Plaid Cymru yn penodi Owen Roberts yn brif weithredwr
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wed penodi Owen Roberts yn brif weithredwr.
Mae'n olynu Carl Harris a adawodd y swydd ym mis Rhagfyr wedi llai na blwyddyn a hanner, ynghanol adroddiadau am ddiwylliant gwenwynig a diffyg arweiniad yn y blaid.
Dywedodd Mr Roberts ei fod am "dyfu aelodaeth y blaid" ac "ysgogi ac ysbrydoli aelodau presennol i guro drysau a chynnal sgyrsiau gan ddod yn actifyddion pybyr yn ein cymunedau".
Daw'r penodiad "ar yr adeg bwysig hon yn hanes Plaid Cymru wrth i ni weithredu ein strategaeth wleidyddol newydd" meddai'r arweinydd Adam Price.
Yn gynharach y mis hwn, fe gymeradwyodd aelodau'r blaid strategaeth wleidyddol oedd yn nodi mai prif bwrpas y blaid yw sicrhau annibyniaeth.
Mewn sefyllfa lle na all y blaid ffurfio llywodraeth ar ei phen ei hun, cytunon nhw fod bod mewn grym yn well na pheidio.
Ar hyn o bryd mae Mr Roberts yn gyfrifol am gyfathrebu, materion allanol, a digwyddiadau mawr ar gyfer Hybu Cig Cymru.
Treuliodd gyfnod fel pennaeth ymchwil a chyfathrebu i Elin Jones AS pan oedd hi'n ddirprwy arweinydd y blaid ac yn llefarydd ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Cafodd ei fagu yng Ngheredigion, ac mae'n byw ar hyn o bryd gyda'i deulu ger Penrhyncoch.
Ym mis Tachwedd, daeth i'r amlwg bod honiad o ymosodiad rhyw wedi'i wneud yn erbyn uwch aelod o staff.
Roedd yr honiad yn wahanol i'r rheiny gafodd eu gwneud yn erbyn AS Plaid Cymru, Rhys ab Owen, sy'n parhau i fod wedi ei wahardd o grŵp y blaid yn y Senedd wrth i gomisiynydd safonau'r Senedd gynnal ymchwiliad.
Yn dilyn ymadawiad Mr Harris, fe wnaeth y blaid benodi eu cyn-Aelod Cynulliad, Nerys Evans i gadeirio grŵp gwaith ochr yn ochr â'u Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol i edrych ar ddiwylliant o fewn Plaid Cymru.
Dywedodd Plaid Cymru y bydd Mr Roberts yn dechrau ar ei swydd newydd fel prif weithredwr y blaid "yn yr wythnosau nesaf".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022