Dyn ifanc wedi ei gyfeirio at wasanaeth cwnsela cyn marw

  • Cyhoeddwyd
Twm BrynFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Twm Bryn - mab fferm a seiclwr brwd - yn Hydref 2021

Mae cwest i farwolaeth mab fferm wedi clywed ei fod wedi'i gyfeirio at wasanaeth cwnsela ond iddo farw cyn cael mynediad ato.

Bu farw Twm Bryn, o Chwilog yn Eifionydd, Gwynedd, ym mis Hydref 2021. Roedd yn 21 oed.

Yn y cwest i'w farwolaeth, cafodd ei ddisgrifio gan ei fam fel dyn oedd yn mwynhau ffermio a chymdeithasu gyda'i ffrindiau.

Ond yn ôl Bethan Llwyd Jones, doedd ei mab "ddim ei hun" yn yr wythnosau cyn ei farwolaeth.

Yn y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mercher, cofnododd y crwner Sarah Riley achos marwolaeth Mr Bryn fel hunanladdiad.

Clywodd y cwest hefyd fod cyflwr iechyd meddwl Mr Bryn wedi dirywio ar ôl iddo ddioddef ymosodiad yn gynharach yn y flwyddyn, a bod hynny wedi gwneud iddo deimlo'n ofnus wrth fynd allan.

Rhai wythnosau cyn ei farwolaeth, penderfynodd y teulu, ar y cyd gyda Mr Bryn, y byddai'n siarad gyda meddyg teulu a chafodd ei asesu'n ddiweddarach dros y ffôn gan nyrs.

Wrth roi tystiolaeth yn y cwest, fe ddywedodd Eira Owen, y nyrs wnaeth ei asesu ym mis Medi 2021, fod Twm Bryn wedi bod yn teimlo "yn isel a bod ei dymer wedi bod yn dirywio".

Roedd wedi crybwyll iddo ystyried hunanladdiad, er dywedodd wrth Ms Owen na fyddai'n gwneud hynny am ei fod yn mwynhau ei swydd yn gweithio ar y lonydd gyda'r cyngor lleol, ac yn mwynhau cymdeithasu gyda'i ffrindiau.

'Dwi'n sori'

Ar y diwrnod y bu farw, roedd Mr Bryn wedi dweud wrth ei fam nad oedd yn ymdopi, ac yr oedd yn ei gweld hi'n anodd ac fe aeth Ms Jones ato i'w gysuro.

Fe adawodd Twm Bryn y cartref y noson honno, a doedd hynny ddim yn groes i'r arfer.

Cafodd ei ddarganfod yn hwyrach gan ei dad ar dir y teulu wedi marw.

Clywodd y cwest bod y seiclwr brwd wedi anfon neges destun at ei fam yn dweud: "Dwi'n sori."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Twm Bryn ei gyfeirio at wasanaethau cwnsela ond bu farw cyn cael mynediad ato

Clywodd y cwest bod Mr Bryn wedi cael ei gyfeirio at wasanaethau cwnsela.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Pennaeth Nyrsio ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru, Tom Regan fod 'na restr aros "o rai misoedd" am y gwasanaeth ar y pryd.

Ychwanegwyd na dderbyniodd ei asesiad iechyd meddwl o fewn cyfnod targed bwrdd iechyd y gogledd o 28 diwrnod, yn hytrach 40 diwrnod, a hynny oherwydd "pwysau staffio" yn y gwasanaeth.

Wrth ddarllen ymchwiliad mewnol i'r achos gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dywedodd Mr Regan fod Mr Bryn wedi ei asesu a'i fod mewn risg "cymhedrol" o hunanladdiad, yn profi trafferthion cysgu ac heb lawer o awydd bwyta.

Doedd y defnydd o feddyginiaeth i drin ei salwch heb gael ei gofnodi yn yr asesiad iechyd meddwl, ond clywodd y cwest fod ei deulu wedi gwneud ymholiadau i weld a oedd modd cael peth er mwyn ei helpu.

Mae'r bwrdd iechyd lleol bellach wedi cyflwyno cynllun gweithredu yn dilyn marwolaeth Mr Bryn.

Esboniodd Tom Regan ar ran y bwrdd iechyd fod rhai clinigau bellach yn cael eu cynnal ar benwythnosau i ddygymod â'r galw.

Er bod swyddi gwag dal yn y maes, dywedodd bod targedau fel sicrhau asesiadau o fewn 28 diwrnod wedi gwella rhywfaint.

Disgrifiad,

Fideo o 2022: Bethan Llwyd Jones, mam Twm Bryn, yn annog pobl i siarad am eu hiechyd meddwl

Wrth grynhoi, fe ddywedodd y crwner ei bod yn poeni am ddiffyg cefnogaeth interim ar gael i bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl ond sy'n cael eu hasesu'n "risg isel" tra'n aros misoedd am gwnsela.

Fe nododd Ms Riley mai hunanladdiad oedd y farwolaeth, gan gyhoeddi adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Dywedodd fod cefnogaeth interim yn dod gyda gofyniad i hunan-atgyfeirio am help.

Wedi'r cwest, fe ddywedodd Ms Jones, mam Mr Bryn: "Fel teulu ry'n ni'n teimlo nad oedd cymorth dros y ffôn yn wir adlewyrchiad o'i anghenion a'i stad feddyliol ar y pryd."

Mae Ms Jones eisoes wedi gwneud apêl yn sôn am bwysigrwydd siarad am iechyd meddwl, yn enwedig mewn cymunedau amaethyddol a chefn gwlad Cymru.

Dywedodd cynrychiolwyr ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn parhau i ddatblygu systemau newydd i wella'r ddarpariaeth gan gynnwys newid mynediad at asesiadau cychwynnol.

Mae hynny, medden nhw, yn cynnwys modd i bobl gael asesiadau iechyd meddwl yn gynt a llwyfannau cymorth ar-lein wrth hunan-gyfeirio.

Pynciau cysylltiedig