'Rhaniadau' o fewn Plaid Cymru yn tristáu AS Arfon

  • Cyhoeddwyd
Hywel Williams AS
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hywel Williams AS ei fod yn gresynu o weld "ffraeo" ac "anghydweld" o fewn Plaid Cymru

Mae "rhaniadau" o fewn Plaid Cymru sy'n "tristáu" un o Aelodau Seneddol y Blaid.

Yn dilyn honiadau o ddiwylliant gwenwynig o fewn y Blaid, dywedodd Hywel Williams AS Arfon ei fod yn "gresynu" o weld "ffraeo" diweddar.

Ychwanegodd fod yr anghytuno yn tynnu oddi ar brif bwrpas y Blaid - sef annibynniaeth i Gymru.

Mae Plaid Cymru yn agosáu at gyflwyno "strategaeth wleidyddol newydd" ar hyn o bryd, a dywedodd llefarydd y byddai hynny'n caniatáu iddyn nhw ganolbwyntio "ar y dyfodol".

Wrth siarad ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Williams fod "rhaniadau sydd wedi ymddangos - ac maen nhw'n rhaniadau go iawn, mae pobl ag argyhoeddiad ar y ddwy ochr.

"Dw i'n meddwl fy hun ei fod ar wahân i brif bwrpas y blaid... a'r rheswm wnes i gael gyrfa o fewn Plaid Cymru, sef i ennill rheolaeth i Gymru, annibynniaeth i ni yn y pendraw.

"Mae'n fy nhristáu, mae'n rhaid i fi dd'eud, o weld rhywfaint o ffraeo wedi bod yn ddiweddar.

Ychwanegodd: "Mae 'na bethau go iawn i'w trafod, a'r pynciau sydd 'di achosi'r rhwyg i radda' yn ddiweddar, dy'n nhw'm yn betha' bach de.

"'Dy'n nhw'm yn betha' dibwys yn hynny chwaith."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ym mis Rhagfyr fe adawodd prif weithredwr Plaid Cymru, Carl Harris, ei swydd, a hynny wedi llai na blwyddyn a hanner.

Daeth hynny wedi i BBC Cymru adrodd bod honiad o ymosodiad rhyw wedi cael ei wneud yn erbyn aelodau blaenllaw o staff, a bod person arall hefyd wedi honni i'r aelod hwnnw eu gwneud nhw'n anghyfforddus sawl gwaith.

Maen nhw'n honiadau gwahanol i'r rheiny gafodd eu gwneud yn erbyn AS Plaid Cymru, Rhys ab Owen, sy'n parhau i fod wedi ei wahardd o grŵp y blaid yn y Senedd wrth i gomisiynydd safonau'r Senedd gynnal ymchwiliad.

Yn dilyn ymadawiad Mr Harris, dywedodd Adam Price fod y blaid wedi penodi eu cyn-Aelod Cynulliad Nerys Evans i gadeirio grŵp gwaith ochr yn ochr â'u Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol.

Dywedodd fod y grŵp wedi ei sefydlu "fel ein bod ni'n cyrraedd y sefyllfa 'syn ni eisiau bod ynddi, lle 'dyn ni'n glir ar ein gwerthoedd".

'Gofyn am ddisgyblaeth'

Dywedodd Mr Williams fod "anghydweld" yn anochel gyda mwy o aelodau'n rhan o'r Blaid erbyn hyn, a mwy o safbwyntiau'n cael eu rhannu.

"Pan ddoes i fewn i'r Blaid roedd ganddi dri Aelod Seneddol a dyna ni yn y bôn. Mae gynnon ni garfan dipyn mwy rŵan, a mwy o amrywiaeth barn efallai," dywedodd.

"Yn anorfod, [mae] rhywfaint o anghydweld."

Dywedodd fod rhedeg plaid "sydd yn llwyddo ac sy'n cyrraedd ei nod yn gofyn am ddisgyblaeth - yn unigol ac fel plaid yn gyffredinol".

