Cyn-gapten Cymru'n setlo achos cyfreithiol HIV â chyn-bartner
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten rygbi Cymru, Gareth Thomas wedi setlo ffrae gyfreithiol gyda chyn-bartner oedd wedi ei gyhuddo o roi HIV iddo "yn dwyllodrus".
Roedd Ian Baum wedi honni fod Mr Thomas wedi cuddio ei statws HIV oddi wrtho, ac wedi "methu â chymryd gofal rhesymol" i sicrhau nad oedd yn ei drosglwyddo.
Mae cyn-chwaraewr Cymru a'r Llewod nawr wedi setlo'r achos am £75,000 yn ogystal â chostau, ond heb gyfaddef cyfrifoldeb nac euogrwydd.
Fe gadarnhaodd cyfreithwyr Mr Baum eu bod wedi cytuno i'r setliad.
'Dim cyfaddefiad'
Mewn papurau llys y llynedd, roedd Mr Baum yn honni ei fod wedi bod mewn perthynas gyda Mr Thomas rhwng 2013 a 2016, ac nad oedd ganddo HIV ar ddechrau'r berthynas honno.
Mae'n honni iddo wedyn ddarganfod fod gan Mr Thomas HIV pan welodd dabledi gyda label GSK1 arnynt.
"Ar ôl gwglo'r dabled GSK1, fe ddarganfyddodd fod y diffynnydd yn cymryd meddyginiaeth gwrthfirysol HIV," meddai'r dogfennau.
Fe wnaeth Mr Baum wedyn drefnu apwyntiad "yn syth" i gael prawf HIV, ac fe ddaeth hwnnw nôl yn bositif.
Dywedodd cyfreithwyr Mr Baum, McCue Jury & Partners, eu bod wedi dod i setliad oedd ddim yn cynnwys cyfaddefiad o gyfrifoldeb gan Mr Thomas.
Fe enillodd Mr Thomas 100 o gapiau dros Gymru, a thri dros y Llewod, mewn gyrfa ddisglair a welodd y canolwr yn gapten dros ei wlad yn ystod Camp Lawn 2005.
Cyhoeddodd ei ymddeoliad yn 2011, ddwy flynedd wedi iddo ddod allan fel y chwaraewr rygbi proffesiynol hoyw cyntaf.
Yn 2019 fe ddatgelodd fod ganddo HIV, gan ddweud ei fod eisiau "torri stigma" am y cyflwr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2019
- Cyhoeddwyd8 Awst 2022
- Cyhoeddwyd6 Medi 2022