Gweithiwr ambiwlans 'wedi marw o afiechyd diwydiannol'
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi dod i'r casgliad bod gweithiwr ambiwlans 59 oed o Sir Gâr wedi marw o ganlyniad salwch diwydiannol ar ôl dal Covid-19.
Roedd Alan Haigh, o Gwmduad, wedi gweithio i Wasanaeth Ambiwlans Cymru am tua 25 mlynedd.
Roedd yn gweithio ar y rheng flaen fel technegydd meddygol brys pan gafodd ei heintio ym mis Tachwedd 2020, ac fe ddechreuodd ei symptomau ar 30 Tachwedd.
Clywodd y cwest bod Mr Haigh wedi dweud wrth gydweithiwr ei fod yn meddwl ei fod wedi dal y feirws gan glaf.
Aeth i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar 7 Rhagfyr 2020 lle cafodd ei drosglwyddo i'r uned gofal dwys, ond fe waethygodd ei gyflwr a bu farw ar 9 Chwefror 2021.
Ym marn y crwner, Paul Bennett roedd yna ddigon o dystiolaeth i ddangos bod Mr Haigh, ar ddau achlysur, wedi bod mewn sefyllfa ble roedd yn bosib iddo ddal Covid-19 yn ystod cyfnod heintus pan oedd y salwch ar berson arall.
Roedd wedi helpu cludo claf i Ward Coch Covid Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli ar 28 Tachwedd.
Dywedodd Mr Bennett nad oedd cwestiwn "o fethiant dynol", ond fe nododd mai'r risg fwyaf i Alan Haigh oedd "ei gyflogaeth".
Mr Haig oedd y trydydd aelod o staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i farw o Covid-19 yn ystod y pandemig.
Darllennodd ei fab, Colin Haigh, ddatganiad ar ran ei deulu yn diolch i'r holl staff a ofalodd amdano, ac "i'r holl griwiau ambiwlans wnaeth gynnig eu cymorth yn ystod ei salwch ac ar ôl ei farwolaeth".
"Bydd gweld cannoedd o staff y GIG, staff ambiwlans a ffrindiau ar y strydoedd i ddangos cefnogaeth a chyfeillgarwch yn ei angladd yn aros yn y cof am byth. Cawsom ein cyffwrdd yn fawr iawn," meddai.
"Yn siarad yn bersonol, roedd dad wastad yn hapus, serchus a gofalgar. Byddai wastad yno i helpu a chynnig cyngor a chefnogaeth... hyd heddiw rydym yn ei golli a ry'n ni gyd mor falch ohono."
Gan estyn cydymdeimlad i'r teulu dywedodd Paul Bennett, Uwch Grwner Dros Dro Siroedd Caerfyrddin a Phenfro, ei fod yn gobeithio y byddai'r cwest o gymorth i'r teulu a bod "colli Alan heb fod yn hawdd ymdopi ag e".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2020