'Her' cynnal eglwys yn un o lefydd lleia' crefyddol Prydain

  • Cyhoeddwyd
cerflun y Forwyn Fair, Penrhys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cerflun presennol o'r Forwyn Fair ei chodi ym Mhenrhys yn 1953

Yn yr Oesoedd Canol roedd mynachlog a ffynnon Penrhys, sy'n edrych i lawr dros Gwm Rhondda, yn un o'r safleoedd pererindod amlycaf yng Nghymru.

Ond gyda dros 80% o bobl yno'n dweud yn y Cyfrifiad diwethaf nad oes ganddyn nhw grefydd, mae hi bellach yn un o'r llefydd lleiaf crefyddol nid yn unig yng Nghymru, ond Prydain gyfan.

"Yn anffodus dyna'r realiti heddiw, mae llai a llai o bobl yn mynd i'r eglwys," meddai Sharon Rees, sydd wedi gweithio yn yr eglwys leol ers 30 mlynedd.

"Dyna pam ma' fe'n hanfodol bwysig... bod rhaid i ni estyn allan i'r gymuned lle bynnag y'n ni."

Colli crefydd yn y Cymoedd

Yng Nghyfrifiad 2021 fe ddywedodd 80.7% o bobl mewn un ardal ym Mhenrhys fod ganddyn nhw 'ddim crefydd'.

Yr unig ardaloedd eraill drwy Brydain oedd yn uwch oedd Dwyrain Tonyrefail, chwe milltir i ffwrdd, a dau le bychan yn Lloegr.

Ond mae'n rhan o batrwm sy'n cael ei adlewyrchu ar draws Cymoedd y De - Caerffili, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf yw'r tair sir leiaf crefyddol yng Nghymru a Lloegr gyfan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Penrhys yn un o'r stadau mwyaf difreintiedig yng Nghymru

Ar y llaw arall mae'r llefydd mwyaf crefyddol yng Nghymru yn y rhannau o Gasnewydd a Chaerdydd ble mae poblogaeth uchel o Fwslemiaid, ble mae tua 90% o bobl yn dweud eu bod yn dilyn rhyw fath o ffydd.

Mae'r ardaloedd mwyaf Cristnogol yn y wlad yn y gogledd, gyda Bae Trearddur a Benllech ar Ynys Môn ymhlith y llefydd ble mae dros 75% yn dweud eu bod yn Gristnogion.

Daeth hynny wrth i Gyfrifiad 2021 ddangos am y tro cyntaf bod llai na hanner poblogaeth Cymru'n Gristnogion, a bod mwy bellach yn dweud nad ydyn nhw'n grefyddol.

Mae Ms Rees, sydd o Alltwen yng Nghwm Tawe yn wreiddiol, yn dweud nad yw hi'n synnu i weld y ffigyrau ac mai dyna "realiti" y sefyllfa heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sharon Rees wedi gweithio yng nghymuned Penrhys ers dros 30 mlynedd

"Ond fi'n credu bod beth ni'n 'neud yma ym Mhenrhys yn bwysig dros ben," meddai.

"Ni'n agor ein drysau a ni'n croesawu pobl, beth bynnag eu cred, 'sdim ots.

"Beth sy'n bwysig yw bod ni'n gwasanaethu'r gymuned... a dwi'n meddwl bod pawb ym Mhenrhys yn teimlo mai'r eglwys yw eu heglwys nhw, beth bynnag maen nhw'n ei gredu."

'Mae'n her, yn sicr'

Cafodd Sharon Rees ei hurddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2012 am ei gwaith yng nghymuned Penrhys, a chyn hynny ym myd addysg.

Gyda'r stâd yn hanesyddol yn un o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, mae'n dweud bod gofyn mwy ar yr eglwys nac mewn ardaloedd eraill.

Mae ganddyn nhw gaffi sydd ar agor dridiau'r wythnos, clwb gwaith cartref i blant, gweithgareddau i bobl ifanc gyda'r nos, banc bwyd a dillad, a bore coffi fel man cynnes i bobl ddod iddo.

