Enillwyr Gwobrau'r Selar 2022
- Cyhoeddwyd
Dros yr wythnosau diwethaf, mae enillwyr Gwobrau'r Selar 2022 wedi cael eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru.
Mae'r gwobrau wedi cael eu cynnal yn flynyddol ers 2010, ac roedd y gigs byw blynyddol i ddathlu'r achlysur yn flynyddol yn ran amlwg o galendr y sîn gerddorol yng Nghymru.
Ers 2020, maen nhw'n cael eu dyfarnu mewn ffordd ychydig yn wahanol.
Eleni, mae rhaglenni amrywiol ar Radio Cymru wedi perchnogi gwobrau gwahanol dros gyfnod o bythefnos. Mae'r enillwyr i gyd wedi cael eu cyhoeddi erbyn hyn, felly dyma'r rhestr yn llawn!
Cân Orau (Noddir gan PRS for Music)
ETO - ADWAITH
Rhedeg Ata Ti - Angharad Rhiannon
Bricsen Arall - Los Blancos
Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai llwyddiannus dros ben i'r band o Gaerfyrddin. Nhw oedd enillwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig llynedd gyda'r albwm Bato Mato, a hynny ar ôl ennill y wobr am y tro cyntaf yn ôl yn 2019 gyda'r casgliad Melyn. Doedd 'run artist wedi llwyddo i ddod i'r brig ddwywaith cyn iddynt gyflawni'r gamp.
Un o'r caneuon mwyaf poblogaidd oddi ar Bato Mato yw 'Eto', un o anthemau mawr 2022.
Cafodd y wobr ei datgelu ar raglen Aled Hughes.
Gwaith Celf Gorau
SŴNAMII - SŴNAMI
Deuddeg - Sywel Nyw
Seren - Angharad Rhiannon
Roedd 2022 yn flwyddyn nodedig i Sŵnami, wrth iddyn nhw ryddhau eu halbwm cyntaf ers saith mlynedd. Roedd yr albwm, o'r enw Sŵnamii, yn gwneud defnydd helaeth o ddelweddau'r 'motel', sydd yn amlwg ar y clawr.
Gruffydd Sion Ywain oedd yr artist a oedd yn gyfrifol am y gwaith celf buddugol, a Georgia Ruth gafodd y fraint o roi'r wobr iddo.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Artist Unigol Gorau
MARED
Cerys Hafana
Elis Derby
Mared yw'r Artist Unigol Gorau. Yn ogystal â serennu yn sioe gerdd enwog Les Miserables dros y blynyddoedd diwethaf, mae Mared Williams wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth ei hun hefyd, gan ryddhau'r albwm Y Drefn yn 2020.
Gwrandewch yma ar Mirain Iwerydd yn rhoi'r wobr iddi.
Band neu Artist Newydd Gorau
DOM JAMES A LLOYD
Melda Lois
Angharad Rhiannon
Byrstiodd Dom James a Lloyd ar y sîn y llynedd gyda'r gân 'Pwy Sy'n Galw'. Ar ôl i Mirain Iwerydd roi'r wobr iddyn nhw, datgelodd y ddau eu bod yn gweithio ar fwy o ganeuon i'w rhyddhau.
Mae Dom hefyd yn cyflwyno rhaglen ar BBC Radio Cymru 2 bob dydd Gwener rhwng 11 ac 1.
Band Gorau
ADWAITH
Bwncath
Sŵnami
Nid un, ond dwy wobr i Adwaith!
Mae'n rhaid bod gan Hollie, Gwenllian a Heledd gypyrddau mawr i ddal yr holl wobrau y maen nhw wedi eu derbyn ar hyd y blynyddoedd.
Cyhoeddodd Owain Schiavone, golygydd y Selar, mai'r triawd o Gaerfyrddin oedd yn fuddugol ar raglen Huw Stephens.
