Gweddw nyrs fu farw o Covid yn cymryd camau cyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gareth Roberts gyda'i wraig LindaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Linda Roberts yn dadlau yn dylid fod wedi tynnu ei gŵr Gareth oddi ar y wardiau gan ei fod yn fregus

Mae gweddw nyrs a fu farw o Covid yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y gwasanaeth iechyd.

Daeth cwest i'r casgliad bod Gareth Roberts wedi marw o "glefyd diwydiannol" ar ôl dal y feirws yn y gwaith yn ôl pob tebyg.

Credir mai dyma'r tro cyntaf i grwner ddod i'r casgliad hwnnw ar gyfer marwolaeth o ganlyniad i Covid.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fod Mr Roberts yn gydweithiwr "gwerthfawr iawn".

Roedd Mr Roberts, o Aberdâr, yn 65 oed ac roedd ganddo ddiabetes math 2.

Mae ei weddw Linda yn teimlo y dylai fod wedi cael ei dynnu oddi ar y wardiau oherwydd ei fod yn fregus i Covid.

Mae hi hefyd yn anhapus gyda'r offer amddiffyn personol (PPE) oedd ar gael i staff ac mae hi wedi penderfynu dwyn achos sifil yn erbyn y bwrdd iechyd am iawndal.

Yn y cwest dywedodd y crwner Graeme Hughes na fyddai oedran, rhyw a iechyd Mr Roberts wedi sbarduno'r angen i'r bwrdd iechyd gynnal asesiad risg unigol.

Dywedodd hefyd fod yr offer diogelwch personol yn cydfynd â'r canllawiau iechyd cyhoeddus ar y pryd, gan gynnwys ffedogau plastig, masgiau papur a menig rwber.

Ond mae Mrs Roberts yn cymryd camau cyfreithiol oherwydd ei bod yn teimlo y dylai ei gŵr fod wedi cael ei amddiffyn yn well.

"Roeddwn i bob amser yn dweud na fyddwn i byth yn cymryd arian o'r ysbyty," meddai wrth raglen Wales Live BBC Cymru.

"Ond dwi'n teimlo mor chwerw nawr am y ffordd roedden nhw'n gofalu am eu staff yn y dechrau.

"Rwy'n chwerw iawn am y peth oherwydd wnaethon nhw ddim gofalu amdanyn nhw."

Asesiad risg

Dywedodd Matthew Turner, bargyfreithiwr a gynrychiolodd y teulu yng nghwest Gareth Roberts, fod gan y teulu "bryderon difrifol iawn" am yr offer diogelwch ac ynghylch a ddylai Mr Roberts fod wedi cael asesiad risg, o ystyried ei gyflwr.

"Roedd y canllawiau ar y pryd yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr asesu risg eu gweithwyr a gweithio allan pwy oedd mewn perygl o gymhlethdodau oherwydd Covid.

"Ni ddigwyddodd hynny yn yr achos hwn."

Ychwanegodd Mr Turner, er bod yr hawliad sifil yn broses gyfreithiol ar wahân i'r cwest, bod casgliad y crwner o glefyd diwydiannol yn "bwysig iawn".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wasanaethodd Gareth Roberts fel nyrs am 40 o flynyddoedd

Yn y cwest fe wnaeth y teulu ddadlau o blaid casgliad o farwolaeth oherwydd afiechyd diwydiannol.

Dadleuodd y bwrdd iechyd dros ddyfarniad bod y marwolaethau o ganlyniad i achosion naturiol.

Ond yn ogystal â dangos bod y feirws wedi'i ddal yn y gweithle, byddai'n rhaid i'r teulu ddangos bod methiannau ar ran y cyflogwr hefyd os am ennill yr achos sifil.

Roedd Mr Roberts yn gweithio fel nyrs banc yn gwneud sifftiau mewn gwahanol ysbytai ac roedd yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2020 pan darodd y pandemig.

Aeth yn sâl â Covid ddiwedd mis Mawrth, ac yn raddol fe ddirywiodd ei gyflwr.

Aethpwyd ag ef i'r ysbyty ym Merthyr ar 2 Ebrill 2020 a bu farw yno naw diwrnod yn ddiweddarach.

'Arwr'

Dywedodd Linda, 75, fod ei gŵr yn "ddyn rhyfeddol, yn dad gwych ac yn daid gwych".

"Fe oedd fy arwr, fy ffrind gorau," meddai.

Roedd Gareth wedi gweithio fel nyrs ers yr 1980au ac fe ddaeth allan o ymddeoliad ym mis Ionawr 2015 i weithio shifftiau banc.

Dywedodd Linda ei fod wedi cael ei ysgogi gan gariad at nyrsio ac awydd i roi "pob cyfle" i'w ŵyr, Zac.

Roedd y cwpl wedi magu Zac ers marwolaeth ei rieni.

Os bydd ei hawliad yn erbyn y bwrdd iechyd yn llwyddiannus, dywedodd Linda y byddai'n defnyddio unrhyw iawndal i helpu Zac, 19, i fynd i'r brifysgol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Roberts gyda'i ŵyr Zac ar wyliau

"Dyna pam roedd Gareth yn gweithio, oherwydd ei fod eisiau'r gorau i Zac," dywedodd.

"Rwy'n meddwl eu bod nhw [y GIG] yn haeddu gofalu am y teuluoedd, nid yn unig fy un i ond yr holl deuluoedd y mae rhywbeth wedi digwydd iddyn nhw."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Fel bwrdd iechyd rydym yn ailadrodd ein cydymdeimlad diffuant â Mrs Roberts.

"Gwerthfawrogir bod hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i'r teulu.

"Roedd Mr Roberts yn aelod gwerthfawr iawn o'r bwrdd iechyd a'r proffesiwn nyrsio.

"Byddwn yn aros am ragor o ohebiaeth gan gynrychiolydd cyfreithiol y teulu ac yn ymateb yn unol â hynny."

'70 o achosion tebyg'

Mae cyfreithwyr y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yn dweud bod ganddyn nhw tua 70 o hawliadau tebyg yn ymwneud â Covid gan nyrsys a'u teuluoedd.

Dywedodd cyfreithiwr y teulu Roberts, Leanne Khan o RCN Law, fod ei thîm yn delio â'r "mwyafrif helaeth" o achosion Covid a ddygwyd gan nyrsys yng Nghymru a Lloegr yn erbyn eu cyflogwyr.

"Rydyn ni'n gweithio gyda nyrsys â Covid hir a theuluoedd nyrsys a gollodd eu bywydau yn y pandemig yn anffodus.

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n cynnal 70 a mwy o achosion sydd, yn ein barn ni, yn achosion cryf yn erbyn y cyflogwyr."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydweithio'n "llawn ac yn agored gyda'r ymchwiliad cyhoeddus annibynnol, sydd wedi ei sefydlu i archwilio'r ymateb ac i effaith pandemig Covid-19 a dysgu gwersi at y dyfodol".

Ychwanegodd bod hi'n bwysig i'r ymchwiliad hwnnw "gael yr amser a'r gofod i archwilio'r materion pwysig wrth ei galon, yn fanwl ac yn ofalus fel bod modd taflu goleuni ar y ffactorau a'r gwersi a ddysgwyd".

BBC Wales Live, 22:35 nos Fercher ar BBC One Wales ac iPlayer.