Disgrifiad o’r llun,

Yr amryddawn Sharon Rees, sydd wrthi'n helpu yng nghegin y caffi deirgwaith yr wythnos

Er gwaetha'r "her" o fod yn eglwys mewn ardal mor anghrefyddol, felly, mae'n teimlo eu bod nhw dal yn darparu gwasanaeth pwysig i'r gymuned.

"Ni'n brysur dros ben, ond mae'r tîm o wirfoddolwyr sydd gyda ni yn ardderchog, a bydden ni ddim ar agor hebddyn nhw," meddai.

"Mewn rhai mannau yng Nghymru mae'r eglwys a'r capel dim ond ar agor ddydd Sul.

"Ond mae'n rhaid i ni addasu heddi', ac mae'n rhaid i'r eglwys sylweddoli bod cymaint mwy gallwn ni 'neud i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl, a dangos bod Duw yn eu caru nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae llwybr Pererindod Penrhys yn mynd yr holl ffordd o Gadeirlan Llandaf yng Nghaerdydd i'r cerflun ar ben y bryn

"Dyna pam ni ar agor chwe diwrnod yr wythnos."

Un o'r gwirfoddolwyr hynny yw Neil Thomas, sy'n ein tywys ni'n frwdfrydig o gwmpas yr adeilad gan sôn am bopeth mae'r eglwys yn ei wneud i helpu pobl leol - yr holl ffordd lawr i'r offer torri gwair sydd ganddyn nhw yn y stordy.

"Mae'r rhan fwya' o bobl wir yn gwerthfawrogi bod yr eglwys yma i allu rhoi'r gweithgareddau yma 'mlaen," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Neil Thomas yw un o wirfoddolwyr selog Eglwys Llanfair ym Mhenrhys

"Mae'r banc bwyd yn boblogaidd, a dweud y gwir dwi'n meddwl mai Ionawr eleni oedd y prysuraf mae wedi bod. A jyst cael lle saff ar gyfer y plant i ddod i wneud eu gwaith cartref."

Dywedodd Mr Thomas ei fod ef ei hun wedi troi at yr eglwys ddwy flynedd yn ôl yn dilyn cyfnod anodd yn ei fywyd, ond mai nid y nifer drwy'r drysau ar y Sul yw'r unig beth sy'n cyfrif.

"Fi'n credu y peth pwysicaf yw bod yr eglwys a'r gymuned yn gweithio gyda'i gilydd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eglwys Llanfair wedi ei lleoli reit yng nghanol stadau tai Penrhys

"Y mwya' o bobl sydd gyda chi sy'n dod mewn i'r eglwys y gymryd rhan mewn gwahanol bethau, yr uchaf yw'r siawns bod nhw'n dod yma i addoli, achos maen nhw wedi gofyn y cwestiynau, dod yma, cael y sgyrsiau yna."

Mae Geraint a Merril Davies yn byw yn Nhreherbert, ymhellach i fyny'r cwm, ond yn dod i Benrhys ar gyfer sesiynau astudiaethau Beiblaidd, ac yn canmol y gwaith maen nhw'n ei wneud yn y gymuned.

"Mae pobl yn llai crefyddol, ond ni wedi gweld wrth ddod i Benrhys, chi'n gallu newid y fath o Gristnogaeth sy'n cael ei ddarparu," meddai Geraint.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Merril a Geraint Davies yn mynychu capel gwahanol yng Nghwm Rhondda ond yn dod i Benrhys ar gyfer digwyddiadau hefyd

"Ni'n dysgu'r pethau positif am Gristnogaeth."

Ychwanegodd Merril fod "llawer o bobl ddim wedi cael profiad da mewn capeli neu eglwysi, ac wedi troi yn erbyn e".

"Felly falle bod llai o bobl yn mynychu capeli ac eglwysi, ond maen nhw'n dal i fod yn ysbrydol yn eu ffordd," meddai.

"Os nad yw capeli'n cael dylanwad ar y bobl tu allan, beth yw'r pwynt. Mae ddim jyst yn glwb i cwpl o bobl, mae'n rhaid i chi fod yn agored i'r gymuned o gwmpas chi."

Pynciau cysylltiedig