Seren y Sîn
OWAIN WILLIAMS (KLUST)
Siân Eleri
Elan Evans
Os nad ydych chi wedi gweld gwefan Klust, mae'n debyg efallai eich bod wedi gweld ambell berson yn gwisgo eu crysau-t. Sefydlodd Owain Williams o gyffiniau'r Wyddgrug y wefan llynedd i gefnogi ac i drafod cerddoriaeth o Gymru.
Caiff y wobr yma ei rhoi i unigolion sydd yn gweithio'n galed i gynnal y sîn, a Huw Stephens oedd yn gyfrifol am ei chyhoeddi hi y tro hwn.
Fideo Cerddoriaeth Gorau
DRAMA QUEEN - TARA BANDITO
Byw Efo Hi - Elis Derby
Cynbohir - Gwilym x Hana Lili
Y gantores a'r actores brofiadol Tara Bethan yw'r cerddor y tu ôl i Tara Bandito. Rhyddhaodd ganeuon o dan yr enw hwnnw am y tro cyntaf y llynedd, gan ryddhau albwm dan yr un enw fis Ionawr eleni.
Y fideo ar gyfer y gân Drama Queen sydd yn fuddugol yn y categori hwn eleni, sydd yn cyfuno golygfeydd newydd o Tara a rhai ohoni'n cystadlu mewn cystadlaethau dawns pan yn ieuengach.
Cafodd dipyn o sioc wrth i Mirain Iwerydd ddweud wrthi hi ei bod wedi ennill!
Record Fer Orau
CRESCENT - THALLO
Mali Hâf EP
Ynys Alys EP
Llygredd Gweledol - Chroma
Elin Edwards yw 'Thallo', artist sydd wedi denu sylw yng Nghymru a thu hwnt dros y blynyddoedd diweddar am ei cherddoriaeth sydd â dylanwadau jazz, pop ac electronig.
Mae'r casgliad byr, Crescent, yn cynnwys tair cân, sef Carry Me, Pluo a Crescent.
Record Hir Orau
SEREN - ANGHARAD RHIANNON
Sŵnamii - Sŵnami
Bato Mato - Adwaith
Er iddi wynebu dau enw cyfarwydd yn Sŵnami ac Adwaith, y gantores o Gwm Cynon, Angharad Rhiannon, ddaeth i'r brig yn y categori yma. Roedd hi hefyd yn un o'r enwau a ymddangosodd ar restr fer y wobr am yr Artist Newydd Gorau.
Sgwrsiodd Angharad gydag Ifan Evans, a ddywedodd wrthi ei bod wedi cyflawni'r gamp.
Gwobr Cyfraniad Arbennig
LISA GWILYM
Caiff y wobr arbennig hon ei rhoi i unigolyn sydd wedi cyfrannu'n helaeth at gerddoriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd. Mae wedi cael ei dyfarnu yn y gorffennol i unigolion fel Heather Jones, Tecwyn Ifan a Geraint Jarman.
Y gyflwynwraig Lisa Gwilym dderbyniodd y wobr eleni, ac mi gafodd wybod gan Owain Schiavone yn fyw ar y radio gyda Rhys Mwyn yn cyflwyno.
Roedd Lisa'n cyflwyno rhaglen gerddoriaeth am ugain mlynedd ar BBC Radio Cymru, a bellach gallwch ei chlywed ar raglen ddyddiol ar BBC Radio Cymru 2 o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 9 ac 11.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Gwobr 2022
IZZY RABEY
Mae Izzy yn ysgrifennu, yn rapio, ac yn gweithio ym myd theatr, ac mae wedi cydweithio'n helaeth dros y blynyddoedd gydag un o enillwyr blaenorol y categori hwn, sef Eädyth.
Mae criw'r Selar yn dyfarnu'r wobr hon i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i'r sîn dros y flwyddyn.
Yn ogystal â chydweithio gydag artistiaid eraill, mae Izzy wedi rhyddhau'r gân 'Gwaed' yn ddiweddar fel artist unigol.
Huw Stephens gafodd y fraint o roi'r wobr arbennig hon i Izzy.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Hefyd o ddiddordeb: