'Synau gwallgofddyn' ar noson lladdwyd dynes, 71, yn Y Bermo
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed tystiolaeth gan gymydog i ddyn sydd wedi'i gyhuddo o guro dynes oedrannus i farwolaeth ar ôl iddi gamgymryd ei gartref fel gwesty.
Roedd Margaret Barnes, 71, ar ei gwyliau yn Y Bermo o Birmingham adeg yr ymosodiad honedig fis Gorffennaf y llynedd.
Mae David Redfern, sy'n 46, yn gwadu llofruddiaeth neu ddynladdiad.
Mae'r erlyniad yn honni i Mr Redfern lusgo Ms Barnes, wedi iddi fynd i'r tŷ anghywir drwy gamgymeriad, o'r gwely ac i lawr grisiau gerfydd ei thraed, cyn ei chicio ac achosi anafiadau angheuol.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon ddatganiad gan un o gymdogion Mr Redfern, Lynn Hynes, a ddywedodd bod clywed gweiddi uchel drwy waliau'r tŷ yn "ddigwyddiad cyffredin".
Ar noson yr ymosodiad honedig roedd y gweiddi, meddai, yn swnio fel "synau gwallgofddyn".
Ychwanegodd fod Mr Redfern wedi dweud wrthi i "beidio â chyffwrdd" Mrs Barnes ac i "adael llonydd iddi" pan roedd hi'n gorwedd ar y llawr.
Mae Mrs Hynes hefyd yn dweud bod David Redfern wedi cyfaddef "llusgo [Mrs Barnes] lawr y grisiau a'i thaflu o'r tŷ".
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd5 Awst 2022