Plaid: 'Diswyddwch y gweinidog yn sgil methiant Betsi'

  • Cyhoeddwyd
Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe ddylai'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddiswyddo'r gweinidog iechyd yn sgil methiannau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, medd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth.

Mae Eluned Morgan wedi dweud y bydd yn parhau yn ei swydd wedi iddi roi bwrdd iechyd y gogledd o dan fesurau arbennig yn gynharach yr wythnos hon.

Fe wnaeth hi hefyd ofyn i aelodau annibynnol y bwrdd "gamu o'r neilltu".

Dywed Rhun ap Iorwerth nad oes gan Ms Morgan yr awdurdod i barhau yn ei swydd.

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur Gymreig bod y gweinidog iechyd yn cyflawni ei swydd yn rhagorol.

Cyhuddiad o fychanu'r aelodau

Fe ddaw sylwadau, Rhun ap Iorwerth, sy'n cynrychioli Ynys Môn yn y Senedd ar ail ddiwrnod cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn Llanelli.

Yn ddiweddarach bydd yr aelodau yn pleidleisio ar strategaeth wleidyddol y blaid.

Dywedodd Eluned Morgan ei bod wedi rhoi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig wedi i adroddiad yr wythnos diwethaf nodi "pryderon difrifol am berfformiad, arweinyddiaeth a diwylliant".

Dywedodd yr 11 aelod annibynnol nad oedd ganddynt ddewis ond ymddiswyddo wedi cais Ms Morgan.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, dywedodd cyn-aelodau o'r bwrdd "nad oedd ganddyn nhw ffydd yng ngallu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r sefyllfa" ac fe holon nhw pam bod y pwyslais wedi cael ei roi arnyn nhw yn hytrach na'r bwrdd gweithredol.

Yn ddiweddarach fe ddywedodd Ms Morgan nad oedd ganddi'r "hawl fel gweinidog i ymyrryd yn rheolaeth y bwrdd yn uniongyrchol".

Nid ei swydd hi, meddai, "oedd mynd i'r afael â'r sefyllfa" tra bod bwrdd annibynnol yn gyfrifol.

Mae Plaid, sydd wedi ffurfio cynllun cydweithio â llywodraeth Lafur Cymru, wedi cyhuddo Ms Morgan o fychanu'r bwrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rhun ap Iorwerth nad oes gan Eluned Morgan yr awdurdod i barhau fel Gweinidog Iechyd

Dywedodd Mr ap Iorwerth: "Mae pobl Cymru wedi colli ffydd yn y Gweinidog Iechyd.

"Dro ar ôl tro, mae hi wedi osgoi craffu ac wedi symud bai ar eraill pan caiff ei herio gyda chanlyniadau trychinebus ei pholisïau ei hun.

"Mae hyn yn arbennig o wir yn y gogledd. Mae cleifion a staff Betsi Cadwaladr yn haeddu gwell gan eu llywodraeth.

"Y lleiaf maen nhw'n ei haeddu yw ymddiheuriad, ond yr hyn sydd ei angen arnom ni i gyd yw i'r llywodraeth gamu i fyny a chymryd cyfrifoldeb am y llanast hwn.

"Mewn democratiaeth, mae'r awdurdod i lywodraethu yn llifo oddi wrth y bobl. Mae'n amlwg nad oes gan Eluned Morgan yr awdurdod hwnnw.

"Os nad yw hi'n fodlon cymryd cyfrifoldeb yn awr, dylai'r Prif Weinidog wneud y peth iawn ar ran pobl Cymru, a chael gwared ar ei Weinidog Iechyd."

Ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd Wanwyn dywedodd yr arweinydd Adam Price wrth yr aelodau y dylai pawb deimlo'n ddiogel yn y blaid.

Daw ei sylwadau wedi nifer o honiadau diweddar am y blaid yn y wasg ac ar y cyfryngau.