'Allwn ni'm rhoi dyfodol economaidd Y Bala ar stop'
- Cyhoeddwyd
Mae pryder na fydd cynlluniau mawr yn ardal Penllyn yn gallu sicrhau caniatâd cynllunio oherwydd y lefel uchel o ffosffadau sydd yno ar hyn o bryd.
Mae cynllun gwerth miliynau o bunnau ar y gweill i ehangu Rheilffordd Llyn Tegid i mewn i'r Bala ei hun, yn ogystal â chynllun i godi tai i bobl leol yn y dref.
Ond gydag Afon Dyfrdwy yn bwysig iawn o ran ei fywyd gwyllt, ofn cynghorwyr yw na fydd y datblygiadau hyn yn sicrhau caniatâd heb weithredu ar broblem ffosffadau (phosphates) yr ardal.
Mewn ymateb dywedodd Dŵr Cymru y bydd buddsoddiad o dros £6m yng ngwaith trin dŵr gwastraff Y Bala, gyda'r bwriad o wella ansawdd dŵr afonydd cyfagos.
Ond ni fydd y gwelliannau hynny wedi'u cwblhau am dros ddwy flynedd.
Mae ffosffadau yn fineralau sydd i'w darganfod mewn carthion dynol ac anifeiliaid, ac yn hybu twf planhigion.
Mae'n cael ei ddefnyddio mewn gwrtaith, ond fe all lefelau uchel o ffosffad gynyddu twf algae mewn dŵr, sydd yn ei dro yn lleihau lefelau ocsigen mewn afonydd a niweidio bywyd gwyllt.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy'n cynrychioli'r Bala ar Gyngor Gwynedd: "Y sefyllfa ar hyn o bryd ydy fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod targedau am faint o phosphates maen nhw'n ganiatáu yn Afon Dyfrdwy.
"Drwy hynny mae'r holl awdurdodau wedi dod ô phob cynllun i stop i sicrhau nad ydyn ni'n mynd yn uwch na'r targed hwnnw.
"Mae'n rhaid i ni weithio efo'n gilydd - er enghraifft mae'n rhaid i'r bwrdd dŵr [Dŵr Cymru] wneud gwaith ar fyrder ar y system garthffosiaeth yn y dref yma.
"Mae hynny'n rheswm mawr am fethu'r targed ond hefyd mae datblygwyr, er enghraifft, yn methu codi tai i bobl leol.
"Mae ganddon ni gynllun hefo Rheilffordd Llyn Tegid sy'n mynd ymlaen ers naw mlynedd. Mae'n edrych yn debyg bydd y Parc Cenedlaethol [Eryri] yn gwrthwynebu oherwydd y targed phosphate felly mae'n rhaid i rywbeth ddigwydd."
Ychwanegodd: "Dydi jyst gwrthod bob peth ddim yn dderbyniol.
"Mae gwaith trin carthion Y Bala yn hen... mae'r boblogaeth wedi cynyddu, ag i mi fod yn gwybod does 'na ddim gwaith uwchraddio wedi digwydd yn yr ardal ers nifer mawr o flynyddoedd.
"Felly ple ar iddyn nhw sortio y broblem ac i ni allu symud ymlaen."
Un arall sy'n poeni'n fawr am y sefyllfa ydy'r Cynghorydd Alan Jones Evans, sy'n cynrychioli Llanuwchllyn ar ochr arall Llyn Tegid.
"Mae 'na broblem fawr hefo ffosffadau yn dianc allan i'r Dyfrdwy, a fel mae hi rŵan mae'r system gynllunio wedi dod i stop yn llwyr oherwydd y broblem yma," meddai.
"Mae'r stop i'r broses gynllunio efo oblygiadau sylweddol i'r ardal ac hefyd mae'n rhaid i ni gofio mai un o brif afonydd Cymru ydy'r Dyfrdwy."
Wrth gyfeirio at gynllun Rheilffordd Llyn Tegid a datblygiadau arfaethedig eraill, ychwanegodd: "Allwn ni ddim rhoi holl ddyfodol economaidd Y Bala a Phenllyn ar stop tan fydd Dŵr Cymru yn gweithredu."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Yn ddiweddarach eleni bydd Dŵr Cymru'n buddsoddi dros £6m yng ngwaith trin dŵr gwastraff Y Bala.
"Bydd y buddsoddiad yma'n helpu i wella ansawdd dŵr afonydd a hefyd yn creu capasiti ar gyfer twf yn yr ardal yn y dyfodol.
"Bydd y gwaith ar y safle yn dilyn buddsoddiad o £500,000 rydym eisoes wedi'i wneud yn y rhwydwaith dŵr gwastraff yn y dref i wella ei berfformiad drwy leihau faint o ddŵr wyneb sy'n mynd i mewn i'r rhwydwaith.
"Mae disgwyl i'r gwaith yng ngwaith trin dŵr gwastraff Y Bala ddechrau yn yr hydref a bydd yn cymryd tua 20 mis i'w gwblhau.
"Bydd y buddsoddiad ar y safle yn cynyddu capasiti a'r gallu i drin ar y safle a fydd o fudd i'r gymuned leol a'r amgylchedd am ddegawdau i ddod.
"Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am y gwaith gyda rhanddeiliaid lleol a'r gymuned yn nes at yr amser."
Fe gyfeiriodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru at uwchgynhadledd diweddar ar ffosffadau, gafodd ei chadeirio gan y prif weinidog.
"Fe bwysleisiwyd yr angen i weithio'n adeiladol gyda phob sector i ddod o hyd i ddatrysiadau i leihau a mynd i'r afael â gormodedd o faetholion yn y pridd ac afonydd Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC) Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2020