Ateb y Galw: Rhian Williams
- Cyhoeddwyd
Cyn golofnwraig Golwg a'r Wales on Sunday, Rhian Williams, sydd yn Ateb y Galw'r wythnos yma.
Daw Rhian yn wreiddiol o Abertawe ac mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd. Hi yw awdur y llyfr 'Oi Oi Oi' a dyddiau hyn mae'n ennill ei bara menyn yn gweithio ar gynhyrchiadau drama a ffilm.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cael Smash (i bawb sydd dan hanner cant oed - tatws powdwr roeddech chi yn 'i gymysgu gyda dwr oedd Smash -'For Mash get smash') gyda Anti Lewis yng Ngorseinon oedd yn gofalu amdana i pan oeddwn yn fabi. Roedd Anti Lewis yn rhoi pupur gwyn gyda'r tatws a hyd heddi bob tro wi'n ogleuo pupur gwyn wy nôl yn y gegin fach.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Glannau Porthaethwy yn edrych at y Fenai a'i phontydd anhygoel. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i deithio yr hen fyd yma yn helaeth ond dyma i mi y lle prydfertha welais i erioed.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Teithio ar drên gyda channoedd o Gymry yn eu crysau coch yn bloeddio Calon Lân ar y siwrne o ganol Sydney i'r Stadiwm Olympaidd i wylio trydydd gêm brawf y Llewod yn erbyn Awstralia. A wedyn rhoi crasfa i'r Walabis. Corcar o noson.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Brwdfrydig. Chwilfrydig. Direidus.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Haf dwetha roeddwn yn gweithio ar gyfres i CH4 ac roedd yn rhaid i ni fyw ym Mharc Margam am y pump wythnos tra'n ffilmio oherwydd rheolau Covid oedd ychydig fel bod mewn carchar swreal. Bob bore wrth gerdded i'r stiwdio dros dro canol y goedwig roeddwn yn pasio criw o Alpacas. Bois bach, fues yn siarad gyda nhw a phob dydd roeddent yn closio rhyw fymryn. O'ch mae gynna i hiraeth amdanynt a gwên ar fy wyneb bob tro y meddyliaf amdanynt.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Gwylio canu'r anthemau cyn gêm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Cymru yn erbyn yr Alban ychydig wythnosau yn ôl. Mae anthem yr Albanwyr wastad yn sbesial ond pan maen nhw yn canu yr ail bennill yn ddigyfeiliant cyn y gêm mae ar ben arna i. Dagrau, dagrau a mwy o ddagrau.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
O oes, ond mae Mam yn mynd i ddarllen hwn ac os neith hi ypsetio neith hi wrthod gofalu am fy nghi tra mod i yn gweithio a wedyn mi fydda i mewn cawdel.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Hoff ffilm - The American President - Michael Douglas ag Annette Bening. Rwyf wrth fy modd gydag ysgrifennu Aaron Sorkin - fel teulu rydym wedi gwylio'r ffilm drosodd a throsodd ac yn medru dyfynnu y mwyafrif ohono. Ac ydw wy'n crio ar y diwedd pob tro.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Gyda fy ffrindiau bendigedig wrth gwrs. Mi fyddai Barack Obama a Ryan Davies yn cael croeso mawr hefyd. A Nicola Sturgeon oherwydd wy'n meddwl bod angen 'laff' arni ar hyn o bryd.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Rwyf yn weinidog i Eglwys Fywyd y Bydysawd (Universal Life Church) sydd yn golygu galla i briodi chi os chi ishe priodi yn nhalaith Nevada.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gwylio gêm rygbi Cymru yn erbyn Lloegr 2019 drosodd a throsodd a throsodd - gyda chyflenwad ddiddiwedd o Pickled Onion Monster Munch ac Aperol Spritz.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Wy'n gasglwr lluniau - casglwr atgofion o fri, ac mae'n bosib iawn petaech yn gofyn eto mewn ychydig ddyddie mi faswn yn cynnig llun arall - machlud haul ar draeth Ogwr neu rhyw ddathliad hwylus. Ond wele y ffefryn presennol. Llynedd mi weithiais ar y gyfres Dal y Mellt a thynnwyd y llun yma wrth i'r ffilmio ddod i'w derfyn. Erbyn tynnu'r llun roeddem wedi treulio deg wythnos a mwy ac o leiaf deuddeg awr y dydd gyda'n gilydd fel criw a chast ond er gwaethaf rhyw dwtsh o flinder roedd pob un ohonom yn y llun - Rory Camera, Chiz y cyfarwyddwr, Lois yr actores a minnau wrth ein boddau. Breintiedig ydy cael ennill cyflog yn gwneud yn ddyddiol yr hyn yr ydym yn ei garu gwneud. Gobeithio cewn dynnu llun tebyg ar ddiwedd yr ail gyfres!
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Victoria Beckham er mwyn cael snogan David.
Hefyd o ddiddordeb: