Amddiffyn penderfyniad i atal adeiladu ffyrdd newydd

  • Cyhoeddwyd
Gwaith ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd ym MrynmawrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae prosiectau mawr i adeiladu ffyrdd newydd wedi cael eu hatal yng Nghymru

Mae cadeirydd panel adolygu ffyrdd wedi amddiffyn ei waith, mewn llythyr at Aelodau Senedd Cymru.

Canlyniad yr adolygiad oedd atal cynlluniau adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru, gan gynnwys rhai ffyrdd osgoi neu liniaru traffig oedd wedi bod dan ystyriaeth ers blynyddoedd.

Roedd honiadau na fu'r ymgysylltu yn ddigon eang yn ystod yr adolygiad, ond gwadu hynny wnaeth cadeirydd y panel, Dr Lynn Sloman yn ei llythyr.

Amddiffynnodd hefyd benderfyniad y panel i beidio ag ymgynghori â'r cyhoedd.

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau'r adolygiad honnodd y cyn-weinidog trafnidiaeth, Ken Skates, ei fod wedi atal adeiladu ffyrdd heb unrhyw gynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus.

Ond wrth amddiffyn yr adolygiad yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod y drafodaeth wedi bod yn "eang".

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth gwleidyddion Llafur, gan gynnwys y prif weinidog, bleidleisio dros gynnig Senedd Cymru yn beirniadu eu hadolygiad ffyrdd eu hunain.

Roedd y cynnig gan y Ceidwadwyr, gyda gwelliant gan Blaid Cymru, yn "gresynu at y diffyg ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill".

'Ymgysylltu sylweddol wedi bod'

Gan gyfeirio at y bleidlais ysgrifennodd Dr Sloman: "Mewn gwirionedd roedd ymgysylltu sylweddol wedi cael ei gynnal yn ystod yr adolygiad ffyrdd."

Cyfeiriodd at "dros 30 o gyfarfodydd gyda grwpiau allweddol".

"Trwy weithdai a chyfarfodydd eraill fe ymgysyllton ni â 14 awdurdod lleol a 25 corff yn cynrychioli busnes, twristiaeth, cludiant, sectorau logisteg, y trydydd sector, sefydliadau proffesiynol, a phobl ifanc."

Wrth gyfeirio at ymgynghori â'r cyhoedd dywedodd mai ymarferiad technegol oedd yr adolygiad ffyrdd, oedd yn "adolygu os oedd cynlluniau'n gyson a pholisïau llywodraeth oedd wedi cael eu cytuno cyn i'r cynlluniau gael eu dechrau".

Ychwanegodd ei llythyr bod ymgynghori eang eisoes wedi digwydd ynglŷn â pholisïau'r llywodraeth.