"Wrth i ni dyfu ac wrth i bobl aeddfedu o fewn y Blaid ella' fydd hynny'n dod yn llai o broblem.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wrth ganmol arweinydd y blaid, Adam Price, dywedod Hywel Williams AS fod angen "tîm o fwy nag un dyn"

Fydd Hywel Williams AS ddim yn sefyll yn yr etholiad nesaf.

Fe wnaeth ganmol arweinydd y Blaid, Adam Price, ond dywedodd fod angen mwy nag un dyn i arwain plaid.

"O ran Adam ei hun, dw i 'di gweld o'n gweithio yn San Steffan am bron i 10 mlynedd, dw i'n meddwl bod o'n ddyn o sylwedd ac o allu rhyfeddol.

"Ond, dw i'n meddwl fod arweinyddiaeth plaid o'r top i'r gwaelod yn gofyn am dîm o fwy nag un dyn, a dw i'n gw'bod fod Adam yn meddwl hyn ei hun, bod rhaid i ni edrych ar strwythura' o fewn y Blaid yn barhaol.

"'Dan ni newydd wneud ymgynghoriad sylweddol iawn efo'r aelodaeth i weld be' 'di eu barn nhw a byddwn ni'n lansio strategaeth wleidyddol yn fuan rwan o fewn wythnosau... i roi cyfeiriad newydd i ni a phwrpas newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfreithwraig Fflur Jones yn gyn-gadeirydd pwyllgor disgyblu, aelodaeth a safonau Plaid Cymru

Dywedodd Fflur Jones, cyn-gadeirydd pwyllgor disgyblu, aelodaeth a safonau Plaid Cymru fod y Blaid "yn wynebu heriau" ond eu bod yn "gwneud rhywbeth amdanyn nhw".

"Roedd hi'n ddiddorol clywed bod 'na strategaeth wleidyddol ar y ffordd hefyd.

"Rhaid i ni gofio hefyd mai nad Plaid Cymru yw'r unig blaid, na chyflogwr na sefydliad sydd a phroblemau o ran amgylchedd sydd falle' yn gweddu i ofynion cyflogai ac ati, ac aelodau pellach yn y cyfnod yma.

"Beth sy'n dda yw bod nhw'n ceisio dod i'r afael â'r peth ac yn wahanol i falle un sefydliad sydd wedi bod yn flaenllaw iawn yn y cyfryngau yn ystod yr wythnosau diwetha' yng Nghymru [Undeb Rygbi Cymru]."

Dywedodd nad oedd hi'n gweld y materion yn "gymharol" ag URC ond dywedodd: "Mae 'na gyfeiriadau wedi bod ond oes at amgylchedd sydd ddim yn adeiladol, diwylliant ac ati.

"Mae diwylliant yn cael ei arwain dydy, felly mae'n bwysig bod yr adolygiad yn edrych ar bob lefel o'r Blaid a gweld beth sydd angen ei wneud i wneud beth maen nhw'n ceisio ei wneud - sef ennill seddi a gwneud newidiadau cadarnhaol i Gymru."

'Pwrpas a hyder o'r newydd'

Mewn ymateb i sylwadau Hywel Williams, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Gyda'n cynhadledd wanwyn ond tair wythnos i ffwrdd a'n strategaeth wleidyddol newydd yn agosáu at gael ei chyflawni, mae ffocws Plaid Cymru i gyd ar y dyfodol ac ar adeiladu'r blaid i'r gorau o'n gallu.

"Rydyn ni eisoes wedi dangos bod modd i ni gyflawni y tu allan i lywodraeth drwy'r Cytundeb Cydweithio, gan sicrhau prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion cynradd a thaclo'r argyfwng tai yng Nghymru.

"Rydyn ni'n benderfynol o adeiladu ar y llwyddiannau hyn, gan wneud hynny gyda phwrpas a hyder o'r newydd."

Pynciau cysylltiedig