Newid hinsawdd yn achosi 'newid difrifol' i draeth Cricieth

  • Cyhoeddwyd
Traeth Cricieth
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn poeni am effaith erydiad ar draeth Cricieth

Mae 'na bryder bod newid hinsawdd yn cael effaith andwyol ar faint o dywod sydd 'na ar rai o'n traethau fwyaf poblogaidd.

Yn ôl rhai, mae'r hyn sy'n digwydd ar draeth Cricieth yn cael ei ailadrodd mewn cymunedau arfordirol ar draws Cymru.

Ond mae pryder hefyd yn sgil diflaniad mynedfa ramp concrid, sy'n ei wneud yn anodd i'r gwasanaethau brys gyrraedd rhannau o'r traeth.

Dywed Cyngor Gwynedd eu bod yn ystyried nifer o opsiynau ar gyfer trefniadau mynediad yn y dyfodol.

'Mae petha' wedi newid'

Mae stormydd y gaeaf wedi taro'r prom yn galed, gan chwalu seiliau mynedfa ramp goncrit oedd yn arfer galluogi mynedfa hwylus i'r traeth.

Disgrifiad o’r llun,

Sian Williams: "Mae petha' wedi newid ar y traeth ers tua Tachwedd 2019"

O ganlyniad mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn cynnal gwaith atgyweirio ac wedi cau'r fynedfa flaenorol am resymau diogelwch.

Dim ond un o sawl pryder ydy hwnnw sydd gan bobl leol am yr hyn sy'n digwydd i'r traeth, yn ôl cadeirydd y cyngor tref, Sian Williams.

"Mae petha' wedi newid ar y traeth ers tua Tachwedd 2019 - 'dan ni 'di colli rhyw fedr a hanner o'r traeth ac erbyn rŵan mae'r ramp wedi chwalu," meddai.

"Mae hwnna wedi creu problem o ran mynediad i'r traeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brif ramp wedi ei dynnu gan ei fod wedi'i ddifrodi gymaint

"Cafodd ei drwsio ond mae'r un peth wedi digwydd eto, felly erbyn rŵan mae wedi cau ac yn creu poen meddwl i bobl - yn enwedig teuluoedd hefo plant yn mynd i lawr at y traeth.

"Mae'n anodd iawn i wasanaethau gyrraedd."

'Niwed difrifol yn digwydd'

Mae'r hyn sy'n digwydd i draeth Cricieth yn cael ei ailadrodd mewn cymunedau arfordirol ar hyd a lled y wlad, ac yn ôl rhai yn arwydd clir o newid hinsawdd.

Dywedodd Aelod o'r Senedd Dwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor: "Mae'r stormydd mawr 'ma 'dan ni'n gael bellach yn golygu fod tywod yn cael ei olchi ffwrdd o'r traeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mabon ap Gwynfor: "Mae niwed difrifol yn digwydd i'r lan y môr yma yng Nghricieth a phob lan y môr i ddweud y gwir"

"Mae 'na fwy o niwed yn digwydd i'r traeth ac yn golygu fod lefel y traeth yn gostwng a lefel y dŵr yn cynyddu.

"Mae hynna, yn ei dro, yn golygu fod niwed difrifol yn digwydd i'r lan y môr yma yng Nghricieth - a phob glan y môr, i ddweud y gwir."

'Monitro difrod cosmetig'

Yn ôl y cyngor sir bydd gwaith atgyweirio hanfodol wedi ei wneud i'r prif grwyn ar y traeth a rhagwelir y bydd lefelau'r traeth yn sefydlogi ac yn cronni dros y misoedd nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Bydd difrod cosmetig a achoswyd i'r promenâd yn parhau i gael ei fonitro gydag unrhyw waith cynnal a chadw hanfodol yn cael ei ystyried fel rhan o raglen waith y Cyngor i'r dyfodol.

"Mae'r brif ramp wedi ei dynnu gan ei fod wedi'i ddifrodi gymaint na ellir ei ailadeiladu na'i atgyweirio ac mae'r gwaith ar y plinth newydd sy'n rhan o wal y promenâd wedi'i gwblhau.

"Mae canllaw diogelwch newydd i gerddwyr wedi'i osod i ddiogelu'r ymyl.

"Rydym yn deall rhwystredigaeth pobl leol ynghylch y sefyllfa ac yn ddiolchgar am eu diddordeb yn y gwaith.

"Rydym nawr yn ystyried gwahanol opsiynau o ran dyluniad, lleoliad ac adeiladwaith mynedfa i'r traeth yn y dyfodol."

Pynciau cysylltiedig