Dim diwrnod o wyliau Gŵyl Dewi i staff Cyngor Gwynedd eleni
- Cyhoeddwyd
Flwyddyn yn unig ar ôl cyflwyno diwrnod o wyliau i staff ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu peidio parhau gyda'r cynnig am eleni.
Gyda gweithwyr yn parhau wrth eu desgiau ddydd Mercher, mae'r awdurdod yn beio'r sefyllfa ariannol bresennol am y penderfyniad.
Pan gyhoeddwyd y cynllun y llynedd roedd gobaith y byddai penderfyniad y cyngor yn sbarduno cyrff cyhoeddus eraill i ddilyn trywydd debyg.
Ond mewn datganiad cadarnhawyd y bydd yr holl wasanaethau yn gweithredu fel arfer ar 1 Mawrth.
Roedd arweinydd y cyngor, serch hynny, yn feirniadol o Lywodraeth y DU am ganiatáu gwyliau banc newydd ar gyfer coroni Charles III, ond i beidio datganoli hawliau tebyg i Senedd Cymru.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod "dim cynlluniau" i newid trefniadau gwyliau banc.
'Cau gwasanaethau yn gostus'
"Roedd y penderfyniad y llynedd i roi diwrnod i ffwrdd i staff i nodi diwrnod ein nawddsant yn un llwyddiannus a phoblogaidd," dywedodd y llefarydd.
"Fodd bynnag, mae cau gwasanaethau am y dydd yn gostus, ac o ystyried y sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu'r cyngor ar hyn o bryd, penderfynwyd rhoi'r gorau i'r arferiad am eleni.
"Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda undebau llafur i geisio sicrhau bod staff Cyngor Gwynedd sydd ar delerau ac amodau llywodraeth leol yn gallu, o fewn darpariaethau'r amodau gwasanaeth cenedlaethol diwygiedig, cymryd y diwrnod i ffwrdd ar Ddydd Gŵyl Dewi o 2024 ymlaen."
Yn ôl Cyngor Gwynedd roedd cost o tua £200,000 i'r cynllun, yn bennaf oherwydd yr angen i gyflogi staff dros dro a llenwi bylchau tra bod y mwyafrif i ffwrdd o'r gwaith.
Ddydd Iau bydd cyfarfod o'r cyngor llawn yn trafod codi'r treth cyngor, dolen allanol o 4.95% - neu £75.59 y flwyddyn i gartref 'Band D' - ar gyfer 2023/24.
Yn 2021 pasiwyd cynnig unfrydol gan Gyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli hawliau tebyg ar gyfer dynodi gŵyl y banc yng Nghymru i'r rhai sydd eisoes yn bodoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ond mewn ymateb cadarnhaodd Lywodraeth y DU eu bod yn yn parhau i wrthod ar sail y gost ychwanegol a'r "integreiddio agosach" rhwng Cymru a Lloegr.
'Mynd cap mewn llaw'
Ond roedd arweinydd y cyngor, Dyfrig Siencyn, yn feirniadol o Lywodraeth y DU am ganiatáu gwyliau banc newydd ar gyfer coroni Charles III ond i beidio datganoli'r hawl i Senedd Cymru.
"Fel llawer o faterion eraill, nid oes gan Gymru'r hawl i ddynodi gwyliau banc ac mae'n ymddangos nad ydym yn ddigon cyfrifol i wneud hynny," meddai.
"Rhaid i ni fynd, cap mewn llaw, i ofyn caniatâd gan ein meistri yn Llundain.
"Roedd yr ymateb a gafwyd gan San Steffan y llynedd yn sarhaus, gan honni y byddai'n rhy gymhleth i bobl sy'n gweithio dros y ffin ymdopi â gŵyl banc Cymru ac y byddai goblygiadau cost enfawr iddo.
"Mae San Steffan yn gallu caniatáu dwy ŵyl banc arbennig i goroni Brenin Lloegr heb unrhyw ystyriaeth o'r gost.
"Dyma enghraifft arall eto o agwedd sarhaus a rhodresgar ein meistri Torïaidd yn Llundain a'r modd y maent yn delio â phobl Cymru - gyda diffyg parch llwyr at ein cenedl."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae'r patrwm presennol o wyliau cyhoeddus a gwyliau banc wedi ei hen sefydlu, a does dim cynlluniau i newid hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2021