ystod 2021 bu farw babi ei merch yn sydyn a doedd yna ddim achos amlwg.
Cafodd mab ac ŵyr Ms Anstey eu cymryd i ofal tra bod y cwest yn mynd yn ei flaen.
Dangosodd y cwest bod y babi wedi marw o haint ac nad oedd unrhyw arwyddion o esgeulustod na chamdriniaeth.
Er hyn bu'n rhaid i Ms Anstey dreulio misoedd yn y llys teulu er mwyn cael y bechgyn yn ôl.
Dywedodd bod y broses wedi bod yn "drawmatig iawn" a bod yr hyn ddigwyddodd yn y llys yn "hynod anodd".
Mae'n credu byddai cael newyddiadurwyr yn y llys wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
Amddiffyn hawl teuluoedd i fod yn anhysbys
Ar hyn o bryd gall ohebwyr wylio yn y llys ond does dim hawl adrodd ar unrhyw beth heb ganiatâd y barnwr.
Fel rhan o'r newidiadau bydd gan ohebwyr yng Nghaerdydd yr hawl i siarad gyda theuluoedd a chyfreithwyr, er bydd yn rhaid parhau i wneud yn siŵr bod y teuluoedd yn anhysbys.
Bydd gohebwyr hefyd yn cael mynediad i ddogfennau cyfreithiol penodol a bydd hawl enwi awdurdodau lleol, cyfarwyddwyr gwasanaethau plant, cyfreithwyr ac arbenigwyr sy'n ymwneud ag achos llys.
Er y newidiadau bydd rhywfaint o wybodaeth yn parhau i fod yn gyfyngedig.
Ni fydd hawl gan ohebwyr i enwi meddygon proffesiynol sy'n trin unrhyw blant neu oedolion yn ymwneud â'r achos.
Fydd dim mynediad chwaith gan ohebwyr i adroddiadau arbenigol neu feddygol.
'Gwactod o wybodaeth' wedi bod
Fel rheol mae achosion llysoedd teulu yn cael eu rhannu mewn i gyfraith breifat, sy'n cynnwys anghydfod rhwng rhieni sy'n ysgaru, a chyfraith gyhoeddus, sef ceisiadau gan awdurdodau lleol i gymryd plentyn mewn i ofal.
Bydd y cynllun peilot yn dechrau gydag achosion cyfraith gyhoeddus ac yn cael ei ehangu i gyfraith breifat ar ôl cwpl o fisoedd.
Dywedodd Sir Andrew McFarlane bod diffyg hyder yn y llysoedd oherwydd "gwactod o wybodaeth" a bod y cynllun yn gam "arwyddocaol iawn".
Er y cynllun bydd hawl gan farnwr atal y wasg rhag gohebu.
Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd Fay Jones, cyfreithiwr o gwmni cyfraith teulu Wendy Hopkins, bydd hi'n "od i gleientiaid bod mewn ystafell yn trafod eu plant nhw yn gwybod bod 'na siawns bydd gohebwyr 'na i adrodd ar yr hyn ma' nhw'n ei drafod yn y llys".
Ond mae'n credu bod y newid yn un positif ar y cyfan.
"Mae angen bod yn dryloyw am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y llysoedd," meddai.
"Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod y barnwyr 'ma, bod rhyw fath o elfen o 'accountability' i gael yn y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud."
Os yw'r peilot yn llwyddiannus y bwriad yw i'w ymestyn dros i rannau eraill o Gymru a Lloegr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2022
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020