Betsi Cadwaladr: Ymddiheuriad a setliad i ddyn o Wynedd
- Cyhoeddwyd
Bron i 10 mlynedd ers i'w fam fod yn glaf yn uned iechyd meddwl yn y gogledd, mae dyn o Wynedd wedi derbyn ymddiheuriad a thaliad gan y bwrdd iechyd.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro'n "ddiamod" i David Graves am gyfres o "fethiannau" yn y gofal gafodd ei fam ac am y "loes" gafodd ei achosi iddo ef a'i deulu wrth geisio cael atebion gan y bwrdd am "lawer o flynyddoedd".
Fe dreuliodd Jean Graves bron i naw wythnos, pan oedd hi'n 78 oed, yn Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd yn 2013, ble mae ei mab yn honni iddi golli llawer o bwysau a chwympo droeon.
Ond pan gwynodd David Graves wrth y bwrdd iechyd, fe ddechreuodd ar frwydr fyddai'n para blynyddoedd.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod yn gobeithio "dysgu a gwella" o brofiadau Mr Graves.
Mewn llythyr at David Graves, mae cyfarwyddwyr yn dweud: "Mae'n eglur iawn i ni ein bod wedi gwneud cam â'ch mam ac y dylai hi fod wedi cael gofal gwell gan ein gwasanaethau."
Ymysg y methiannau sy'n sail i'r ymddiheuriad mae'r ffaith bod cofnodion meddygol Mrs Graves yn anghyflawn neu wedi eu "newid heb dystiolaeth ddigonol", a'r ffaith ei bod wedi ei rhoi ar ward gyda chymysgedd o gleifion seiciatrig a rhai oedrannus, a doedd hyn ddim yr "arfer gorau".
Fe ddaeth yr ymddiheuriad ar ôl i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus gasglu bod cofnodion meddygol Mrs Graves yn "ymddangos yn anghyflawn, yn gwrth-ddweud eu hunain ac yn edrych fel petaen nhw wedi cael eu newid".
Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn ymddiheuro am y modd y gwnaethon nhw ymdrin â phryderon Mr Graves ac am y modd y cafodd o a'i deulu eu trin.
Mae hyn yn cynnwys methu sicrhau eu bod yn ymchwilio'n iawn i'w bryderon, atal ei e-byst a sylwadau "anaddas a gofidus" gan "uwch swyddogion a staff" oedd yn ymdrin â'i achos.
'Beth yw pris 10 mlynedd o'ch bywyd?'
Wrth ymateb i'r ymddiheuriad gan gyfarwyddwr meddygol a chyfarwyddwr dros iechyd meddwl Betsi Cadwaladr, dywedodd David Graves: "Diolch o galon i'r cyfarwyddwr wnaeth arwyddo hwn.
"Dwi mor ddiolchgar am be' maen nhw wedi'i wneud.
"Ar yr un pryd, mae 10 mlynedd o fy mywyd wedi mynd pan y dylai'r ymddiheuriad yna fod wedi ei anfon ata' i 10 mlynedd yn ôl.
"Beth yw pris 10 mlynedd o'ch bywyd? Pan dydych chi ddim wedi bod yn byw eich bywyd, ddim wedi bod yn bresennol, yn meddwl am ddim ond yr un peth sy'n eich cadw yn effro bob nos a phryderon na fedrwch chi eu hanghofio."
Mae Mr Graves wedi derbyn taliad pum ffigwr gan y bwrdd iechyd.
Yn yr un mis ag yr aeth Jean Graves i Uned Hergest, fe ysgrifennodd staff o'r uned at gyfarwyddwyr yn cwyno am yr amodau yno.
Cafodd ymchwiliad ei gynnal ac fe gasglodd yr adroddiad terfynol, Adroddiad Holden, bod yr uned mewn "trafferthion difrifol".
Ond ni chafodd y ddogfen honno ei chyhoeddi'n llawn tan i'r bwrdd iechyd gael eu gorfodi i wneud hynny, saith mlynedd yn ddiweddarach yn 2021.Yn ystod y blynyddoedd hynny, roedd David Graves yn dal i geisio cael atebion i achos ei fam, gyda chymorth Cyngor Iechyd Cymuned y gogledd.
Yn ôl y prif weithredwr, Geoff Ryall-Harvey, roedd y broses yn "anodd" i Mr Graves a'r cyngor.
"Dwi'n meddwl bod 'na ffordd o feddwl lle roedd cwynion fel hyn yn gêm yr oedd rhaid ei hennill neu ei cholli," meddai.
"Nid dyna ydyn nhw. Maen nhw'n gyfleoedd i ddysgu, a doedd rhai pobl ddim eisiau dysgu o beth ddigwyddodd.
"Yna fe gafodd camgymeriadau eu gwaethygu wrth geisio cuddio'r camgymeriadau hynny, a 'dych chi'n cyrraedd sefyllfa lle mae'n cymryd 10 mlynedd i'w ddatrys.
"Mae'r ymateb mae o wedi ei gael yn agored a didwyll, ac yn rhywbeth a ddylai fod wedi digwydd ar y dechrau."
'Diolch i'r aelodau sydd wedi gadael'
Fe ddaeth y llythyr o ymddiheuriad i Mr Graves yn yr un mis ag y cafodd holl aelodau annibynnol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu gorfodi o'u swyddi gan y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.
Ond mae Mr Graves yn credu na fyddai wedi cael y maen i'r wal heb yr aelodau hynny.
"Dwi eisiau diolch i'r aelodau hynny sydd wedi gadael - yr aelodau annibynnol," meddai.
"Hebddyn nhw fyddai'r materion yma ddim wedi eu datrys."
Fe ymyrrodd y gweinidog iechyd ar ôl adroddiad beirniadol iawn gan y Swyddfa Archwilio a gasglodd bod "rhaniadau eglur a dwfn" yn y tîm gweithredol.
"Mae'r ymddiheuriad yma wedi ei arwyddo gan bobl oedd yn ceisio gwneud y peth iawn, yn benderfynol o wneud y peth iawn," meddai Mr Graves, "ond ar ôl 10 mlynedd lle gwnaeth eraill rwystro'r broses."
Dysgu gwersi
Dywedodd Teresa Owen, cyfarwyddwr arweiniol dros iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "A ran y bwrdd iechyd, rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant i Mr Graves am y methiannau yn y gofal i'w fam ac am sut y gwnaethom ymdrin â'i bryderon.
"Rwy'n diolch i Mr Graves am rannu ei brofiadau a'i argraffiadau personol ac rwy'n gwerthfawrogi na fu hyn yn hawdd.
"Ar ôl gwrando'n ofalus, mae'r bwrdd iechyd yn canolbwyntio ar ddefnyddio profiad Mr Graves i barhau i ddysgu a gwella ein gwasanaethau."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ni allwn wneud sylwadau ar achosion unigol.
"O ran cyn-aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, diolchodd y gweinidog iddynt yn ei datganiad ar 27 Chwefror, lle eglurodd hefyd y rhesymau dros y newidiadau oedd eu hangen o fewn y bwrdd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Awst 2020