Cynyddu dedfryd dyn a laddodd ei chwaer mewn parc gwyliau

  • Cyhoeddwyd
Amanda Selby
Disgrifiad o’r llun,

Fe laddwyd Amanda Selby gan ei brawd

Mae'r Llys Apêl wedi cynyddu dedfryd dyn a laddodd ei chwaer 15 oed mewn maes carafanau.

Fe wnaeth Matthew Selby, 20, dagu ei chwaer Amanda i farwolaeth ym Mharc Gwyliau Tŷ Mawr yn Nhowyn, Sir Conwy, ym mis Gorffennaf 2021.

Plediodd yn euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll, ac fe gafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar yn Rhagfyr 2022.

Ond ddydd Mercher cafodd y penderfyniad ei herio, gyda chyfreithwyr yn dadlau y dylai Selby fod wedi derbyn dedfryd oes.

Yn dilyn y gwrandawiad disodlwyd ei ddedfryd blaenorol gan farnwyr yn y Llys Apêl, wrth iddynt osod dedfryd oes.

Bydd y penderfyniad hefyd yn golygu bod yn rhaid i achos Selby gael ei ystyried gan y Bwrdd Parôl cyn y gallai gael ei ryddhau o'r carchar.

'Trasiedi o bob safbwynt'

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Stuart-Smith fod yr achos yn "drasiedi o bob safbwynt ac i bawb a oedd yn gysylltiedig".

Clywodd y llys yn Llundain fod y brawd a'r chwaer wedi bod ar wyliau gyda'u tad pan ddychwelon nhw i'w carafán ar ôl trip a dechrau dadlau.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Matthew Selby wedi lladd ei chwaer mewn "ffrwydrad o wylltineb", medd y CPS

Aeth Selby am ei chwaer ar ôl iddi ei daro â phlwg, gan achosi mân anaf i'w wefus.

Yna syrthiodd Amanda i'r llawr rhwng dau wely yn yr ystafell cyn i Selby ddechrau ei thagu.

Clywodd y llys fod gan Selby anhwylder ar y sbectrwm awtistig, ac ar adegau yn gallu bod yn ffrwydrol.

Roedd wedi derbyn rhybudd yn y gorffennol am guro athro yn 2014 pan oedd yn 11 oed, ac hefyd euogfarn am ddwy drosedd o guro, yn erbyn ei chwaer a'i fam, yn 2015.

Pynciau cysylltiedig